
Llyfr Morwrol Darluniedig Gorau’r Flwyddyn: Cymru a’r Môr: 10,000 o Flynyddoedd o Hanes y Môr
Yng Ngwobrau Llenyddol Mountbatten y Sefydliad Morwrol rhoddwyd Tystysgrif Teilyngdod i Cymru a’r Môr: 10,000 o Flynyddoedd o Hanes y Môr, ‘llyfr llawn darluniau gwych’ a gyhoeddwyd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
O blith 76 o lyfrau o bedwar ban byd ar themâu morwrol, cafodd Cymru a’r Môr ei roi ar y rhestr fer hefyd am wobr y Llyfr Gorau yng Ngwobrau’r Cyfryngau Morwrol blynyddol a gyhoeddwyd ar 29 Hydref 2020.
Meddai Christopher Catling, Ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol:
‘Fel gwlad ag arfordir hir, mae gan Gymru hanes morwrol hir a balch sy’n cael ei adlewyrchu yn y lluniau archifol trawiadol a’r gweithiau celf niferus, yn ogystal â’r gwrthrychau mewn amgueddfeydd, a ddarlunnir yn y llyfr hwn ac sy’n dweud cymaint wrthym am y bobl ddirifedi yr oedd eu bywydau’n gysylltiedig â’r môr.’
Cyhoeddwyd y llyfr ar wahân yn y Gymraeg a’r Saesneg a cheir ynddo 348 o dudalennau a mwy na 300 o ddelweddau sy’n dod o gasgliadau enfawr archif y Comisiwn Brenhinol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac Amgueddfa Cymru.
Dyma’r astudiaeth gynhwysfawr gyntaf o hanes morwrol Cymru ac mae’r 52 o gyfranwyr, pob un ohonynt yn arbenigwyr yn eu maes, wedi ymdrin â phob agwedd ar gysylltiad Cymru â’r môr, o geufadau cynhanesyddol a llongau masnach yr Oes Efydd i long Casnewydd, o hanes y llynges i wyliau glan môr, ac o oleudai a llongddrylliadau i waith achub bywydau Sefydliad y Badau Achub.
Rhoddir sylw yn y llyfr i longau cefnforol a’r cychod arfordirol a gludai gynnyrch chwareli llechi a chalch, pyllau glo a mwyngloddiau copr Cymru. Mae’n cwmpasu pob math o gwch: smaciau a slwpiau, badlongau, dandis a iolau, yn ogystal â chlipers te, llongau rhyfel, llongau ysbyty, llongau tanfor, llongau gosod ceblau a charthlongau tywod, heb anghofio’r cwrwgl hynafol.
Mae’r rhestr hir hon yn cyfleu dyfnder ac amrywiaeth profiad Cymru o’r môr ar hyd yr oesoedd, sy’n dechrau gydag ôl troed 10,000 o flynyddoedd oed a ddarganfuwyd yn siltiau rhynglanw Môr Hafren ac yn gorffen drwy roi cipolwg ar y dyfodol – cynlluniau i greu trydan o’r gwynt a’r llanw a chynlluniau cadwraeth forol.
Fel y mae’r is-deitl ‘10,000 o flynyddoedd o hanes y môr’ yn ei awgrymu, nod y llyfr yw cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o dreftadaeth forwrol hirfaith Cymru a dathlu gwaith y rheiny sydd, heb fawr ddim cydnabyddiaeth, yn diogelu gwaddol morwrol y genedl.
Gellir cael Cymru a’r Môr: 10,000 o Flynyddoedd o Hanes y Môr / Wales and the Sea: 10,000 Years of Welsh Maritime History yn uniongyrchol o’n Siop Lyfrau am £24.99 gan gynnwys cludiant.
Bydd y llyfr arobryn hwn sy’n ymdrin â Chymru a’r môr yn gwneud anrheg Nadolig delfrydol i unrhywun syn ymddiddori yn archaeoleg a hanes Cymru, ein diwylliant a threftadaeth ddiwydiannol, a phob peth morwrol.
I gael mwy o fanylion, cysylltwch â Nicola Roberts:
nicola.roberts@cbhc.gov.uk
ffôn: 01970 621248.







11/03/2020