
Mae gwaith CHERISH wedi bod yn parhau’r wythnos hon yng Nghastell Bach, caer arfordirol yng Ngheredigion
Mae gwaith CHERISH wedi bod yn parhau’r wythnos hon yng Nghastell Bach, caer arfordirol yng Ngheredigion. Y llynedd fe ymgymerwyd ag arolwg drôn o’r heneb i gasglu data man cychwyn ar gyfer monitro yn y dyfodol ac mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer cwr gorllewinol y safle sy’n erydu’n gyflym.
Rydym bellach yn ymgymryd â rhaglen o waith i wella ein dealltwriaeth o’r heneb. Ar Ddydd Mawrth, ar ddiwrnod gwanwynol heulog hyfryd ac yng nghwmni merlod cyfeillgar, cwblhawyd arolwg archaeolegol gan ddefnyddio System Llywio Lloeren Byd-eang (GNSS), ac yn ddiweddarach yr wythnos hon byddwn yn cynnal arolwg geoffisegol a fydd, gobeithiwn, yn canfod nodweddion archaeolegol sydd wedi’u claddu o dan yr wyneb.
Mae Castell Bach yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth
Genedlaethol a gall y cyhoedd fynd ato ar hyd llwybr Arfordir Cymru/Ceredigion. Gallwch gael mwy o wybodaeth am y safle, gan gynnwys lluniau, drwy fynd i:
https://coflein.gov.uk/en/site/93914/details/castell-bach-cwmtydu





03/29/2019