
Mapio Ffiniau Hanesyddol Cymru: Cymydau a Chantrefi
Mae deall ffi niau gweinyddol hanesyddol Cymru a sut maen nhw wedi newid ar hyd y canrifoedd yn hanfodol i’n dealltwriaeth o dirwedd Cymru. Mae’r Comisiwn Brenhinol wedi datblygu dwy haen geo-ofodol ddigidol, gan ddefnyddio ffynonellau o’r Oesoedd Canol Diweddar a ffi niau plwyf hanesyddol i ail-greu ffi niau cymydau a chantrefi Cymru yn yr Oesoedd Canol.
Ffiniau Hanesyddol Cymru
Mae datblygiadau pellach ar y gweill i ddarganfod sut mae’r ffi niau hyn wedi newid dros amser ac i’w mapio’n fwy manwl. Bydd yr adnoddau digidol hyn ar gael am ddim i’r cyhoedd fel cymorth i annog ymchwil.
Bydd y data hwn yn ychwanegiad pwysig at ein gwasanaethau ar-lein, yn enwedig y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol a Rhestr o Feysydd Brwydro Hanesyddol yng Nghymru.
Ffiniau cymydau Cymru

Ffiniau cantrefi Cymru

18/05/2017