Cragen Tŷ Piercefield heb do yn 1992.

Mis Hanes Pobl Ddu: Tŷ Piercefield – hanes perchennog planhigfa, mab i gaethferch a phlasty prydferth yn Sir Fynwy

Rydym yn dathlu Mis Hanes Pobl Ddu trwy edrych ar gysylltiadau hanesyddol hynod Tŷ Piercefield yn Sir Fynwy, sydd bellach yn rhan o Gae Ras Cas-gwent.  Ystyrid mai Tŷ Piercefield oedd un o blastai mwyaf ysblennydd Cymru yn y cyfnod Sioraidd, a daeth y gwaith tirlunio yno’n enwog ddiwedd y ddeunawfed ganrif yn rhan o Gylchdaith Gwy sydd mor hardd yn ei hanfod.  Yr hyn sy’n llai hysbys yw bod Piercefield hefyd yn gysylltiedig â chyfoeth a ddeilliodd yn rhannol o’r fasnach gaethweision.  Mae’n debyg bod Piercefield yn un o nifer o dai yng Nghymru a gafodd eu hadeiladu neu’u cynnal a’u cadw gan ‘nabobiaid’ o India’r Gorllewin, sef y dynion eithriadol o gyfoethog a oedd wedi gwneud eu ffortiwn yn y Caribî. Mae rhai o’r tai eraill yn cynnwys Slebech yn Sir Benfro (a adeiladwyd gan Nathaniel Phillips) a Chastell Penrhyn (a ailadeiladwyd yn gastell ffantasi helaeth ar gyfer George Hay Dawkins-Pennant rhwng 1820 ac 1837). Cafodd y ddau dŷ eu hadeiladu ag elw planhigfeydd yn y Caribî, a oedd â chaethweision.

Mae hanes Piercefield yn nodedig, os nad yn unigryw, oherwydd iddo fod yn eiddo’n olynol i ddau deulu o nabobiaid nad oedd cysylltiad rhyngddynt. Roedd un o’r rheiny, yn rhyfeddol, yn fab i gaethferch. Cafodd Piercefield ei brynu gan Valentine Morris (a fu farw yn 1743), sef perchennog cyfoethog planhigfa, yr oedd gan ei deulu gysylltiadau da yn y Caribî a Gogledd America.  Ailwampiodd ei fab, Valentine Morris II (1727–1789), y tŷ cyn mynd ati i greu’r llwybrau cerdded ‘heb eu hail’ yr oedd yn ‘rhaid’ aros i’w gweld wrth fynd ar Gylchdaith Gwy a oedd mor ffasiynol.  Dyma oedd gan yr Archddiacon William Coxe i’w ddweud am y tŷ yn History of Monmouthshire (1801: 392), ‘since the improvements of Valentine Morris [Piercefield] has become the ornament of the county’.  Roedd Morris yn gwario’n helaeth ac yn hael ei groeso; disgrifiwyd ei ffordd o fyw fel ‘style of princely rather than private magnificence’ a dywedwyd ei fod yn croesawu ymwelwyr ‘with a liberal but ostentatious profusion’. Maes o law gwariodd Morris fwy o arian nag a oedd ganddo, yn enwedig wrth sefyll yr etholiad yn 1771 yn erbyn yr ymgeisydd o Dŷ Tredegar, ac fe’i gorfodwyd i werthu Piercefield a dychwelyd i’r Caribî.  Ar ôl cyfnod mewn swydd gyhoeddus dychwelodd i Brydain, heb adfer ei gyfoeth o hyd, a chafodd ei garcharu am fod â dyled.  Cafodd gweddillion tŷ Morris eu cynnwys yn ddiweddarach fel ystafelloedd gwasanaethu pan gafodd y tŷ ei ailwampio, ac mae’r llwybrau cerdded o amgylch Piercefield bellach yn rhan o Barc Piercefield sy’n barc cofrestredig Gradd 1.  

Yn ddiweddarach, cafodd Piercefield ei brynu gan Nathaniel Wells (a anwyd yn 1779), sef ‘nabob’ arall o India’r Gorllewin ond un a anwyd, yn rhyfeddol, i gaethwasiaeth. Roedd Wells (a anwyd yn 1779) yn un o chwech neu fwy o blant i William Wells (1730-1794), perchennog planhigfa siwgr a masnachwr siwgr o St Kitts. Roedd ei fam (a fu farw yn 1811) yn un o gaethweision ei dad. Aeth William Wells, a anwyd yng Nghaerdydd, i St Kitts tua 1749. O dipyn i beth daeth yn berchen ar dair planhigfa siwgr, a’r mwyaf o’r rhain oedd Vambells. Cafodd blant gydag o leiaf tair o gaethweision y tŷ, a rhyddhaodd rai ohonynt yn ei ewyllys. Cafodd y rhan fwyaf o’i ystâd ei gadael i’r unig fab a’i goroesodd, sef Nathaniel, a oedd yn fab i gaethferch o’r enw Juggy, sef ffurf anwes ar yr enw Judith efallai). Bu farw William Wells yn 1794, gan adael ei dair planhigfa i’w fab Nathaniel ynghyd â chyfoeth yr amcangyfrifwyd ei fod yn werth £120,000.

