#MHPD – Llongau tanfor, Cymru a llongwyr o Orllewin Affrica

BHM - Presentation

Ffotograffiaeth gan Iolanda Banu Viegas, Race Council Cymru.

 

Ar ôl gweld ein postiad blog ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon fis Hydref diwethaf, a edrychodd ar y cysylltiadau rhwng y Rhyfel yn erbyn Llongau Tanfor yr Almaen ar hyd arfordir Cymru a llongwyr o Orllewin Affrica, gofynnodd Liz Millman, o Learning Links International, i ni gyflwyno sgwrs yn yr 2il Symposiwm Rhyngwladol ar Hanes Pobl Groenddu a gynhaliwyd ym Mae Colwyn eleni. Mynychwyd y digwyddiad gan ddau o ddisgynyddion y Parch. William Hughes a sefydlodd y Sefydliad Affricanaidd ym Mae Colwyn ym 1885. Siaradodd Dr Marian Gwyn, Cydlynydd Cymru ar gyfer Mis Hanes Pobl Groenddu, am gefndir y Parch. Hughes yng Ngogledd Cymru a’i waith yn hyfforddi bechgyn Affricanaidd yn y Sefydliad. Siaradwr arall oedd Norbert Mbu-Mputu, a roddodd sgwrs am ei brosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri ar hanes a gwaith y Sefydliad. Gobeithir y bydd y digwyddiad blynyddol hwn yn codi ymwybyddiaeth o hanesion Pobl Groenddu yng Ngogledd Cymru. I ddarganfod mwy ewch i: http://www.bhmnw.com/

 

Helen Rowe - Wales, the U-boat war and west africans

10/30/2017

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x