
Model 3D o Bwmp Dŵr Melingriffith: cynhyrchwyd gan Roger John
Cafodd y model prydferth hwn o Bwmp Dŵr Melingriffith ei ddylunio, a’i gynhyrchu ar argraffydd 3D, gan Roger John. Cafodd y model ei arddangos yn y Gynhadledd Archaeoleg Ddiwydiannol flynyddol ac yng Nghynhadledd y Gymdeithas Dyfrffyrdd Mewndirol a bu’n ganolbwynt sawl sgwrs. Mae’n enghraifft wych o’r lefel o gymhlethdod geometregol y gellir ei chyflawni gan ddefnyddio technoleg fodern, ac yn dangos hefyd sut y gall cyfryngau newydd ddod â thechnoleg fecanyddol o oes flaenorol yn fyw mewn ffordd mor uniongyrchol a diddorol. Rydym yn hynod ddiolchgar i Roger John am ganiatáu i ni ddangos ei luniau o’r model.
Cafodd pwmp dŵr gwreiddiol Melingriffith (NPRN: 34441), Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, ei ddylunio gan Watkin George, peiriannydd yng Ngwaith Cyfarthfa, ym 1793. Ei bwrpas oedd pwmpio dŵr o Waith Tunplat Melingriffith (NPRN: 40456) yn ôl i Gamlas Morgannwg. Credir i’r pwmp dŵr presennol, a gafodd ei adnewyddu yn y 1980au ac eto yn 2008-2011, gael ei osod yn lle’r pwmp cyntaf ym 1807. Cafodd ei ddylunio gan John Rennie.
Gellir gweld manylion a delweddau pellach yn http://www.coflein.gov.uk/en/site/34441/details/melingriffith-water-pump-melingriffith#site-details
11/03/2016