Mary Cornelia Vane-Tempest: Cerflun hanesyddol o Gymraes Hanesyddol

Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi tynnu sylw at arwyddocâd a grym cerfluniau. Yng Nghymru fel mewn mannau eraill, mae cyrff llywodraeth a threftadaeth, grwpiau ymgyrchu, ac unigolion pryderus i gyd wedi dangos diddordeb yn yr henebion hyn a’r hanesion maent yn eu coffáu—yn ogystal â’r rhai nad ydynt.

Un ddemograffeg nodedig sy’n parhau i fod heb gynrychiolaeth ddigonol ym myd y cerfluniau Cymreig yw merched. Fodd bynnag, mae’r grŵp Monumental Welsh Women wedi gweithio nid yn unig i dynnu sylw at brinder cerfluniau o’r fath, ond hefyd i gywiro hynny drwy godi pum cerflun i bum Cymraes mewn cymunedau ledled Cymru dros gyfnod o bum mlynedd. Dadorchuddiwyd y cyntaf, sef cerflun o bennaeth ysgol du cyntaf Cymru, Betty Campbell (1935–2017), yng Nghaerdydd yn 2021, ac wedyn yr awdur, y dramodydd teledu, a’r damcaniaethydd esblygiadol, Elaine Morgan (1920–2013), yn Aberpennar, ym mis Mawrth eleni.

Mae’r rhain ymhlith yr unig gerfluniau o ferched hanesyddol o Gymru wedi’u henwi mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru. Gall hyn ymddangos fel llawer o gafeatau, ond mae ‘wedi’u henwi’, ‘hanesyddol’, ‘Cymreig’, a ‘chyhoeddus’ i gyd yn feini prawf arwyddocaol. Nid ydynt, er enghraifft, yn cynnwys corffddelwau beddrodol mewn eglwysi, penddelwau neu gerfluniau mewn casgliadau preifat, cerfluniau benywaidd sy’n cynrychioli cysyniadau haniaethol (h.y., ‘heddwch’ neu ‘gyfiawnder’) neu gymeriadau generig neu ffuglennol, a cherfluniau o’r Frenhines Victoria. Mae’r rhain yn gadael y mathau o gerfluniau i ffigurau hanesyddol amlwg, gwrywaidd yn ddieithriad bron, sy’n sefyll mewn mannau cyhoeddus ar hyd a lled Cymru.

Un enghraifft hanesyddol brin o gerflun sy’n coffáu Cymraes a enwir yn gyhoeddus yw penddelw’r Fonesig Mary Cornelia Vane-Tempest (1828–1906) ym Machynlleth, Sir Drefaldwyn. Saif ar hyn o bryd ar dir ei chyn gartref, Plas Machynlleth, sydd bellach yn barc cyhoeddus. Fodd bynnag, ni chafodd ei chodi fel cofeb breifat ond, yn hytrach, fel y mae ei harysgrif yn cofnodi, fel tysteb gan ‘gymuned ddiolchgar a llawer o gyfeillion … i gofio am byth am un a oedd, drwy ei chydymdeimlad eang, ei bywyd da a’i gweithredoedd da, yn annwyl tu hwnt gan bawb yn y dref hynafol hon’.

Penddelw Mary Cornelia Vane-Tempest, Pumed Ardalyddes Londonderry, yn ei lleoliad presennol yng nghasgliadau’r Plas, Machynlleth, sydd bellach yn barc cyhoeddus.

Roedd Mary Cornelia yn hanu o deulu tirfeddiannol Cymreig lleol, yn ferch i Syr John Edwards, Barwnig Cyntaf y Garth. Roedd ei thaid, John Edwards arall, yn gyfreithiwr ym Machynlleth. Sefydlodd y teulu Edwards fel tirfeddianwyr lleol ac ef oedd y cyntaf o’r teulu i fyw yn y Plas.

Yn 1846, priododd Mary Cornelia gyda George Henry Robert Charles William Vane-Tempest (1821–1884), a oedd yn cael ei adnabod fel Henry, mab Charles Vane, 3ydd Ardalydd Londonderry, a ddaeth yn 5ed Ardalydd yn 1872. Mae Ardalyddion Londonderry yn deulu pwysig, er yn ddadleuol, yn hanes Iwerddon, Prydain ac Ewrop yn ehangach. Fodd bynnag, canolbwyntiodd Mary Cornelia a Henry lawer o’u hymdrechion ar eu cartref a’u cymuned ym Machynlleth ac roeddent yn boblogaidd iawn ac yn uchel eu parch oherwydd hynny.

Cerdyn post o ddechrau’r ugeinfed ganrif yn dangos y Plas, Machynlleth, o Gasgliad Cardiau Post Digidol Peter Davis.

