
Llyfr y Comisiwn Brenhinol ar y Diwydiant Llechi yng Nghymru yn Cyrraedd y Rhestr Fer ar Gyfer Gwobrau Archeolegol Prydain 2016
Mae’r rhestr fer ar gyfer Gwobrau Archeolegol Prydain, a roddir am y darganfyddiadau a datblygiadau arloesol diweddaraf ym maes archeoleg ar draws y DU, wedi’i rhyddhau heddiw gan y beirniaid.
Mae llyfr newydd David Gwyn ar archaeoleg a hanes diwydiant llechi Cymru, a gynhyrchwyd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, wedi’i roi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Llyfr Archeoleg Gorau 2016. Cyhoeddir y canlyniadau yn ystod seremoni cyflwyno Gwobrau Archeolegol Prydain dan arweiniad Julian Richards, y cyflwynydd teledu ac archaeolegydd ‘Meet the Ancestors’, yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain ar 11 Gorffennaf.
Bydd y seremoni hefyd yn nodi lansio Gŵyl Archeoleg flynyddol Cyngor Archeoleg Prydain a gynhelir rhwng 16 a 31 Gorffennaf. Bydd mwy na 1000 o ddigwyddiadau y gall y cyhoedd gymryd rhan ynddynt, llawer ohonynt am ddim, yn cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru a’r DU.
Caiff y prosiectau a chyhoeddiadau a gynigir ar gyfer Gwobrau Archeolegol Prydain eu beirniadu gan baneli annibynnol o arbenigwyr blaenllaw sy’n gweithio ym mhob maes archaeolegol, gan gynnwys y sectorau proffesiynol a gwirfoddol.
Meddai Christopher Catling, Ysgrifennydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru:
“Mae’n rhyfeddol meddwl bod cymaint ag un rhan o dair o holl lechi to y byd yn dod o Gymru erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r llyfr hynod ddifyr hwn yn defnyddio tystiolaeth archaeolegol a chyfoeth o ffynonellau gwreiddiol a ffotograffau i olrhain hanes y diwydiant a roddodd Cymru ar y map diwydiannol. Rydym wrth ein bodd bod y beirniaid wedi cydnabod camp David a gwaith y Comisiwn Brenhinol.”
Ychwanegodd Dr David Gwyn, awdur y llyfr:
“Rydw i’n hynod falch bod fy llyfr wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon, ac o glywed bod y diwydiant pwysig hwn, sydd ar hyn o bryd yn ymgeisydd ar gyfer statws Treftadaeth Byd, wedi dod yn ganolbwynt cymaint o ddiddordeb a sylw yn y gymuned archaeolegol.”
Mae’r llyfr ar gael yn y Gymraeg ac yn y Saesneg:
Llechi Cymru: Archeoleg a Hanes (ISBN: 978-1871184-52-5).
Welsh Slate: Archaeology and History of an Industry (ISBN: 978-1871184-51-8)
Llyfrau fformat mawr yw’r rhain, yn cynnwys 291 o dudalennau a 243 o ddelweddau o ansawdd uchel. Y pris yw £45.
Nododd Deborah Williams, Cadeirydd Gwobrau Archeolegol Prydain,
“Mae’r cynigion eleni’n adlewyrchu cyfoeth ac amrywiaeth anhygoel y gwaith archaeolegol sy’n cael ei wneud yn y Deyrnas Unedig, safon ac arbenigedd ein harchaeolegwyr arloesol, a diddordeb cynyddol y cyhoedd yn hanes ac archeoleg eu hardal leol.
“Mae mwy a mwy o archaeolegwyr yn ymateb i’r diddordeb hwn drwy ddatblygu ffyrdd newydd o helpu pobl i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil a chloddio, i gychwyn eu prosiectau eu hunain, ac i rannu a deall darganfyddiadau newydd – ac mae’r duedd hon i’w gweld yn glir yn y cynigion sydd wedi cyrraedd y rhestr fer.”
