An overhead photo of a large wooden shipwreck preserved on Cefn Sidan Sands, Carmarthenshire, and surveyed by the RCAHMW in February 2023.

Modelu Archaeoleg Arforol

Mae gan Gymru gyfres gyfoethog ac amrywiol o olion archaeolegol arforol. Maent yn amrywio o weddillion tiroedd cynhanesyddol sydd dan y dŵr i harbwrs hanesyddol cudd mewn baeau bach anghysbell, a llongau a ddrylliwyd ar hyd y canrifoedd. Mae’r safleoedd archaeolegol hyn yn fregus ac mae terfyn arnynt. Mae pob safle’n unigryw, boed oherwydd ei ffurf ffisegol neu oherwydd y wybodaeth amhrisiadwy y mae’n ei chynnwys am bobl yn y gorffennol. Pan fyddant wedi’u colli, ni ellir eu hailgyflwyno na’u hadfywio a byddant wedi diflannu am byth.

Mae’r argyfwng hinsawdd wedi’i gwneud yn fwy tebygol o lawer y bydd safleoedd archaeolegol arforol yn cael eu difrodi’n wael, neu hyd yn oed eu dinistrio, gan brosesau naturiol. Felly, mae’r Comisiwn wedi cychwyn ar brosiect hirdymor, strategol i wella ein cofnodion am archaeoleg arforol Cymru yn y parth rhynglanwol a’r parth arfordirol. Mae arolygon digidol yn ein galluogi i greu cofnodion cydraniad uchel o fanylion safleoedd unigol, creu set ddata 3D gyfatebol a churadu cofnod digidol, parhaol o’n treftadaeth arforol werthfawr ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae’r graddau y caiff bygythiadau i safleoedd archaeolegol arforol Cymru eu cofnodi a’u deall yn gwella o hyd. Mae’r bygythiadau hynny’n cynnwys effaith tywydd difrifol megis stormydd neu lifogydd, neu ddifrod oherwydd bod erydu arfordirol yn digwydd yn gynt. Yn y cyfamser, gall newidiadau yn lefel y môr olygu bod safleoedd newydd yn cyrraedd sefyllfa lle gellid ystyried eu bod dan fygythiad, tra mae newidiadau i batrymau gwaddodion yn gallu golygu bod safleoedd yn cael eu claddu’n barhaol. Ar yr un pryd, mae ein harfordiroedd a’n moroedd yn wynebu pwysau oherwydd datblygiadau masnachol a defnydd at ddibenion hamdden, ar raddfa nas gwelwyd ei thebyg o’r blaen. Mae effaith yr argyfwng hinsawdd yn cynyddu effaith bygythiadau sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd, ac yn achosi pwysau dealladwy o ran datblygu hefyd, e.e. cynlluniau amddiffyn yr arfordir neu brosiectau ynni adnewyddadwy ar y môr.

Yn y cyd-destun hwn, mae’r Comisiwn yn ceisio sicrhau bod gennym y cofnod gorau posibl os bydd safle’n cael ei ddifrodi neu hyd yn oed ei golli mewn modd trychinebus. Yn ffodus, mae datblygiadau technolegol dros oddeutu’r degawd diwethaf yn golygu bod creu cofnodion cydraniad uchel o safleoedd yn gyflym trwy ddulliau arolygu digidol wedi dod yn beth arferol. Mae sganio â laser a ffotogrametreg yn cynnig ffyrdd o gynnal arolwg, sy’n golygu ei bod bellach yn bosibl i dîm o un neu ddau unigolyn greu cofnod manwl o safle mewn ychydig oriau; yn y gorffennol, gallai hynny fod wedi cymryd llawer o ddiwrnodau neu hyd yn oed wythnosau i dîm a oedd yn llawer mwy o faint. Mae hynny’n arbennig o berthnasol ar safleoedd yn y parth rhynglanwol lle gall mynediad fod wedi’i gyfyngu i awr neu ddwy, unwaith neu ddwywaith y flwyddyn. Er enghraifft, cafodd y llong ddrylliedig fawr o bren (NPRN 302164) ar draeth Cefn Sidan yn Sir Gaerfyrddin (sydd yn y prif lun) ei harolygu ym mis Chwefror 2023 gan ddefnyddio drôn ysgafn iawn wedi’i reoli â llaw i dynnu 687 o ffotograffau mewn ychydig yn llai nag awr o hedfan ar lefel isel.

Cwmwl pwyntiau o’r llong ddrylliedig o bren ar draeth Cefn Sidan yn Sir Gaerfyrddin. Mae dros 70 miliwn o bwyntiau wedi’u cofnodi trwy arolwg ffotogrametreg, fel cofnod digidol 3D o’r llong.

