Mis Hanes LGBT: Lesbiaid a Hoywon yn Cefnogi’r Glowyr, 1984-85

Fel y dangosodd y ffilm Pride, a ryddhawyd yn 2014, roedd pentref glofaol Onllwyn yng Nghastell-nedd Port Talbot yn lleoliad cydweithredu anarferol rhwng grŵp o lesbiaid a hoywon o Lundain a glowyr a’u teuluoedd yn ystod streic fawr y glowyr 1984-85.

 

Map Coflein yn dangos Onllwyn.

Map Coflein yn dangos Onllwyn.

 

Dechreuodd y cydweithredu rhwng y mudiad hoyw a’r glowyr ar ôl i arian gael ei gasglu i’r streicwyr yn ystod Gorymdaith Gay Pride Mehefin 1984. Cafodd Lesbians and Gays Support the Miners (LGSM) ei ffurfio ym mis Gorffennaf 1984 wedi i gynrychiolydd o Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn Ne Cymru ddod i siarad mewn cyfarfod yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Llundain. Ffurfiodd rhai o’r menywod yn LGSM eu grŵp eu hun, Lesbians Against Pit Closures (LAPC), ychydig o fisoedd wedyn.

Trefnwyd ymweliadau ag ardaloedd y streic yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys ymweliad â Neuadd Les Glowyr Onllwyn (NPRN 414833) gan rai o aelodau LGSM ar 27 Hydref 1984. Roedd mwy na thrigain o bobl wedi cymryd rhan yng ngweithgareddau LGSM erbyn diwedd y streic ym mis Mawrth 1985, gan gasglu £20,000 i’r glowyr a’u teuluoedd.

 

Un o ddwy res o fythynnod deulawr i weithwyr yn Onllwyn, bellach wedi’u dymchwel (NPRN 407800).

Un o ddwy res o fythynnod deulawr i weithwyr yn Onllwyn, bellach wedi’u dymchwel (NPRN 407800).

 

Dangosodd y glowyr eu cefnogaeth hwythau i’r mudiad hoyw pan gymerodd grŵp mawr o lowyr a’u teuluoedd o Gyfrinfa Blaenant yn Ne Cymru ran yng Ngorymdaith Gay Pride 1985 yn Llundain. Yn bwysicach na hyn, efallai, roedd pleidlais floc Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn fodd i gario cynnig i gefnogi hawliau cyfartal i ddynion hoyw a lesbiaid yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn Bournemouth yn hwyrach y flwyddyn honno.

 

Ein hadnoddau
Gellir gweld gwrthrychau’n ymwneud ag LGSM ar wefan Casgliad y Werin Cymru: https://www.casgliadywerin.cymru/collections/536661.

I weld ffotograffau o lowyr ac o lofeydd o dan ac uwchben y ddaear o’r 1970au a dechrau’r 1980au, chwiliwch Casgliad John Cornwell.

I weld archifau a delweddau o adeiladau’n gysylltiedig â glowyr Cymru, chwiliwch Coflein.

 

Dyn mewn ‘manrider’, pen y drifft, 1975 (Casgliad Cornwell, cyfeirnod: 2098E, NPRN 85015).

Dyn mewn ‘manrider’, pen y drifft, 1975 (Casgliad Cornwell, cyfeirnod: 2098E, NPRN 85015).

 

Mwy o wybodaeth

#MisHanesLGBT

 

 

 

02/26/2018

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x