Mai: Mis Mair

Wrth i’r gwarchae ar Mariupol gyrraedd ei derfyn trasig, mae’r tristwch i’w deimlo yn fwy oherwydd bod y datblygiadau erchyll hyn yn digwydd ym mis Mai. Caiff mis Mai, wrth gwrs, ei ystyried yn fis Mair yn yr Eglwys Gatholig, sy’n cysegru’r mis cyfan i’r Fendigaid Forwyn Fair. Mae ‘Coroni Mai’ yn seremoni boblogaidd yn yr Eglwys Uniongred a’r Eglwys Gatholig. Yn ystod y seremoni, caiff eicon neu gerflun o’r Forwyn Fair ei goroni’n seremonïol yn eglwys y plwyf ar 1 Mai, er mwyn dynodi Mair yn Frenhines y Nefoedd ac yn Fam Duw. Ystyr Mariupol yn yr iaith Roegaidd yw ‘Dinas Mair’, ond roedd yn syndod dysgu mai’r Fair a anrhydeddwyd gan yr enw hwnnw mewn gwirionedd, yn ôl pob golwg, oedd y Dywysoges Maria, gwraig y Tywysog Coronog Paul a ddaeth yn Ymerawdwr Rwsia wedyn rhwng 1796 a 1801. Cafodd y ddinas ei hailenwi’n Zhdanov yn 1948 ar ôl Andrey Aleksandrovich Zhdanov, un o swyddogion uchel y Blaid Gomiwnyddol a oedd wedi’i eni yno. Mae’n drawiadol bod enw blaenorol y ddinas, sef Mariupol, wedi’i adfer mor ddiweddar â 1989, a chaiff tarddiad yr enw ei anghofio’n aml.1

Mae llawer o leoedd wedi’u henwi ar ôl Mair yn Ewrop a thu hwnt, ac mae Mariupol yn dangos y cymhlethdod sy’n perthyn i enwau lleoedd. Mae Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru y Comisiwn Brenhinol yn ganllaw i’r holl leoedd sydd wedi’u henwi ar ôl Mair yng Nghymru. Mae llawer o’r eglwysi sydd wedi’u cysegru i’r Forwyn Fair wedi rhoi eu henwau i’r pentrefi sydd wedi tyfu o’u hamgylch. O gofio’r ymgysegriad Catholig a gaed ar raddfa eang i’r Forwyn Fair yng Nghymru cyn y Diwygiad (a gaiff ei gadarnhau gan destunau megis Gwasanaeth Meir2), roedd y ffaith bod cynifer o eglwysi Marïaidd yn bodoli’n golygu bod yn rhaid cael rhyw ffordd o wahaniaethu rhyngddynt. Mewn rhai achosion, megis yn achos Llanfairfechan, gwnaed hynny drwy ddarparu disgrifiad o’r eglwys ei hun (eglwys fach y Forwyn Fair). Mewn achosion eraill, cafodd enw’r ardal leol ei roi er mwyn nodi ym mha ran o Gymru yr oedd y pentref, er enghraifft Llanfair-yng-Nghornwy ar Ynys Môn neu Lanfair Dyffryn Clwyd. Un ffordd gyffredin arall oedd cyfeirio at dopograffi’r ardal lle’r oedd yr eglwys, er enghraifft Llanfair-ar-y-bryn yn nwyrain Sir Gaerfyrddin neu Lanfair Nant-y-gof yn Sir Benfro. Mae amrywiad diddorol ar y thema hon i’w gael yn Llanbrynmair yn Sir Drefaldwyn, lle mae’r bryn yn hytrach na’r eglwys wedi’i gysegru i Mair ac yn darparu’r enw – er bod yr eglwys hefyd yn cael ei galw’n Eglwys y Santes Fair.

Gellir gweld yr un duedd mewn enwau lleoedd Saesneg, megis St Mary Hill (Eglwys Fair y Mynydd) a St Mary Church (Llan-fair) ym Morgannwg. Mae’n werth sôn hefyd am yr enw Cymraeg Llan-y-tair-mair yng Ngŵyr, sy’n coffáu Mair Magdalen, Mair gwraig yr apostol Cleoffas yn ogystal â’r Forwyn Fair.

Enghreifftiau o enwau lleoedd sy’n cynnwys Mair, wedi’u tynnu o’n rhestr ni, sef Rhestr Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru.
Enghreifftiau o enwau lleoedd sy’n cynnwys Mair, wedi’u tynnu o’n rhestr ni, sef Rhestr Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru.