Mae allbynnau’r arolygon digidol 3D hyn i’w cael mewn sawl ffurf. ‘Cwmwl pwyntiau’ yw’r enw hawsaf i’w roi ar y cyntaf o’r rhain, ac yn syml iawn mae’n gasgliad o bwyntiau sy’n darlunio yn ddigidol arwyneb y gwrthrych sy’n cael ei arolygu, gan gynnwys safleoedd archaeolegol. Caiff y pwyntiau hynny eu trefnu ar ffurf 3D (ac mae gan bob un gyfesurynnau X, Y, Z). Gellir pennu’r pwyntiau mewn cwmwl pwyntiau trwy fesur ar ba gyflymder ac ongl y mae pelydryn laser a gaiff ei dywynnu gan sganiwr yn cael ei adlewyrchu’n ôl i’r offeryn, neu drwy baru nodweddion mewn ffotograffau sy’n gorgyffwrdd â’i gilydd yn ystod gwaith prosesu ffotogrametreg. Enghraifft o hynny yw’r cwmwl pwyntiau o longddrylliad Cefn Sidan, a grybwyllwyd uchod, a oedd yn cynnwys 70,667,521 o bwyntiau unigol (llun 2). Gall cwmwl pwyntiau o’r fath fod yn gofnod sylfaenol o safle, y gellir cymharu cymylau pwyntiau arolygon yn y dyfodol ag ef er mwyn mesur dirywiad y safle neu gadarnhau bod rhannau unigol o’r llong wedi’u colli.

Orthomosäig o’r un llong yng Nghefn Sidan. Yma, mae’r holl ffotograffau o’r arolwg wedi’u cyfuno i greu un ddelwedd nad yw wedi’i chamystumio gan bersbectif neu lens y camera.

Mae dau allbwn arall i’w cael ochr yn ochr â’r cwmwl pwyntiau, sy’n gofnod o safle archaeolegol, sef yr orthomosäig (llun 3) a’r model codiadau tir digidol (llun 4). Mae’r orthomosäig yn ddelwedd hynod fanwl o’r safle oddi uchod, sy’n cynnwys yr holl ffotograffau a dynnwyd yn ystod arolwg ffotogrametreg wedi’u pwytho ynghyd i ddileu unrhyw bersbectif neu gamystumio gan lens ac ati. Felly, gall fod yn gofnod hynod effeithiol o safle ar ffurf weledol a gall fod yn sail i gynlluniau dehongli mwy traddodiadol. Fel y mae’r enw yn awgrymu, mae model codiadau tir digidol yn fodel digidol o’r safle, sy’n cynnwys data am gyfesurynnau go iawn ac uchder perthynol arwynebau a nodweddion. Yn aml, caiff ei liwio gan ddefnyddio ystod o liwiau, fel y caiff cadwyn o fynyddoedd ei lliwio mewn atlas, er enghraifft. Mae’r model codiadau tir digidol yn ddefnyddiol ar gyfer nodi nodweddion neu gyfliniadau a allai fod yn isel iawn, neu hyd yn oed yn anweledig, wrth edrych ar y safle neu wrth edrych ar ffotograffau arferol. Gellir ei ddefnyddio hefyd i gofnodi newidiadau i nodweddion, megis lefelau gwaddodion ar safle.

Model codiadau tir digidol o’r llong ddrylliedig o bren yng Nghefn Sidan, a luniwyd o’r cwmwl pwyntiau a grëwyd o’r arolwg ffotogrametreg.

Yn olaf, mae’n bosibl creu model 3D o safle. Mae’r broses hon yn troi’r cwmwl pwyntiau yn ‘rhwyll’ o drionglau, trwy uno dotiau’r cwmwl pwyntiau. Yna, caiff ‘gwead’ ei osod dros bob un o wynebau’r trionglau, sy’n dod yn ei dro o’r ffotograffau a dynnwyd yn ystod yr arolwg. Gall hynny arwain at greu model 3D ffoto-realistig o safle, y gellir ei drin a’i drafod yn hawdd er mwyn hybu dealltwriaeth well o’r olion archaeolegol. Mae modd rhannu’r model 3D yn ehangach hefyd trwy byrth ar-lein megis SketchFab. Mae hynny’n galluogi unrhyw un i weld ac archwilio cynnyrch y gwaith arolygu gan ddefnyddio cyfrifiadur personol, Mac, neu hyd yn oed ffôn clyfar. Mae’r gallu i rannu modelau fel hyn yn arbennig o ddefnyddiol pan fydd safleoedd yn anodd eu cyrraedd, ac mae’n galluogi pobl i archwilio olion archaeolegol na fyddent wedi gallu ymweld â nhw fel arall. Mae’r model 3D o’r llong ddrylliedig o bren yng Nghefn Sidan, a grybwyllir uchod, i’w weld yma: https://skfb.ly/oEQKz  

Mae’r broses gofnodi 3D gyflym a ddisgrifir uchod yn ei gwneud yn bosibl cynllunio rhaglen arolygu ar raddfa a fyddai wedi bod yn amhosibl o’r blaen. Erbyn hyn, nid yw’n afrealistig pennu nod strategol sy’n golygu gwella Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru trwy, er enghraifft, ddarparu cofnod digidol 3D ar gyfer pob un o’n llongddrylliadau rhynglanwol (tua 150) neu bob harbwr hanesyddol bach (tua 50), os ydym yn barod i feddwl yn y tymor canolig, sef oddeutu’r pum i’r deng mlynedd nesaf. Bydd y gwaith hwn yn sicrhau bod cofnodion sylfaenol ar gael i archaeolegwyr y dyfodol, a fydd yn ei gwneud yn bosibl monitro a rheoli safleoedd archaeolegol rhynglanwol ac arfordirol Cymru yn y ffordd fwyaf effeithiol yn y tymor hir.

Dr Julian Whitewright, Uwch Ymchwilydd (Arforol)

25/07/2023

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x