Gwelir amrywiaeth eang o brosiectau ar y rhestr fer, o bob rhan o’r DU. Ceir arni gloddiadau mawr yn sgil datblygiadau mewn dinasoedd fel prosiect ‘Westgate Oxford’ gan Oxford Archeology South, ‘London’s Lost Graveyard: the Crossrail Discovery’ a gafodd sylw yn rhaglen ‘Secret History’ cwmni True North Production ar gyfer Sianel 4, a phrosiectau ymchwil tymor-hir gan brifysgolion megis prosiect ‘Silchester Town Life’ a ‘Dig Greater Manchester’. Ceir hefyd brosiectau cymunedol megis prosiect‘Hearth, Home and Farm’ Ymddiriedolaeth Whithorn yn Dumfries a Galloway, a phrosiect ‘Battles, Bricks and Bridges’ yn Swydd Fermanagh, yn ogystal â phrosiectau partneriaeth traws-gymunedol sy’n cynhyrchu adnoddau addysgu newydd megis ‘The Picts: a learning resource’ gan Gomisiwn Coedwigaeth yr Alban a’r‘Ulster-Scots Archaeological Services Project’ yng Ngogledd Iwerddon.
Mae nod cyffredin yn uno pob un o’r rhain, sef cynnwys a thanio brwdfrydedd pobl ifanc a’r cyhoedd yn archaeoleg Prydain.
Mae’r llyfrau ar y rhestr fer yn adrodd hanes diwydiant llechi Cymru, yn archwilio’r olion cyfoethog ar ynys St Kilda yn Ynysoedd Heledd Allanol, ac yn ein helpu i wneud synnwyr o’r damcaniaethau ynghylch Côr y Cewri, dirgelwch archeolegol pennaf Prydain.
Dethlir ymdrechion archeoleg i hyrwyddo a manteisio ar dechnegau arloesol. Mae app Digital Dig Team a gynhyrchwyd ganDigVentures yn rhannu ‘darganfyddiadau’ cloddio ar unwaith ar-lein ac ar gyfryngau cymdeithasol, a chynhwyswyd animeiddiad papur gydag ‘Under London’ gan National Geographic i helpu’r darllenydd i ddeall cronoleg yr archeoleg o dan y ddinas.
Mae cylchgrawn ‘Internet Archaeology’ a ‘Postglacial Project’Prifysgol Efrog yn defnyddio Delweddu Trawsffurfiad Adlewyrchiant (RTI), modelu 3D a ffeiliau amlgyfrwng wedi’u mewnblannu i helpu cyd ymchwilwyr a’r cyhoedd i ddehongli darganfyddiadau newydd drostynt eu hunain ac i ddeall yr hyn y maent hwy’n ei ddweud wrthym am y gorffennol a’r byd o’n cwmpas.
Y cynigion sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yw:
PROSIECT ARCHEOLEGOL GORAU
- ‘Silchester Town Life’, Prifysgol Reading
- ‘Ulster-Scots Archaeological Services Project’,AECOM/The Irish Archaeological Consultancy Ltd
- ‘Westgate Oxford’, Oxford Archaeology South
PROSIECT ARCHEOLEG GYMUNEDOL GORAU
- ‘Battles, Bricks and Bridges’, Cymdeithas Gymunedol Cleenish a Chymdeithas Datblygu Cymunedol Killesher
- ‘Dig Greater Manchester’, Y Ganolfan Archeoleg Gymhwysol, Prifysgol Salford
- ‘Whithorn: Hearth, Home and Farm’, gyda Dig TV, Ymddiriedolaeth Whithorn
LLYFR ARCHEOLEGOL GORAU
- ‘St Kilda: The Last and Outmost Isle’, Angela Gannon a George Geddes, Comisiwn Brenhinol Henebion yr Alban
- ‘Stonehenge: Making sense of a prehistoric mystery’, Mike Parker Pearson gyda Joshua Pollard, Colin Richards, Julian Thomas a Kate Welham, Cyngor Archeoleg Prydain
- ‘Llechi Cymru – Archaeoleg a Hanes’, David Gwyn, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
CYFLWYNIAD CYHOEDDUS ARCHEOLEGOL GORAU
- ‘The Picts: a learning resource’, Comisiwn Coedwigaeth yr Alban
- Secret History, ‘London’s Lost Graveyard: The Crossrail Discovery’, True North Productions ar gyfer Sianel 4
