
Mwy na 660,000 enw yn y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru
Derbyniodd y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru ddata Prosiect Cynefin, y prosiect i ddigideiddio mapiau degwm 1841, oddi wrth y Llyfrgell Genedlaethol ychydig cyn y Nadolig, ac ers hynny, rydym wedi bod yn mynd trwyddynt a’u glanhau er mwyn eu huwchlwytho i’r Rhestr. Golygai hyn fynd trwy dros 900,000 o gofnodion, a thynnu allan pob un nad oedd yn enw go iawn, megis ‘cae’ neu ‘tŷ a gardd’. Mae’r gwaith hwn bellach wedi’i gwblhau, ac rydym yn falch o adrodd bod 515,902 o enwau i’w hychwanegu at y Rhestr.
Dros 500,000 o enwau wedi’u hychwanegu at y Rhestr
Maent yn cynnwys llawer o enwau Cymraeg, Saesneg neu gymysg, a rhai hynod yn eu plith, fel Cae Dungeon yng Nglasgwm, Sir Faesyfed. Pam bod daeargell ym mhlwyf gwledig tybed? Ceir hefyd yr enw Maes y Droell yn Llanarmon yn Iâl, Sir Ddinbych, a gafodd ei enw oherwydd i fenyw gael ei lladd yno gyda throell, yn ôl traddodiad lleol.

James January-McCann, Swyddog Enwau Lleoedd y Comisiwn
Byddai llawer o’r bobl a oedd yn gyfrifol am gasglu’r wybodaeth ar gyfer y degwm yn aml yn ysgrifennu ‘ditto’ yn lle enwau er mwyn arbed amser. Yn ogystal â thynnu allan y cofnodion heb enwau, mae James January-McCann, Swyddog Enwau Lleoedd y Comisiwn, wedi bod yn tynnu’r dittos allan, a’u cadw ar wahân. Ychydig dros ugain mil ohonynt sydd. Mae pob cofnod yn dod gyda dolen at yr allwedd ddegwm gwreiddiol, felly bydd hi’n rhwydd mynd trwyddynt a rhoi’r enwau go iawn yn lle’r dittos. Bwriedir gwneud hyn ar ôl uwchlwytho’r hanner miliwn o enwau cyntaf.
07/12/2019