
Mapio’r Genedl: Uchafbwyntiau Carto-Cymru — Symposiwm Mapiau Cymru 2023
Roedd Carto-Cymru—Symposiwm Mapiau Cymru, a gynhaliwyd yn ddiweddar ac a drefnwyd gan y Llyfrgell Genedlaethol a’r Comisiwn Brenhinol, yn gyfle i gartograffwyr amatur a phroffesiynol ddod ynghyd i archwilio’r thema “Mapio’r Genedl”. Canolbwyntiwyd ar waith yr Arolwg Ordnans o’i ddechreuadau milwrol yn y 18fed ganrif a’i waith trylwyr wrth iddo arolygu pob rhan o’r wlad i rôl bresennol y sefydliad wrth iddo ddarparu ystod eang o fanylion mapio digidol yn ogystal â’r mapiau papur sy’n gyfarwydd i ni i gyd. Mae ei waith o fapio’r DU yn waith parhaus ac mae’r Arolwg Ordnans yn ailarolygu’r DU gyfan bob tair blynedd!
Roedd y symposiwm yn gyfle i wrando ar ystod ddiddorol o gyflwyniadau a oedd yn ymchwilio i dreftadaeth gyfoethog Prydain o ran gwaith mapio, technegau arolygu arloesol a grym mapiau i gyfleu hunaniaeth genedlaethol. Wrth ganolbwyntio ar waddol cartograffig Cymru, datgelwyd manylion diddorol am dirnodau hanesyddol, ffiniau tiriogaethol a newidiadau diwylliannol a thaflwyd goleuni ar hunaniaeth Cymru sy’n esblygu.
Bu’r symposiwm hefyd yn clodfori crefft a chelfyddyd creu mapiau. Rwy’n argymell eich bod yn ymweld â Chasgliad Mapiau’r Llyfrgell Genedlaethol lle gallwch weld eitemau sy’n amrywio o’r map cyntaf erioed yn Gymraeg (1677) i ddyluniad cain ar gyfer clawr map o’r Wyddfa i dwristiaid, a luniwyd gan yr Arolwg Ordnans yn 1936.
Mewn enghraifft ddiddorol a oedd yn dangos sut y gall gwaith mapio digidol a deunydd o archif hanesyddol ddylanwadu ar ymchwil gyfoes, bu Scott Lloyd o’r Comisiwn Brenhinol yn sôn am y swyddogion terfynau (meresmen) a ffiniau plwyfi Cymru. Y swyddog terfynau, sef clerc y plwyf neu warden yr eglwys fel rheol, fyddai’n penderfynu ar ffiniau plwyfi. Yn ystod yr ymchwil a gyflawnwyd ar gyfer y prosiect Mapio Dwfn Archifau Ystadau https://mapio-dwfn-archifau-ystadau-rcahmw.hub.arcgis.com/, archwiliwyd tarddiad y ffiniau a ddangoswyd ar argraffiad cyntaf y Mapiau Cyfres Sirol 25 modfedd (1:2,500).
Dangosodd Scott sut y mae llyfrau nodiadau arolygwyr, nas cyhoeddwyd, ar gyfer detholiad o blwyfi yn y gogledd-ddwyrain yn taflu goleuni gwerthfawr ar y broses o bennu’r ffiniau hynny. O ganlyniad i’r ymchwil hon, roedd yn bosibl ail-lunio ffiniau’r hen drefgorddau, ac roedd hynny yn ei dro o gymorth i ddatgloi llawer o ddogfennau archif o’r cyfnod cyn 1800. Yn aml, byddai tystiolaeth o ffiniau trefgorddau canoloesol a amlinellwyd ar yr argraffiad cyntaf yn diflannu o argraffiadau dilynol. Roedd y wybodaeth am drefgorddau o gymorth i ddeall archifau ystadau ac fe’i gwnaeth yn bosibl creu, am y tro cyntaf erioed, set ddata fanwl o ffiniau wedi’u hail-lunio ar gyfer trefgorddau yn yr ardal hon o Gymru.





Sarah Perons, Comisiynydd
22/06/2023