
Miloedd o awyrluniau newydd o safleoedd treftadaeth yng Nghymru yn mynd ar-lein
Mae gan Gymru dreftadaeth arbennig ac amrywiol, yn dyddio o’r cyfnodau cynharaf hyd at yr oes fodern. Bob blwyddyn bydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn ymgymryd â rhaglen arbenigol o dynnu lluniau o’r awyr, ym mhob golau a thymor, i ddarganfod storïau newydd am bobl, tirwedd a hanes Cymru.
Yn awr mae 22,200 o awyrluniau digidol newydd eu catalogio wedi’u rhoi ar Coflein, ein catalog ar-lein cenedlaethol o archaeoleg, adeiladau a threftadaeth ddiwydiannol a morwrol Cymru. Dyma adnodd enfawr newydd o ddelweddau sy’n dangos Cymru o’r awyr.
Ceir uchafbwyntiau – ac ambell ryfeddod – yn yr awyrluniau newydd o Gymru, o safle Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2012 yn Llandŵ yn ne Cymru a nenlinell fodern Bae Caerdydd i olygfeydd gaeafol syfrdanol o gestyll canoloesol Caerffili a’r Waun, yn ogystal â chaer chwedlonol Dinas Emrys yn Eryri wedi’i goleuo gan baladr o heulwen. Mae archaeoleg gladdedig wedi’i chynrychioli hefyd, yn yr olion cnwd gwyrdd sy’n dynodi safle teml neu fila Rufeinig yn Broadheath ger Llanandras. Ceir golygfeydd o fynyddoedd Eryri yn y gaeaf sy’n dangos mor amrywiol yw tirwedd Cymru: Cadwyn yr Wyddfa, Cronfa Ddŵr Llyn Stwlan, Ffestiniog ac uwchdiroedd archaeolegol gyfoethog Dyffryn Ardudwy o gwmpas bryngaer Pen y Dinas. Mae llun trawiadol arall yn dangos pwll glas Chwarel y Penrhyn ym Methesda, Gwynedd, sy’n cyferbynnu â’r llifogydd yn nyffryn Afon Tywi, i’r dwyrain o Gaerfyrddin, yng ngaeaf 2012.
I bori treftadaeth Cymru ar-lein ewch i www.coflein.gov.uk. I gael copïau o awyrluniau cysylltwch â Gwasanaeth Ymholiadau Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Toby Driver, Uwch Ymchwilydd o’r Awyr

2. Bae Caerdydd
04/10/2016