
Morgannwg: Tu mewn Eglwysi
Mae gan Forgannwg gyfoeth o adeiladau Cristnogol o’r Oesoedd Canol a’r cyfnod wedi’r Diwygiad Protestannaidd. Mae tu mewn rhai ohonynt, a murluniau’n arbennig, wedi goroesi’n rhyfeddol. Yn archif y Comisiwn Brenhinol, sef Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, cewch gofnodion manwl o’r murluniau hynny.
▶️ Gwyliwch fideo: Morgannwg – Tu mewn Eglwysi

Llun o do cangell Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, y Drenewydd yn Notais, Porthcawl: ailgodwyd rhan helaeth o’r eglwys tua diwedd y 15fed ganrif – dechrau’r 16eg ganrif.

Tu mewn Eglwys Sant Illtud, Llanilltud Fawr, gan ddangos y murlun uwchlaw’r bwa.

Cadwraethwyr wrth eu gwaith ar furluniau Eglwys Sant Teilo, Llandeilo Tal-y-bont.

Murlun o’r Santes Catrin yn Eglwys Sant Teilo, Llandeilo Tal-y-bont; mae’r eglwys o’r 13eg ganrif wedi’i hailgodi ar dir Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.

Murlun yn Eglwys Sant Brewys, Sain Tathan, o’r arfbais frenhinol wedi’i Adferiad.
10/09/2017