Mae’r traddodiad o fynd ar bererindod i ffynhonnau sanctaidd hefyd wedi dylanwadu ar enwau lleoedd yng Nghymru, ac mae ffynhonnau o’r enw Ffynnon Fair sydd wedi’u cysegru i’r Forwyn Fair i’w cael ar hyd a lled y wlad. Hwyrach mai’r enwocaf o’r rhain yw’r ffynnon ym Mhen-rhys yn y Rhondda, y mae Nant Ffynnon Fair yn tarddu ohoni. Pen-rhys oedd un o’r safleoedd pwysicaf i bererinion cyn y Diwygiad yng Nghymru, oherwydd bod cerflun o’r Forwyn Fair wedi ymddangos yno drwy wyrth. Erbyn 1538, roedd Pen-rhys yn ddigon pwysig i Thomas Cromwell orchymyn bod y cerflun yn cael ei symud oddi yno “as secretly as might before fear of local revolt”. Yna, cafodd y cerflun ei anfon i Lundain i’w losgi.3 Yn syth ar ôl cyfnod y Diwygiad, gwnaed sawl ymgais i atgyfodi’r traddodiad o fynd ar bererindod i’r safle hwn ymhlith eraill,4 a llwyddwyd o’r diwedd i atgyfodi’r traddodiad yn 1936.

Ailddechreuwyd cysegru eglwysi i Mair ar ôl pasio’r Ddeddf Rhyddhad Pabyddion yn 1829, er enghraifft Eglwysi’r Santes Fair yng Nghaerfyrddin, Tremeirchion a Phen-y-bont ar Ogwr, yr oedd pob un ohonynt wedi’u hadeiladu erbyn 1900. Mae’r traddodiad yn parhau heddiw wrth i amryw eglwysi yn esgobaeth Mynyw gael eu henwi ar ôl Mair, er enghraifft Eglwys Mair yr Angylion a Santes Gwenfrewi yn Aberystwyth, Eglwys ‘Our Lady of the Rosary’ yn Rhydaman ac Eglwys ‘Our Lady of Perpetual Succour and St Nicholas’ yn Nhrefyclo. Mae’r enwau hyn a channoedd o enwau lleoedd Marïaidd eraill i’w gweld yn Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru.

Yn olaf, gellir nodi bod delweddau o Mair cyn cyfnod y Diwygiad yn brin iawn yng Nghymru. Fodd bynnag, cafodd delwedd drawiadol iawn ohoni ei darganfod tua 2010, wedi’i phaentio ar fur yr eil ddeheuol yn Eglwys Sant Cadog, Llancarfan. Yn y murlun, mae Mair yn bendithio San Siôr sy’n lladd y ddraig. Yn y llun, mae gan Mair wallt hir a choron ar ei phen ac mae’n gwisgo dilledyn a gaiff ei ystyried yn wisg mamolaeth dan ei mantell goch sydd wedi’i leinio ag ermin. Mae’n ymddangos bod y portread hwn o Mair yn codi ei llaw dde i fendithio yn bortread unigryw, a chaiff ei drafod yn ein llyfr diweddar am furluniau, gan Richard Suggett, Temlau Peintiedig: Murluniau a Chroglenni yn Eglwysi Cymru, 1200–1800. Bernir bod delwedd arall sydd wedi colli llawer iawn o’i lliw yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn bortread o Mair hefyd, ond nid oes unrhyw sicrwydd ynglŷn â hynny. I gael gwybod mwy am furluniau Eglwys Gadeiriol Tyddewi, ymunwch â ni am 2pm ar 16 Mehefin yn yr Eglwys Gadeiriol ar gyfer sesiwn Cerdded a Chlonc dan arweiniad yr awdur, Richard Suggett. Dim ond nifer gyfyngedig o docynnau sydd ar ôl ar gyfer y digwyddiad prin hwn.

Gallwch archebu eich tocyn yma:


1. Yr enw Mariupol yn cael ei drafod yn https://www.britannica.com/place/Mariupol
2. Gwasanaeth Meir, gol. gan Brynley F. Roberts (Aberystwyth: Gwasg Prifysgol Cymru, 1961).
3. Richard Suggett, Temlau Peintiedig: Murluniau a Chroglenni yn Eglwysi Cymru, 1200–1800 (RCAHMW, 2021), tt. 156-7
4. James January-McCann, ‘Exiles and Activists: A Comparison of the Counter-Reformation in Wales and Norway’, yn Northern European Reformations: Transnational Perspectives (Cham: Palgrave Macmillan, 2020), tt. 176-7

Gan Dr James January-McCann (Swyddog Enwau Lleoedd) a Nicola Roberts (Rheolwr Cyfathrebu)

05/10/2022

guest
0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x