
Mapiau yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru
Defnydd
Gall ymchwilwyr astudio’r mapiau sy’n cael eu cadw yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Yn ogystal, gallant weld mapiau Arolwg Ordnans 25 modfedd a 6 modfedd fel haenau ar System Wybodaeth Ddaearyddol.
Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg gwelwyd twf aruthrol mewn gweithgarwch diwydiannol, dyfodiad y camlesi a’r rheilffyrdd, cynlluniau ehangu trefol enfawr, a datblygiadau pwysig eraill a weddnewidiodd rannau o dirwedd wledig Cymru. Mae mapiau’r cyfnod yn tystio i lawer o’r newidiadau hyn.
Ar raddfa lai, gellir yn aml olrhain hanes adeiladau unigol, enwau ffermydd ac aneddiadau, lleoliad hynafiaethau, a thirnodau eraill megis ffynhonnau, cerrig milltir a choed hyd yn oed.
Mae croeso i chi weld y catalog a’r casgliadau wedi’u digido ar Coflein, ein cronfa ddata o safleoedd a’n catalog o archifau, ar-lein yn www.coflein.gov.uk, neu yn ein llyfrgell ac ystafell chwilio.

Ardal Treharris ym 1919. Map ordnans 25’’, ail argraffiad.
DI2012_0326
Arolwg Ordnans
• Mapiau Arolwg Ordnans 1”, ‘Hen Gyfres’
Cynhyrchwyd rhwng 1805 a 1873. Mae cyfrol sy’n cynnwys mapiau ffacsimili o Gymru o’r gyfres hon ar gael yn y llyfrgell.
• Mapiau Arolwg Ordnans 25”, Cyfres y Siroedd
Y rhain yw’r mapiau mwyaf o ran graddfa a gynhyrchwyd yn fasnachol yn y DU. Cawsant eu cyhoeddi mewn camau a chwblhawyd yr argraffiad cyntaf ym 1890. Mae gan CHCC gyfres unigryw o fapiau gwaith yr arolygwyr Arolwg Ordnans a luniodd Gyfres Siroedd Cymru sy’n dangos y mapiau ail argraffiad cyhoeddedig a gwybodaeth mewn glas o’r gyfres flaenorol mewn haen oddi tanynt.
• Mapiau Arolwg Ordnans 6”
Mae’r fersiynau llai hyn o Gyfres y Siroedd yn cynnig gwell drosolwg o’r ardaloedd ar y mapiau. Mae Argraffiad Dros Dro (a gynhyrchwyd cyn cyflwyno Cyfeirnodau Grid Cenedlaethol) a set gyda gridiau ar gael.
• Mapiau Arolwg Ordnans modern o Gymru yn y cyfresi Landranger a Pathfinder

Ystad Baron Hill, Ynys Môn: map ystad o gatalog gwerthiant.
C19734
Casgliadau
• Set o fapiau Arolwg Ordnans 1:10,000 sy’n ffurfio mynegai i gardiau’r NAR [Cofnod Archaeolegol Cenedlaethol]. Mae manylion safleoedd a darganfyddiadau, gan gynnwys cyfeiriadau llyfryddol, i’w cael ar y cardiau NAR. Olion archaeolegol sy’n cael y sylw pennaf.
• Catalogau gwerthiant ystadau o ddechrau’r ugeinfed ganrif Maent yn cynnwys mapiau (wedi’u seilio ar fapiau 25” Cyfres y Siroedd gan mwyaf) sy’n dangos ffiniau’r darnau o dir sydd ar werth. Caiff yr eitemau hyn eu disgrifio’n fanwl a rhoddir enwau tenantiaid yn aml.
• Mapiau o Fur Antwn, Prydain Fore, Prydain Rufeinig, Caerfaddon Rufeinig a Chanoloesol, Caerfaddon Sioraidd, Caerefrog y Llychlynwyr a’r Oesoedd Canol, Caerefrog Rufeinig ac Angliaidd, a mapiau eraill.
• Adargraffiadau o fapiau cynnar, gan gynnwys map ffordd stribed Ogilby (1675), map Blaeu o Sir Forgannwg (1645), mapiau Bowen o Dde Cymru (1729), cynllun Speed o Gaerdydd (1610) ac eraill.
• Siartiau’r Morlys
Siartiau arforol modern o ddyfroedd arfordirol Cymru.

Map Arolwg Ordnans 6”, ail argraffiad, dalen Sir Forgannwg XXVII NE (1901), Cwm Rhondda.
DI2010_1140
Gwasanaethau
- Gwasanaeth ymholiadau am ddim i’r cyhoedd
- Gwasanaeth chwilio blaenoriaethol
- Llyfrgell ac ystafell chwilio
- Llyfrgell ddelweddau
- Digido
- Setiau data a mapio digidol
- Ymweliadau gan grwpiau
- Adnoddau addysgol

Ystafell chwilio Henebion Cenedlaethol Cymru.
Ar agor: Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Iau a Dydd Gwener 9:30 – 16:00, Dydd Mercher 10:30 – 16:30.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n staff cyfeillgar a phroffesiynol yn:
Llyfrgell a Gwasanaeth Ymholiadau CHCC
CBHC
Adeilad y Goron, Plas Crug, Aberystwyth
Ceredigion, SY23 1NJ
Ffôn: +44 (0)1970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Gwefan: www.cbhc.gov.uk
Coflein: www.coflein.gov.uk
08/19/2015