Llwyddiant Llechi Cymru! Mae Pwyllgor Treftadaeth y Byd UNESCO wedi dynodi Tirwedd Lechi Gogledd-orllewin Cymru yn Safle Treftadaeth y Byd.

Yn gynharach heddiw, fe glywsom y newyddion gwych fod UNESCO wedi dynodi Tirwedd Lechi Gogledd-orllewin Cymru yn Safle Treftadaeth y Byd. Mae’r Dirwedd Lechi yn ymuno â Dinas Caerfaddon, Hen Dref a Thref Newydd Caeredin, Ceunant Ironbridge, a Dyfrbont Pontcysyllte fel tirweddau hanesyddol sydd o Werth Cyffredinol Eithriadol yn y DU. Hwn yw’r 33ain Safle Treftadaeth y Byd yn y DU a’r 4ydd yng Nghymru.

Arweiniwyd y cais Enwebu llwyddiannus gan Gyngor Gwynedd ar ran partneriaeth a oedd yn cynnwys y Comisiwn Brenhinol; Llywodraeth Cymru – Cadw; Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri; Amgueddfa Cymru; Prifysgol Bangor, a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’n benllanw blynyddoedd lawer o waith caled gan y partneriaid i gofnodi, diogelu a chydnabod gwaddol byw tirwedd lechi Gwynedd yn lleol ac yn rhyngwladol ac, fel y mae cyhoeddiad heddiw yn ei ddangos, buont yn hynod o lwyddiannus. Yn y ddogfen Enwebu fe dynnwyd sylw at bwysigrwydd diwylliant yn ogystal â diwydiant, gan nodi bod Tirwedd Lechi Gogledd-orllewin Cymru yn enghraifft ragorol o dirwedd ddiwydiannol a diwylliannol a grëwyd gan gloddio am lechi ar raddfa fawr a chan drin a chludo llechi ar gyfer marchnadoedd lleol a rhyngwladol.

“Tirwedd Lechi Gogledd-orllewin Cymru yn enghraifft ragorol o dirwedd ddiwydiannol a diwylliannol a grëwyd gan gloddio am lechi ar raddfa fawr a chan drin a chludo llechi ar gyfer marchnadoedd lleol a rhyngwladol”

Pwysleisiodd y ddogfen fod iaith a diwylliant Cymraeg Tirwedd Lechi Gogledd-orllewin Cymru yn rhan annatod o’r Enwebiad a bod y dirwedd yn parhau i ysgogi creadigrwydd. Credir y bydd yr Enwebiad yn cynyddu balchder ymysg cymunedau’r ardaloedd llechi, yn helpu i adfywio’r dirwedd lechi o safbwynt economaidd a chymdeithasol, ac yn hybu a dathlu’r diwylliant cyfoethog yn y rhan hon o Gymru.

Dywedodd Christopher Catling, Ysgrifennydd a Phrif Weithredwr y Comisiwn Brenhinol, y bu ei staff o gymorth wrth lunio’r ddogfen Enwebu:

Mae llafur a dyfeisgarwch dynol wedi creu tirwedd ryfeddol sy’n cyfuno nodweddion naturiol a rhai o waith dyn ac sy’n llwyr haeddu cael ei chynnwys yn yr haen uchaf o safleoedd treftadaeth y byd.’ Christopher Catling, Ysgrifennydd a Phrif Weithredwr y Comisiwn Brenhinol

Ychwanegodd, ‘Mae tystiolaeth helaeth o’r broses gyfan o gynhyrchu llechi i’w gweld yn y fan hyn, o’r chwareli ar ochr y mynydd a’r cloddfeydd enfawr o dan y ddaear i’r cytiau injan, cytiau olwyn a melinau, wedi’u pweru gan systemau dŵr dyfeisgar, yr oedd eu hangen i weithio’r llechfaen, i’r incleiniau a’r rhaffyrdd awyr a ddefnyddid i gludo’r llechfaen a llechi gorffenedig o fryniau anghysbell i’r tramffyrdd, ac i’r rheilffyrdd cul a gludai’r llechi drwy’r dirwedd fynyddig anodd i’r porthladdoedd ym Mhorth Penrhyn a Phorthmadog i’w llwytho ar longau a hwyliai i bedwar ban byd.’

