
Mis Alzheimer’s y Byd: Helpu pobl i fyw’n dda gyda dementia
Yn y Comisiwn Brenhinol rydym yn frwd dros dreftadaeth a defnyddio treftadaeth i gyfoethogi bywydau pobl. Un ffordd o wneud hyn yw defnyddio ein hadnoddau gweledol i ysgogi atgofion ymhlith pobl sy’n byw gyda dementia.* Mae gennym dudalen we sy’n darparu mynediad i rai o’n casgliadau arbennig ac sy’n egluro sut i chwilio ein cofnodion neu ddarganfod cardiau post hanesyddol.

Archif Cof
Mae’r oriel ‘Atgof Cof’ yn rhoi blas ar y math o ddelweddau sy’n cael eu cadw yn ein harchif, Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC), y gellir cyrchu ei chynnwys drwy ein cronfa ddata ar-lein, Coflein.
Ond mae ein gwaith yn y maes hwn yn cael ei gyflawni’n bennaf drwy Gasgliad y Werin Cymru, sef partneriaeth rhyngom ni, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru. Gall gwefan Casgliad y Werin ddarparu ar gyfer gwaith hel atgofion syml – ar ffurf ymgysylltu thematig â’i chynnwys – ac ar gyfer gwaith ar hanesion bywyd unigolion – drwy lawrlwytho ffotograffau perthnasol o’r wefan neu, mewn cyferbyniad, drwy uwchlwytho ffotograffau personol i’r wefan a chreu eich Casgliad neu’ch Stori eich hun. I hybu’r math cyntaf o waith, rydym wedi datblygu Atgof Cof, cyfrif wedi’i guraduro sydd â’r nod o hwyluso hel atgofion gyda phobl sy’n byw gyda dementia.

Ar gyfer Mis Alzheimer’s y Byd, rydym ni wedi creu cyflwyniad fideo byr sy’n egluro pwrpas yr Archif Cof:
Cerddoriaeth a Neuaddau Dawns
Yn olaf, hoffem dynnu sylw at un o’r ychwanegiadau diweddaraf at yr Archif Cof, Cerddoriaeth a Neuaddau Dawns, casgliad o ddelweddau yn amrywio o fandiau jazz y 1930au i grwpiau pop y 1960au, o ddawnsfeydd yn neuadd y dref i jitterbugging, yn ogystal â dau fideo 360-gradd sy’n eich gwahodd i ymuno â’r gynulleidfa i ganu caneuon poblogaidd fel ‘Moliannwn’ a ‘Hen Ferchetan’.

Byddwn yn parhau i ychwanegu deunydd at y casgliadau ac mae croeso i chi gynnig awgrymiadau
Gobeithiwn y bydd yr adnoddau hyn yn tanio atgofion ac yn ysgogi trafodaethau. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych os ydynt – gadewch eich sylwadau isod!
Reina van der Wiel, Rheolwr Llywodraethu a Risg
* Fe gymeron ni ran yn ddiweddar mewn ymchwil gan Isabel Deards o Goleg Prifysgol Llundain ar “Ysgogi cymdeithasol a photensial archifau ar gyfer cyfoethogi profiadau pobl sy’n byw gyda dementia”.
09/23/2020