Delwedd gynnar gan Aerofilms (1950) o safle Melin Gotwm yr Wyddgrug, sef Gwaith Tunplat Alun wedyn, a brynwyd yn 1950 gan Synthite Ltd i gynhyrchu fformaldehyd. Mae gan y safle hanes diwydiannol nodedig ac mae mwy o awyrluniau ar gael ar Coflein

Melinau Cotwm a Dyddiau Cynnar Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

Mae Gwaith Alun – a elwir yn ‘Synthite’ yn lleol – sydd ar gyrion yr Wyddgrug yn sefyll ar safle melin gotwm a gafodd ei sefydlu yn 1792 a’i dinistrio gan dân, yn anffodus, yn 1866. Mae melinau cotwm yn enwog am eu pwysigrwydd hanesyddol yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, ond nid yw’r rhan y maent wedi’i chwarae yn hanes deddfwriaeth iechyd a diogelwch yn cael ei gwerthfawrogi bob amser.

Yn ystod y ddeunawfed ganrif, roedd y prif ddull o ymdrin â diogelwch yn y gweithle yn ddull ‘marchnad rydd’ i bob pwrpas. Y gred gyffredinol oedd y byddai cost bod yn segur a chost difrod i asedau, a fyddai’n deillio o ddiffyg darpariaeth ar gyfer diogelwch galwedigaethol, yn gwneud i gyflogwyr ddarparu amgylchedd gweithio diogel. Fodd bynnag, roedd y gred honno wedi gwanhau erbyn dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn dilyn achosion o glefydau heintus cafodd y llywodraeth ei gorfodi i ddeddfu am y tro cyntaf er mwyn diogelu iechyd gweithwyr. Roedd ‘Deddf Iechyd a Moesau Prentisiaid’ 1802 yn cyfyngu ar oriau gwaith prentisiaid, yn egluro safonau gofynnol o ran darparu dillad ar eu cyfer, ac yn egluro gofynion ar gyfer eu haddysg. Roedd y Ddeddf hefyd yn pennu safonau gofynnol ar gyfer yr amgylchedd gweithio: roedd yn rhaid i bob melin gael ei golchi â chalch poeth a dŵr ddwywaith y flwyddyn.

Roedd y Ddeddf yn gosod cyfrifoldeb ar ynadon lleol i benodi unigolion i arolygu safleoedd gwaith. Gallai clerigwr ac ynad heddwch lleol ymweld â safleoedd o’r fath unrhyw bryd, pe baent yn cael eu penodi i’r rôl, a rhoi dirwyon am unrhyw achosion y byddent yn eu gweld o fethu â chydymffurfio. Roedd yn ofynnol arddangos dau gopi o’r Ddeddf yn y ffatri.

Yn dilyn cyflwyno’r ddeddfwriaeth honno, cafodd llawer o Ddeddfau eraill yn ymwneud â Ffatrïoedd, Rheilffyrdd, Llongau a Mwyngloddio eu cyflwyno drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, a oedd yn datblygu’r gofynion ar gyfer diogelwch yn y gweithle, ond roeddent yn aml yn gymhleth ac yn gwahaniaethu o’r naill ddiwydiant i’r llall. Yn 1974, cafodd cyfrifoldebau cyflogwyr am ddiogelwch gweithwyr eu hegluro a’u cysoni drwy’r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. Erbyn hyn, mae pob cyflogwr yn gyfrifol am iechyd, diogelwch a lles ei weithwyr, ac mae pob gweithiwr yn gyfrifol am ei ddiogelwch ei hun ac am ddiogelwch y sawl y gallai ei waith effeithio arnynt.

Er bod natur gwaith wedi newid gryn dipyn ers cyfnod Melin Gotwm yr Wyddgrug, mae rhai o ofynion Deddf 1802 wedi goroesi: mae’n ofynnol o hyd i ni arddangos poster Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith yn ein gweithleoedd ac mae arbenigwyr yn dal i gael eu penodi – yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch – sy’n gyfrifol am ymweld â gweithleoedd a’u harolygu er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd y safonau gofynnol o ran diogelwch.

Stephen Bailey-John, Rheolwr Gweithrediadau

04/28/2023

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x