
Map Newydd Sbon o Leoedd Hanesyddol yn Llanrwst
Gyda chroglen o’r bymthegfed ganrif, elusendai o’r oes fodern gynnar, pont enwog ac (yn ôl y sôn) arch Llywelyn Fawr, mae llawer o hanes, a hanes Cymru, yn Llanrwst. Os ydych chi’n ymweld â’r ardal ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol 2019, gallwch ddysgu am hanes y dre a’r ardal o’i chwmpas, gyda’n map newydd sbon, isod. Cliciwch ar y dotiau coch i weld enw’r safle, wedyn cliciwch ar ‘more info’ i weld mwy o wybodaeth ar Coflein. Mae’r dotiau glas yn dangos (yn fras) lleoliadau safleoedd yr Eisteddfod. Mwynhewch!
07/31/2019