View towards the King’s Gate showing the banded walls of Caernarfon Castle.

Magnus Maximus, ‘Yma o Hyd’, a Chwpan y Byd!

Yn Qatar ers dydd Llun, mae tîm a chefnogwyr pêl-droed Cymru wedi bod yn morio canu’r anthem a fabwysiadwyd ganddynt yn ddiweddar, sef ‘Yma o Hyd’ gan Dafydd Iwan. Mae’r gân, yn enwedig y pennill cyntaf, yn llawn o gyfeiriadau hanesyddol:

Dwyt ti’m yn cofio Macsen,
does neb yn ei nabod o.
Mae mil a chwe chant o flynyddoedd,
yn amser rhy hir i’r co’.
Pan aeth Magnus Maximus o Gymru,
yn y flwyddyn tri-chant-wyth-tri,
a’n gadael yn genedl gyfan,
a heddiw – wele ni!

Pwy oedd Macsen? A pham yr oedd y flwyddyn 383AD yn bwysig? Dyma’r cwestiynau y mae’r blog hwn yn ceisio eu hateb.

Macsen Wledig oedd yr enw Cymraeg ar yr Ymerawdwr Rhufeinig o’r bedwaredd ganrif, a feddiannai dir drwy ddulliau anghyfiawn. Roedd Magnus, a oedd yn filwr medrus, wedi dod i Brydain er mwyn helpu i atal y Barbariaid rhag ennill tir yn y dalaith. Llwyddodd Magnus i drechu’r Pictiaid a’r Sgotiaid yn y flwyddyn 383AD a chafodd ei gyhoeddi’n Ymerawdwr gan y fyddin. Croesodd Maximus y Sianel i wireddu ei uchelgeisiau ymerodrol, llwyddodd i drechu’r Ymerawdwr Gratian, a daeth yn Ymerawdwr yn y Gorllewin, ond cafodd ei ladd yn y flwyddyn 388AD. Mae’n bosibl iawn bod Magnus wedi gadael Prydain gyda’r rhan fwyaf o filwyr a phobl ifanc y dalaith (fel y disgrifiodd Nennius, yr hanesydd o’r nawfed ganrif, yn ddiweddarach) a bod grym wedi’i drosglwyddo i lywodraethwyr lleol. Ceir ansicrwydd ynghylch y graddau yr oedd Cymru ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ac wedyn wedi’i Rhufeinio, ac mae’n destun ymchwil heriol. Mae’r casgliad o gerrig Cristnogol cynnar sydd wedi goroesi, ac y mae arysgrifen Ladin i’w gweld arnynt, yn sicr yn awgrymu pwysigrwydd parhaus cymdeithas wedi’i Rhufeinio ddechrau’r Oesoedd Canol yng Nghymru ond, fel y mae Nancy Edwards wedi awgrymu, roedd yna hunaniaethau amgen a oedd yn cystadlu â’i gilydd. 

Croes Elisedd o’r nawfed ganrif, lle gellir gweld enw Magnus Maximus.
Croes Elisedd o’r nawfed ganrif, lle gellir gweld enw Magnus Maximus.

Ceir traddodiad cryf yng Nghymru o alw Magnus Maximus yn Facsen Wledig, h.y. Macsen yr ymerawdwr neu’r llywodraethwr. Roedd llawer o linachau Cymreig yn honni eu bod yn ddisgynyddion iddo, ac mae ei enw i’w weld ar groes Elisedd o ganol y nawfed ganrif (a astudiwyd gan ein cadeirydd, Nancy Edwards, gweler isod). Heb os, roedd traddodiad canoloesol cryf yn cysylltu Macsen â Segontium, y gaer Rufeinig yng Nghaernarfon. Ym Mreuddwyd Macsen Wledig yn y Mabinogion, mae’r stori yn honni bod Macsen wedi breuddwydio am deithio i gaer wych mewn gwlad fynyddig. Roedd y gaer yng Nghymru, a maes o law cyfarfu a phriododd Macsen ag Elen, merch llywodraethwr y rhanbarth, a Segontium oedd ei gaer. Honnid mai un o’u meibion oedd Peblig, sant Llanbeblig, sef eglwys y plwyf yng Nghaernarfon. 

Adluniad Alan Sorrell o Gaer Rufeinig Segontium, yn edrych i gyfeiriad Ynys Môn (1962). Hawlfraint y Goron.
Adluniad Alan Sorrell o Gaer Rufeinig Segontium, yn edrych i gyfeiriad Ynys Môn (1962). Hawlfraint y Goron.
Golygfa o’r awyr (2007) o Gaer Rufeinig Segontium a Chastell Caernarfon a’r dref gaerog, gydag adeiladau o’r ugeinfed ganrif yn eu plith.
Golygfa o’r awyr (2007) o Gaer Rufeinig Segontium a Chastell Caernarfon a’r dref gaerog, gydag adeiladau o’r ugeinfed ganrif yn eu plith.
Eglwys ganoloesol Sant Peblig
Eglwys ganoloesol Sant Peblig.