- ‘Under London’, Cylchgrawn y National Geographic
DATBLYGIAD ARLOESOL ARCHEOLEGOL GORAU
- ‘Digital Dig Team’, DigVentures
- Internet Archaeology, Prifysgol Efrog
- POSTGLACIAL Project, Prifysgol Efrog
Gallwch weld manylion y prosiectau sydd ar y rhestr fer ynwww.archaeologicalawards.com a dilyn hynt y Gwobrau ar twitter @BAAWARDSUK
Nodiadau i olygyddion:
1. Cynhelir Gwobrau Archeolegol Prydain bob dwy flynedd a chânt eu rheoli gan elusen annibynnol, dan gadeiryddiaeth Deborah Williams o Historic England, ac ymddiriedolwyr sy’n cynrychioli pob sector o’r proffesiwn. Noddir Gwobrau 2016 gan Ymddiriedolaeth Robert Kiln, Cymdeithas Hynafiaethwyr Llundain, yr Amgueddfa Brydeinig, y Cynllun Hynafiaethau Cludadwy, Historic England, Sefydliad Siartredig yr Archeolegwyr, Archaeology Scotland, Historic Environment Scotland, a Cadw. I weld manylion yr ymddiriedolwyr a’r noddwyr ewch i:www.archaeologicalawards.org.uk
Sefydlwyd y Gwobrau ym 1976 ac felly buont yn cael eu cynnal ers 38 mlynedd. Mae pum categori o wobrau ac mae gwobrau dewisol ar gael hefyd ar gyfer Cyflawniad Rhagorol a’r Darganfyddiad Gorau. Nod y Gwobrau yw hybu addysg archeolegol gyhoeddus ac astudio ac ymarfer archaeoleg yn ei holl agweddau yn y Deyrnas Unedig ac, yn arbennig, rhoi grantiau ar sail rhagoriaeth neu am resymau priodol eraill.
Mae amcanion y Gwobrau fel a ganlyn: cael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi gan archeolegwyr, y rheiny y gweithiant gyda hwy a’r cyhoedd; hwyluso a dathlu arfer da ym maes archeoleg; tynnu sylw at y ddisgyblaeth, a helpu i sicrhau mwy o gydnabyddiaeth i archeoleg oherwydd ei gwerth academaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a chysylltiadau cyhoeddus.
2. Rhoddir y Gwobrau i gydnabod agweddau ar archeoleg o’r ddwy flynedd ddiwethaf sydd wedi’u henwebu gan y gymuned archeolegol a’u beirniadu’n annibynnol gan baneli o arbenigwyr o bob rhan o’r sector archeoleg:
Cadeiryddion y Paneli Beirniadu ar gyfer cynigion 2016 oedd:
- Prosiect Archeolegol Gorau: John Lewis
- Prosiect Archeoleg Gymunedol Gorau: Eila Macqueen
- Llyfr Archeolegol Gorau: Paul Stamper
- Cyflwyniad Cyhoeddus Archeolegol Gorau: Louise Ennis
- Datblygiad Arloesol Archeolegol Gorau: Andrew Davidson
- Cyhoeddir enwau’r enillwyr ar wefan Gwobrau Archeolegol Prydain ar ôl y seremoni ar 11 Gorffennaf:www.archaeologicalawards.org.uk
4. Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yw corff ymchwilio ac archif cenedlaethol amgylchedd hanesyddol Cymru. Ef sydd â’r rôl arweiniol o ran sicrhau y caiff treftadaeth archeolegol, adeiledig ac arforol Cymru ei chofnodi’n awdurdodol, a bydd yn ceisio hyrwyddo deall a gwerthfawrogi’r dreftadaeth honno’n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Gwefan: www.rcahmw.gov.ukTwitter: @RCAHMWalesFacebook: https://www.facebook.com/Royal-Commission-on-the-Ancient-and-Historical-Monuments-of-Wales-146120328739808/
5. Os hoffech gael mwy o wybodaeth neu luniau, neu drefnu cyfweliad, cysylltwch â: Nicola Roberts: nicola.roberts@cbhc.gov.ukFfôn:– 01970 621248
www.archaeologicalawards.org.uk
Twitter: @BAAWARDSUK Facebook:https://www.facebook.com/baawards
06/03/2016