Mae bywgraffyddion wedi tynnu sylw at y paradocs, sef bod Nathaniel Wells, a oedd yn fab i gaethferch, wedi parhau er hynny i fod yn berchen ar gaethweision a phlanhigfeydd.  Cafodd y paradocs hwnnw ei ddwysáu yn 1837 pan dalwyd iawndal gwerth £1400 9s 7d i Wells am 86 o gaethweision ar ystadau yn St Kitts. 

Yn 1802 prynodd Nathaniel Wells Dŷ a Pharc Piercefield am £90,000, gan ychwanegu at yr eiddo’n ddiweddarach fel ei fod yn cynnwys bron 3,000 o erwau.  Roedd Wells yn dirfeddiannwr parchus heb unrhyw uchelgais gwleidyddol ond bu’n dal amryw swyddi sirol: yn 1806 fe’i penodwyd yn ustus heddwch, ac ar 24 Ionawr 1818 cafodd ei benodi’n siryf Sir Fynwy. Mae bron yn sicr mai ef oedd y siryf du cyntaf ym Mhrydain. Yn ddiweddarach, cafodd gomisiwn i fod yn is-gapten yn Llu Cas-gwent a oedd yn rhan o Farchoglu Iwmyn Caerloyw a Mynwy, ac mae’n debyg mai dim ond un swyddog du oedd wedi’i gomisiynu i’r lluoedd arfog o’i flaen. Yn ôl pob sôn, byddai bron ganrif yn mynd heibio cyn i’r swyddog du nesaf gael ei gomisiynu.

Roedd Wells yn fodlon cynnal a chadw’r tŷ a’r llwybrau cerdded yn Piercefield.  Cafodd ei gladdu yn Eglwys Sant Arfan yn 1852 lle bu’n gwasanaethu am amser hir fel warden a chymwynaswr, gan dalu am dŵr wythonglog hynod yr eglwys yn 1820.  Mae cofeb ar wal ddeheuol y gangell sydd â’r geiriau canlynol arni:

Nathaniel Wells of Piercefield, esqr., A magistrate and deputy lieutenant of the county of Monmouth, who died at Bath May 13th, 1852, aged 72 years. 

Er bod tŷ a gerddi Piercefield wedi’u hesgeuluso erbyn hyn, mae eu gwaddol pensaernïol/archaeolegol yn bwysig.  Mae’r tŷ yn adeilad rhestredig gradd II*. Aeth y tŷ yn adfail wedi iddo gael ei brynu gan Gwmni Cae Ras Cas-gwent yn 1923.  Yn ôl John Newman yn The Buildings of Wales: Gwent/Monmouthshire, mae’n amheus a yw’r hanes iddo gael ei ddefnyddio fel maes ymarfer gan filwyr America yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn wir.  Cafodd ymgyrch i achub ac adfer yr adeilad ei lansio gan SAVE Britain’s Heritage yn 2013, gyda Marcus Binney yn dweud bod cyflwr adfeiliedig Tŷ Piercefield yn ‘dorcalonnus’.   

Nicola Roberts (gyda diolch i Adam Coward a Richard Suggett)

Darllen pellach:

J A H Evans yn Monmouthshire Antiquary (2002)

J A H Evans, Wells, Nathaniel (1779–1852), ‘slave owner and landowner’ Oxford Dictionary of National Biography (2004)

Ifor Waters, The Unfortunate Valentine Morris (1964)

Ifor Waters, Piercefield on the Banks of the Wye (1975)

Deunydd ychwanegol:

Cofnod helaeth Michael Freeman am Piercefield ar ei wefan: https://sublimewales.wordpress.com/attractions/mansions-and-grounds/piercefield/

Roedd rhaglen ddogfen a ddarlledwyd ar Radio 4 gan yr Athro Gretchen-Gerzina am Orffennol Du Prydain yn archwilio’r paradocs, sef ei bod yn dal yn bosibl yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg i rai pobl o gefndir du Affricanaidd / o India’r Gorllewin ymgartrefu ym Mhrydain er bod Prydain yng nghanol y fasnach gaethweision.  Daeth rhai yn gyfoethog, ond dim ond Nathaniel Wells ddaeth yn rhan o gymdeithas yr uchelwyr.

Llun o’r awyr o Dŷ Piercefield gyda phafiliynau unllawr bob ochr iddo.
Llun o’r awyr o Dŷ Piercefield gyda phafiliynau unllawr bob ochr iddo.
Cragen Tŷ Piercefield heb do yn 1992.
Cragen Tŷ Piercefield heb do yn 1992.
Yr olygfa o Wyndcliff yn Piercefield, sy’n dangos rhan o’r llwybr cerdded hardd. Daw’r llun o Gasgliadau CHCC, wedi’i gopïo o Amgueddfa Cas-gwent.
Yr olygfa o Wyndcliff yn Piercefield, sy’n dangos rhan o’r llwybr cerdded hardd. Daw’r llun o Gasgliadau CHCC, wedi’i gopïo o
Amgueddfa Cas-gwent.
Penrhyn Castle, Llandygai: a 19th-century fantasy castle partly financed from the profits of West Indian plantations.
Penrhyn Castle, Llandygai: a 19th-century fantasy castle partly financed from the profits of West Indian plantations.
Slebech Hall, Pembrokeshire, an extensive Georgian House, built by Nathaniel Phillips, a Jamaican sugar plantation owner.
Slebech Hall, Pembrokeshire, an extensive Georgian House, built by Nathaniel Phillips, a Jamaican sugar plantation owner.

10/25/2022

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x