
Mewn lluniau: Casgliad o 28 Lluniad Diddorol o Henebion a Manylion Pensaernïol
Cafodd rhai o’r lluniadau hardd hyn eu cynhyrchu gan y Comisiwn Brenhinol yn ystod ei waith cofnodi ac ymchwilio, a chafodd eraill eu rhoi i ni gan y cyhoedd. Maen nhw’n dangos agweddau ar dreftadaeth gyfoethog ac amrywiol Cymru, ac maen nhw’n rhan fach o’r casgliad o filoedd lawer o luniadau sydd ar gael i’r cyhoedd yn archif y Comisiwn Brenhinol yn Aberystwyth, neu ar Coflein, cronfa ddata ar-lein y Comisiwn.
Oriel Gweld: Casgliad o 28 lluniad diddorol o henebion a manylion pensaernïol
Ers 1908 bu’r Comisiwn Brenhinol yn arolygu, cofnodi a chasglu gwybodaeth am amgylchedd hanesyddol Cymru, gan gynnwys pensaernïaeth werinol y wlad a’i threftadaeth eglwysig, ddiwydiannol ac arforol, a bu hefyd yn cofnodi’r newidiadau yn nhirwedd hanesyddol Cymru.
Cafodd y lluniadau eu creu gan ddrafftsmyn ar sail nodiadau arolwg manwl a chynlluniau a thrychiadau mesuredig a oedd wedi cael eu cynhyrchu gan y tîm arolygu a chofnodi yn y maes.
Fel rhan o’r arolygon hyn cynhyrchwyd lluniadau rhandoredig a lluniadau ail-greu arloesol sy’n dangos tai hanesyddol, plastai, bryngaerau, cestyll a safleoedd diwydiannol fel y byddent wedi edrych gannoedd o flynyddoedd yn ôl.
Mae arolygon y Comisiwn Brenhinol yn ffurfio casgliad enfawr o luniadau sy’n dangos tirnodau, tirweddau ac adeiladau enwog Cymru.
06/22/2017