Yn ei gofnod o hanes Machynlleth, The Town of a Prince (1991), noda David Wyn Davies bod y dref ‘yn byw ac yn anadlu’r Plas yn nyddiau Mary Cornelia’ (t. 106). Roedd tiroedd y Plas yn cael eu rhannu yn aml ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus a dathliadau a bu’r teulu yn noddi digwyddiadau diwylliannol lleol fel eisteddfodau. Wrth adrodd ar Eisteddfod Machynlleth yn 1879, nododd y Cambrian News and Merionethshire Standard, pa bryd bynnag y byddai digwyddiad yn cael ei gynnal yn y dref ‘boed yn dreialon cŵn defaid, dathliadau mawr, neu eisteddfodau … mae teulu Plas Machynlleth bob amser yn barod i wneud yr hyn a allant i helpu pobl y dref gyda’u hymdrechion’.

Am eu helusen y cafodd y teulu, yn enwedig Mary Cornelia, eu cofio orau. Roeddent yn dosbarthu bwyd a dillad yn rheolaidd i’r tlodion, yn aml o Neuadd Vane, ger y Plas. Adlewyrchir eu helusen yn amgylchedd adeiledig Machynlleth. Cafodd ysgol fabanod gyntaf y dref, Ysgol Fabanod Vane, ei sefydlu a’i chyllido gan Mary Cornelia a Henry i ddathlu genedigaeth eu plentyn cyntaf, y 6ed Ardalydd yn y dyfodol, Charles Vane-Tempest-Stewart (1852–1915). Yn 1892, cafodd ei thrawsnewid yn Ysbyty Bwthyn Londonderry, ysbyty cyntaf y dref, eto gyda chymorth ariannol y Vane-Tempests. Adeiladwyd y tu ôl i’r strwythur hwn, hefyd ar gais Mary Cornelia a gyda’i nawdd, Elusendai Vane, a oedd yn gartref i weddwon lleol a’r tlawd, yn rhad ac am ddim. Mae amgylchedd adeiledig Machynlleth hefyd yn dangos parch y gymuned at y teulu, yn fwyaf trawiadol yng nghloc y dref, a adeiladwyd i ddathlu’r 6ed Ardalydd yn y dyfodol yn dod i oed, ac fe’i cyllidwyd drwy danysgrifiad cyhoeddus, ond hefyd ym mhenddelw Mary Cornelia.

Codwyd cloc tref Machynlleth i ddathlu Charles Vane-Tempest-Stewart, Is-iarll Castlereagh, yn dod i oed ac, yn ddiweddarach, Chweched Ardalydd Londonderry. Roedd y tanysgrifiad cyhoeddus a dalodd amdano yn ddigon hefyd i dalu am y coed i’w plannu ar hyd y strydoedd cyfagos.

Roedd 10 Tachwedd 1909 yn ddiwrnod marchnad ym Machynlleth, ac er gwaethaf y tywydd gaeafol garw, ymgasglodd cannoedd i weld dadorchuddio cerflun Mary Cornelia. Safai yn wreiddiol yn y man gwyrdd gerllaw’r ysbyty a’r elusendai, dau o’r sefydliadau elusennol a sefydlodd, gyda’i hwyneb efydd yn edrych tuag at gerrig beddau amlwg ei theulu yn y fynwent gyfagos. Cafodd y cerflun ei gerflunio gan fenyw arall, y Fonesig Feodora Gleichen (1861–1922), ac mae’n sefyll ar sylfaen gwenithfaen a baratowyd gan J. O. Williams, ac arno arysgrif sy’n cofnodi diolchgarwch y gymuned. Roedd y penddelw gwerth £450 wedi’i gomisiynu gan gyngor o drigolion y dref a thalwyd amdano drwy danysgrifiad gwirfoddol. Gwelwyd sawl arweinydd crefyddol a dinesig lleol, yn ogystal ag Esgob Bangor, yn annerch y rhai oedd yn bresennol yn y dadorchuddio, a soniodd pob un ohonynt am elusen Mary Cornelia a’i chonsyrn am y gymuned, gan obeithio y byddai’r cerflun yn sicrhau coffa da amdani am genedlaethau i dod.

Mae’r cerdyn post hwn o ddechrau’r ugeinfed ganrif o Gasgliad Thomas Lloyd yn dangos y penddelw yn ei leoliad gwreiddiol.

Heddiw saif y cerflun wedi’i amgylchynu gan goed a blodau ger hen gartref Mary Cornelia. Ar yr olwg gyntaf, gall ei leoliad yn y gerddi wneud iddo ymddangos fel rhan hanesyddol o dir y Plas. Ond mae’r amgylchiadau gwirioneddol sy’n gysylltiedig â’i godi yn ei gwneud yn hynod arwyddocaol fel gweithred gyhoeddus brin o goffáu Cymraes mewn cerflunwaith.

Gallwch ddarllen mwy am ddadorchuddio’r cerflun yn Papurau Newydd Cymru Arlein:

Cambrian News and Merionethshire Standard, 12 Tachwedd 1909

Aberystwyth Observer, 18 Tachwedd 1909

Adam N. Coward

Cynorthwy-ydd Ymholiadau a Llyfrgell

07/08/2022

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x