Misericordiau yn Nhyddewi

Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Sir Benfro. NPRN: 306   DI2008_1029
Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Sir Benfro. NPRN: 306 DI2008_1029

Ystyrir mai Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn Sir Benfro yw’r safle sancteiddiaf yng Nghymru. Mae’n sefyll ar safle mynachlog o’r chweched ganrif a sefydlwyd gan Ddewi Sant, y cedwid ei greiriau yn yr Eglwys Gadeiriol hyd y Diwygiad pryd y cawsant eu cymryd ymaith ynghyd â chreiriau Justinian. Adeilad eiconig yw’r Eglwys Gadeiriol ei hun, ond er i lygaid yr ymwelwyr gael eu tynnu tuag i fyny yn aml at waith carreg a nenfwd ysblennydd canol yr eglwys, mae’n bosibl na fyddant yn gweld rhai o fanylion hyfryd Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

Seddau sydd i’w cael fel rheol yng nghwir eglwys neu eglwys gadeiriol yw misericordiau; mae eu dyluniad yn caniatáu iddynt gael eu plygu i fyny pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Mae silff fach ar du isaf y sedd y gall y defnyddiwr bwyso arni i fod yn llai anghysurus wrth sefyll yn ystod gwasanaethau hir. Daw’r enw o’r Lladin ‘misericordia’, sy’n golygu trugaredd. O ganlyniad, cânt eu galw’n ‘seddau trugaredd’ neu ‘seddau tosturi’ weithiau. Yr un fath â llawer o’r gwaith coed mewn eglwysi ac eglwysi cadeiriol, mae misericordiau wedi’u cerfio’n grefftus yn aml, gan ddangos amrywiaeth fawr o bynciau.

Cafodd pob un o’r misericordiau yn Eglwys Gadeiriol Dewi Sant ei gerfio o un darn o dderwen. Oherwydd eu safle cudd, nid oedd cyfyngiadau celf eglwysig draddodiadol yn llyffetheirio’r crefftwyr ac roeddynt yn gallu eu mynegi eu hunain yn fwy rhydd. Eu hysbrydoliaeth oedd bwystoriau, chwedlau a storïau gwerin ac roeddynt braidd yn amharchus yn aml! Mae’r delweddau isod yn dangos rhai o’r misericordiau sydd i’w gweld yn y cwir yn Nhyddewi:

Câi misericordiau eu defnyddio gan glerigwyr i leddfu eu hanghysur yn ystod gwasanaethau hir. Mae’r geiriau sydd wedi’u peintio uwchben pob un yn cyfeirio at enw a/neu swydd y person a oedd yn eu defnyddio ar adeg benodol. NPRN: 306   DI2012_2607

Mae’r misericord hwn yn dangos pererinion mewn cwch, a thynnwyd y llun gan Mrs. Trenchard Cox ym 1948. NPRN: 306   DI2008_0016
Mae’r misericord hwn yn dangos pererinion mewn cwch, a thynnwyd y llun gan Mrs. Trenchard Cox ym 1948. NPRN: 306 DI2008_0016
Misericord yn dangos ‘saer llongau’. Tynnwyd y llun hwn ym 1948 hefyd. NPRN: 306   DI2008_0162
Misericord yn dangos ‘saer llongau’. Tynnwyd y llun hwn ym 1948 hefyd. NPRN: 306 DI2008_0162
Roedd wynebau fel hwn yn destunau poblogaidd ar gyfer misericordiau. NPRN: 306   DI2012_2603
Roedd wynebau fel hwn yn destunau poblogaidd ar gyfer misericordiau. NPRN: 306 DI2012_2603
Câi bwystfilod rhyfeddol fel hwn eu hysbrydoli gan fwystoriau’r Oesoedd Canol yn aml. NPRN: 306   DI2012_2604
Câi bwystfilod rhyfeddol fel hwn eu hysbrydoli gan fwystoriau’r Oesoedd Canol yn aml. NPRN: 306 DI2012_2604

03/01/2019

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x