Mae’n fwy na thebyg bod Breudwyt Maxen wedi’i chofnodi yn ysgrifenedig yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, ond rhaid bod y traddodiadau hyn yn ‘fyw’ pan gyrhaeddodd Edward I Gaernarfon yn 1283, a gwnaethant helpu i gysylltu’r castell newydd yng Nghaernarfon â dinas ymerodrol Rhufain. Digwyddodd rhywbeth hynod: honnwyd bod gweddillion Magnus Maximus wedi’u darganfod yn ystod gwaith adeiladu yng Nghaernarfon, a gorchmynnodd Edward I ei hun y dylid eu hailgladdu yn yr eglwys. Mae’n ymddangos bod cysylltiad rhwng hynny a’r honiad cynharach gan Nennius (yn y nawfed ganrif) bod bedd Cystennin wedi’i ddarganfod yn Segontium a bod Cystennin wedi hau hadau o aur, arian ac efydd yn y gaer. Yn ôl pob tebyg roedd cerrig arysgrifedig, darnau o arian ac arteffactau Rhufeinig eraill yn cael eu darganfod yn rheolaidd yng Nghaernarfon (fel y mae Wheatley yn awgrymu). Honnodd yr arbenigwr enwog ar hanes cestyll, A J Taylor (a arferai fod yn un o’n comisiynwyr), fod cysylltiadau Rhufeinig Caernarfon wedi dylanwadu ar bensaernïaeth castell newydd Edward yn y dref. Yn benodol, cafodd tyrau polygonaidd eu hadeiladu yn lle tyrau crwn a oedd yn fwy arferol, ac roedd gan y muriau resi o gerrig lliw. Roedd y gwaith cerrig rhesog yng Nghastell Caernarfon yn wahanol iawn i’r hyn a welid, er enghraifft, yn Harlech neu Gricieth lle’r oedd y gwaith cerrig wedi’i orchuddio â rendrad calch. Honnodd Taylor fod muriau Castell Caernarfon wedi’u seilio ar furiau anorchfygol Caer Gystennin, prifddinas yr Ymerodraeth Rufeinig Ddwyreiniol, a oedd yn cynnwys tyrau polygonaidd a muriau wedi’u haddurno â theils. Fel y dywedodd Taylor, ‘the resemblance seems too striking to be fortuitous’. Mae arbenigwyr ar hanes cestyll wedi bod yn gyndyn o dderbyn dylanwad pensaernïol uniongyrchol muriau Theodosaidd Caer Gystennin, ond maent yn fwy parod i dderbyn y gallai muriau Rhufeinig wedi’u haddurno â theils fod wedi ysbrydoli’r rhesi sydd i’w gweld ym muriau Castell Caernarfon. Nid oes amheuaeth nad yw’r eryrod sydd wedi’u cerfio ar Dŵr yr Eryr yn y castell yn symbolau ymerodrol. Heb os, mae’n ymddangos bod Edward I yn ymwybodol iawn o gysylltiadau ymerodrol Segontium a’i fod wedi ceisio clustnodi rhywfaint o hanes chwedlonol hynod yr ardal ar gyfer pensaernïaeth ei gastell newydd.  

Y muriau rhesog a’r tyrau polygonaidd trawiadol yng Nghastell Caernarfon. Mae’r eryrod sydd wedi’u cerfio ar Dŵr yr Eryr (ar y chwith) i’w gweld yn glir o bellter.
Y muriau rhesog a’r tyrau polygonaidd trawiadol yng Nghastell Caernarfon. Mae’r eryrod sydd wedi’u cerfio ar Dŵr yr Eryr (ar y chwith) i’w gweld yn glir o bellter.
Yr olygfa i gyfeiriad Porth y Brenin, lle gellir gweld muriau rhesog Castell Caernarfon.
Yr olygfa i gyfeiriad Porth y Brenin, lle gellir gweld muriau rhesog Castell Caernarfon.

Darllen pellach:

  • RCAHMW, An Inventory of the Ancient Monuments in Caernarvonshire, Volume II: Central (RCAHMW, 1960) ar gyfer Segontium (tt. 158-63) a Chastell Caernarfon (tt. 124-50). Ar gael i’w lawrlwytho am ddim o’n siop ar-lein.
  • A.J. Taylor, The King’s Works in Wales (London, 1974) a ailgyhoeddwyd fel The Welsh Castles of Edward I (London, 1986)
  • Abigail Wheatley, The Idea of the Castle in Medieval England (York, 2004)
  • The Mabinogion (translated by Gwyn Jones and Thomas Jones) (London, 1949, ac argraffiadau dilynol) ar gyfer ‘Breuddwyd Macsen Wledig’. Mae Breudwyt Maxen Wledic wedi’i olygu a’i ategu gan gyflwyniad addysgiadol gan Brynley F. Roberts (Dublin, 2005).
  • Arweinlyfrau Cadw: Caernarfon Castle (2001) a Segontium Roman Fort (2005).
  • Nancy Edwards, A Corpus of Early Medieval Inscribed Stones and Stone Sculpture in Wales, Volume III: North Wales (University of Wales Press & RCAHMW, 2013) ar gyfer croes Elisedd.
  • Nancy Edwards, British Academy 10-Minute Talk: Early Medieval Wales – a Matter of Identity

11/25/2022

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x