Fe wnaeth y Comisiwn Brenhinol gyfraniad hanfodol i’r ddogfen Enwebu drwy ddarparu cymorth archifol ac arbenigol, dan arweiniad Louise Barker, uwch archaeolegydd. Pan glywodd y cyhoeddiad, dywedodd Louise, ‘Newyddion anhygoel yw hyn a’r diweddglo perffaith i flynyddoedd o waith gan y bartneriaeth. Roedd yn fraint chwarae rhan mor allweddol yn y cais a chael gweithio gyda thîm mor gryf i hyrwyddo’r dirwedd nodedig hon.’

‘Newyddion anhygoel yw hyn a’r diweddglo perffaith i flynyddoedd o waith gan y bartneriaeth. Roedd yn fraint chwarae rhan mor allweddol yn y cais a chael gweithio gyda thîm mor gryf i hyrwyddo’r dirwedd nodedig hon.’ Louise Barker, Uwch Archaeolegydd

Erbyn y 1890au roedd diwydiant llechi Cymru yn cyflogi tua 17,000 o weithwyr ac yn cynhyrchu bron 500,000 tunnell o lechi’r flwyddyn, tua un rhan o dair o’r holl lechi to a ddefnyddid yn y byd ar y pryd. Fe gafodd y diwydiant effaith enfawr ar bensaernïaeth fyd-eang. Mae llechi o Gymru wedi cael eu defnyddio ar adeiladau ar hyd a lled y byd, gan gynnwys Neuadd Westminster yn y Senedd yn Llundain, yr Adeilad Arddangosfeydd Brenhinol ym Melbourne, a Neuadd y Ddinas yn Copenhagen, Denmarc. Ym 1830, roedd gan hanner yr adeiladau yn Efrog Newydd doeau o lechi Cymreig.

Dyma’r adeg i ddathlu amrywiaeth gyfoethog treftadaeth diwydiant llechi Gogledd-orllewin Cymru. Mae cymunedau Tirwedd Lechi Gogledd-orllewin Cymru yn parhau i arloesi, ac mae’r dynodiad Safle Treftadaeth y Byd hwn yn cydnabod tirwedd ddiwylliannol nodedig diwydiant llechi Cymru a’i gyfraniad i hanes y byd.

Y tirweddau sy’n ffurfio’r Safle Treftadaeth Byd hwn yw: 

  • Chwarel Lechi Penrhyn, tref Bethesda, a Dyffryn Ogwen i Borth Penrhyn 
  • Tirwedd Fynyddig Chwarel Lechi Dinorwig, Llanberis 
  • Tirwedd Chwareli Llechi Dyffryn Nantlle 
  • Chwareli Llechi Gorseddau a Prince of Wales, Rheilffyrdd a Melin 
  • Ffestiniog: ei Cheudyllau a Chwareli Llechi, ‘prifddinas y llechi’ a’r Rheilffordd i Borthmadog 
  • Chwarel Lechi Bryneglwys, Pentref Abergynolwyn a Rheilffordd Talyllyn. 

I ddathlu enwebiad llwyddiannus Tirwedd Lechi Gogledd-orllewin Cymru yn Safle Treftadaeth y Byd, bydd gostyngiad arbennig o £10 ar ein llyfr arobryn ‘Llechi Cymru’ hyd ddiwedd Awst. https://shop.rcahmw.gov.uk/collections/books/products/llechi-cymru-archaeoleg-a-hanes

Ymunwch â ni a’r Grŵp Partneriaeth Llechi ar 3 Awst yn Eisteddfod AmGen yr wythnos nesaf ar daith i weld tirwedd, cymunedau, celfyddydau a phobl ifanc yr ardal eiconig hon ar dudalen Facebook Y Lle Hanes. Bydd y digwyddiadau’n cynnwys sgyrsiau, teithiau tywys ac arddangosfeydd. Bydd yr Arglwydd Dafydd Wigley yn rhoi un o’r sgyrsiau, ac fe fydd taith gerdded Lle-Chi yng nghwmni Ifor ap Glyn, y Bardd Cenedlaethol.

07/28/2021

guest
0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x