
Llwyddiant Lansiad y Llyfr Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru

Neithiwr, 5 Rhagfyr 2012, er gwaethaf y tywydd oer, daeth llawer o bobl ynghyd ar gyfer lansiad llyfr diweddaraf y Comisiwn Brenhinol, Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru / Inside Welsh Homes. Mwynhaodd yr ymwelwyr ddwy sgwrs fywiog gan yr awduron, Richard Suggett a Rachael Barnwell, ar hanes y cartref yng Nghymru. Ar ôl i’r awduron lofnodi copïau o’u llyfr ac i bawb gael cynnig mins-peis a sudd ffrwythau twym, cafodd yr ymwelwyr gyfle i fynd i’r llyfrgell ac ystafell ymchwil i weld arddangosfa o ddeunydd archifol gwreiddiol o’r casgliadau helaeth sydd yng ngofal Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Gellir gweld mwy o luniau o’r digwyddiad ar dudalen Facebook y Comisiwn Brenhinol.
12/06/2012