
Llythrennau yn y goedwig
Mae ein casgliadau o awyrluniau fertigol Arolwg Ordnans yn cynnwys printiau 9 modfedd x 9 modfedd, a helaethiadau 20 modfedd x 20 modfedd. Mae’r lefel o fanylder yn y lluniau hyn yn rhyfeddol ac maen nhw’n dangos nodweddion yn y dirwedd nad oes modd eu gweld ar y ddaear. Er y gallant fod yn safleoedd archaeolegol a phensaernïol, mae’n bosibl bod rhesymau topograffigol weithiau am siapiau anarferol a welir oddi fry.

Mae’r llythrennau CRVE i’w gweld yn glir ymysg coed Coedwig Brechfa.
Sut bynnag, wrth fynd drwy’r casgliadau’n ddiweddar, gwelwyd siapiau yn ddwfn yng Nghoedwig Brechfa a oedd yn amlwg o waith dyn.
Tynnwyd y ffotograff gan yr Arolwg Ordnans yn ystod hediad o’r dwyrain i’r gorllewin ar 8,100 troedfedd ar 28 Ebrill 1976. Yn OS NGR SN559315, o fewn y rhesi taclus o goed, mae yna lennyrch sydd ar siapiau pedair llythyren: CRVE. Amcangyfrifwn fod pob llythyren tua 55 metr o hyd. Gwnaed ymdrech fawr i greu’r nodwedd hon dros ddeugain mlynedd yn ôl, ac eto mae ei tharddiad a’i phwrpas yn ddirgelwch llwyr.
Gan Medwyn Parry
19/09/2016