Mae’r Comisiwn Brenhinol yn arwain prosiect €4m newydd wedi’i ariannu gan yr UE

Cherish-Logo-Trilingual

Mae’r Comisiwn Brenhinol yn arwain prosiect €4m newydd wedi’i ariannu gan yr UE sy’n cefnogi cydweithredu ar safleoedd arfordirol a threftadaeth yng Nghymru ac Iwerddon

Y Comisiwn Brenhinol, mewn partneriaeth â’r Discovery Programme: Centre for Archaeology and Innovation Ireland, Prifysgol Aberystwyth: Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, ac Geological Survey, Ireland, yw arweinydd prosiect cyffrous ac arloesol newydd, wedi’i ariannu gan Ewrop, sy’n ymchwilio i safleoedd treftadaeth arfordirol yn y ddwy wlad.

Bydd y prosiect CHERISH (Hinsawdd, Treftadaeth ac Amgylcheddau Riffiau, Ynysoedd a Phentiroedd) – Newid Hinsawdd a Threftadaeth yr Arfordir’ – yn parhau am 5 mlynedd ac yn cael ei ariannu drwy raglen Iwerddon-Cymru yr Undeb Ewropeaidd. Nod y prosiect yw helpu sefydliadau arbenigol yng Nghymru ac Iwerddon i ddefnyddio’r technolegau diweddaraf i ddadansoddi archaeoleg arfordiroedd ac ynysoedd a safleoedd treftadaeth arforol yr effeithir arnynt fwyaf gan newid hinsawdd, erydiad arfordirol, tywydd stormus a chodiadau yn lefel y môr.

Rhai o’r safleoedd twristiaeth a threftadaeth a astudir yng Nghymru yw gwarchodfeydd natur enwog Ynys Sgomer ac Ynys Dewi oddi ar arfordir Sir Benfro, ac ynysoedd a riffiau anghysbell fel Ynys Gwales ac Ynysoedd y Moelrhoniaid, Môn, ynghyd â chaerau pentir arfordirol a safleoedd treftadaeth ar ben clogwyni sydd dan fygythiad yn ne-orllewin a gogledd-orllewin Cymru.

Dywedodd Christopher Catling, ysgrifennydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru:

“Dyma brosiect newydd cyffrous. Mae CHERISH yn uno archeolegwyr, geowyddonwyr ac arbenigwyr y môr i fynd i’r afael â’r heriau sylweddol sy’n peryglu’r amgylchedd hanesyddol o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd.

“Bydd y prosiect hefyd yn ein galluogi ni am y tro cyntaf i gynnal gwaith maes ar rai o dirweddau archeolegol cyfoethocaf Cymru ac Iwerddon. Ry’n ni’n credu y bydd hyn yn arwain at lawer o gyfleoedd newydd a chyffrous ym maes twristiaeth treftadaeth ac arfordirol y ddwy wlad.”

Darllenwch y Datganiad i’r Wasg llawn

 

Cysylltau gwe:

 

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â:

Louise Barker, Uwch Ymchwilydd: Louise.barker@cbhc.gov.uk

Dr Toby Driver, Uwch Ymchwilydd: Toby.driver@cbhc.gov.uk

 

Staff y Comisiwn Brenhinol yn arolygu ynys anghysbell Gwales yn 2016

Staff y Comisiwn Brenhinol yn arolygu ynys anghysbell Gwales yn 2016. Mae’n eiddo i’r RSPB ac yn cael ei rheoli ganddi. Ni chaniateir i’r cyhoedd lanio ar y warchodfa natur hon, sydd wedi’i diogelu i lefel uchel iawn.

 

Ynys Dewi, gwarchodfa natur o eiddo’r RSPB, yn edrych i’r gogledd-ddwyrain tuag at dir mawr Sir Benfro

Ynys Dewi, gwarchodfa natur o eiddo’r RSPB, yn edrych i’r gogledd-ddwyrain tuag at dir mawr Sir Benfro. (AP_2006_2398)

 

Ynysoedd bach y Moelrhoniaid oddi ar arfordir Môn, sy’n gartref i oleudy, adeiladau hanesyddol a gwrthgloddiau archaeolegol bregus

Ynysoedd bach y Moelrhoniaid oddi ar arfordir Môn, sy’n gartref i oleudy, adeiladau hanesyddol a gwrthgloddiau archaeolegol bregus. Rheolir y Moelrhoniaid gan yr RSPB er mwyn gwarchod yr adar sy’n heidio yma yn ystod misoedd yr haf. (AP_2016_4682)

 

IW Group

01/12/2017

Leave a Reply

avatar

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets