Maes a Fferm

Cylch y flwyddyn ffermio sy’n rheol i cefn gwlad Cymru: o’r hau yn y gaeaf a’r wyna yn y gwanwyn i dorri silwair a medi’r cynhaeaf yn yr haf. Hwnt ac yma cewch chi dai, buarthau a chaeau ffermydd heddiw yn cydfodoli â’u rhagflaenwyr o’r Oes Haearn. Amlygant y tracldodiad di-dor, bron, o amaethu sydd wedi para am dair mil o flynyddoedd a rhagor ar lethrau bryn iau a chymoedd Cymru. lslaw’r awyren, ac i ffwrdd o’r copaon uchaf a’r corstiroedd, tir amaethyddol yw’r rhan fwyaf o dir Cymru. Lle mae chwareli ac olion diwydiannol yn tra-arglwyddiaethu ar y fro, fe gydfodolant â chaeau a bythynnod y cenedlaethau cynt- neu maent wedi’u disoclli. Lie mae dinasoedd wedi ymledu, gall darnau o dir agored neu dir comin ddal i gadw olion caeau o’r hen oes. 0 dan y trwch o goed conwydd sy’n gorchuddio cymaint o uwchdiroecld Cymru, mae archaeolegwyr wrthi’n dod o hyd i hen gaeau a ffermydd anghyfannedd a gaiff eu diogelu mewn llennyrch newydd gan reolwyr y coedwigoedd.

Bydd ffurfiau’r caeau’n adrodd eu hanes eu hunain. Patrwm o’r hen oes – ac un sydd efallai’n bedair mil o flynyddoedd oed – sydd i’r waliau bach crwm sy’n crwydro argloddiau’r caeau ac yn cropian ar draws llethrau bryniau Sir Benfro a Gwynedd. Mewn oesoedd diweddarach, codwyd waliau cerrig a ffensys ar sylfeini cynhanesyddol gan sicrhau parhad daliadau tir hynafol o dan berchnogion newydd. Yn y de a’r gorllewin, ceir bod gwrthgloddiau ac olion cnydau cyfundrefnau caeau Rhufeinig wedi goroesi yn ymyl hen drefi Rhufeinig Caer-went a’r Bont-faen . Ailwampiwyd y dirwedd gan gyfundrefnau’r arglwyddi Normanaidd o leiniau caeau ac yna gan y chwyldroadau olynol mewn arferion ffermio a pherchnogaeth tir a ddigwyddodd wedi hynny. Heddiw, cylchoedd y flwyddyn amaethu a phatrymau sychder sy’n pennu’r tymhorau blynyddol pryd y bydd yr archaeolegydd-o’r-awyr yn chwilio am olion cnydau.

Gyrn Sheepfold, Caernarfonshire NPRN 401619

Ar y tir rhwng Afon Ffrydlas ac Afon Gam, dri chilometr i’r gogledd-ddwyrain o Fethesda a lie mae llu o hen lwybrau’n cwrdd, mae corlan amlgellog y Gyrn. Er bod amryw o gorlannau lleol tebyg iddi, does dim cofnod clir o ddyddiad codi’r adeiladweithiau cymhleth hyn. Oherwydd ei maint a’i chymhlethdod, mae’n amlwg i genedlaethau o ffermwyr o’r ddeunawfed ganrif, o leiaf, ymlaen ei chodi ac yna ofalu amdani’n gyson. Câi defaid llu o ffermydd – defaid a rannai gynefin cyffredin – eu crynhoi yma ar adegau fel y cneifio ac yna’u gyrru drwy’r fynedfa gul i’w didoli i gelloedd bach y gwahanol ffermydd.

 

Ridge and furrow cultivation western slopes of Ffridd Ddu

Uwchlaw’r Ogof yn Abergwyngregyn, gwta 1.5 cilometr o’r arfordir, mae hi fel petai llinellau tonnog dwfn y terasau cynhanesyddol (uchod, de) a’r amaethu grwn a rhych sy’n dyddio, mae’n debyg, o’r Oesoedd Canol, yn llifo i lawr llethrau gorllewinol Ffridd Ddu, a does dim modd eu gweld o’r awyr ond yng ngoleuni isel a garw’r gaeaf. Os yw tir y bryniau ar yr arfordir heb ei droi hyd heddiw ac os yw anifeiliaid yn pori’r uwchdir, mae model diogelu hanes miloedd o flynyddoedd o amaethu.

 

Upland Farm at Carn Afr, Preseli Hills, Pembrokeshire

Menter amaethu optimistaidd a aeth rhwng y cŵn a’r brain ers llawer dydd. Mae’n debyg mai man cychwyn y fferm han ar uwchdir Carn Afr ar lethrau deheuol Mynyddoedd y Preseli yn Sir Benfro oedd y cae bach onglog yn y canol, ac yn y padog sgwâr islaw ceir sylfeini tŷ a godwyd ger ffynnon ar ochr y bryn. Yn ddiweddarach, crёwyd chwe chae newydd mewn patrwm celfydd o amgylch y fferm wreiddiol. Rhaid mai gwaith anodd, erioed, oedd trin y tir hwn. Tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg rhoddwyd y gorau i’r fferm, a thir pori garw yw’r caeau hyn unwaith eto.

08/12/2016

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x