
Mwynhewch ein Ardaloedd Naturiol: Dewch i ymwled â Pendinas, y Fryngaer fwyaf yng Ngorllewin Cymru
Bob blwyddyn ym Mis Mehefin, rydym yn dathlu Mis Awyr Agored, sy’n gyfle gwych i ni archwilio a mwynhau’r tirluniau naturiol gwych o’n cwmpas. Sefydlwyd y dathliad rhyngwladol yma gan Gyn-lywydd yr Unol Delaethiau o America, Bill Clinton, yn 1998. Fe ddechreuodd fel ‘Wythnos Awyr Agored’, ac wrth i’r ŵyl dyfu mewn poblogrwydd fe benderfynon nhw i’w ddathlu am fis cyfan! Prif bwrpas y dathliad yma yw denu pobl oddi wrth afael arferai bywyd modern – fel eistedd o flaen cyfrifiaduron gwaith am oriau di-ben-draw, a gwario oriau maith yn sgrolio drwy gyfryngau cymdeithasol – dwi fy hun yn euog o hyn-, a’i hannog nhw i fwynhau’r awyr iach tu allan. Felly, gadewch i ni deithio yn ôl i amser symlach.
Mae yna nifer o ffyrdd i fwynhau’r byd naturiol o’m hamgylch, ac rydym yn ffodus ofnadwy yng Nghymru bod gennym ni gymaint o ardaloedd naturiol i ymweld â nhw! Gallwch fynd am dro i’r traeth agosaf i wylio’r haul yn machlud, beicio ar hyd y llwybrau beic lleol, mynd am dro ar hyd y llwybr arfordir i rythu ar olygfeydd godidog, neu hyd yn oed ymweld â heneb leol, fel Bryngaer Pendinas.
Pendinas yw’r Fryngaer amddiffynnol fwyaf yng Ngheredigion, allan o 230 o fryngaerau arall. Wedi ei leoli wrth aber dwy afon, y Rheidiol i’r gogledd ac yr Ystwyth i’r de, ac ochr orllewinol y gaer yn llechu’n serth i’r môr, roedd Pendinas yn safle o bwysigrwydd enfawr. Fel y gwyddom, roedd y Celtiaid yn poblogi Pendinas ar un adeg, ond heddiw mae yna nifer mawr o rywogaethau yn galw’r fryngaer wych hyn yn gartref. Yn ogystal ag edmygu’r golygfeydd prydferth wrth gerdded ar hyd y llwybrau gwahanol dros Bendinas, byddwch hefyd yn gweld amrywiaeth o anifeiliaid fel gloÿnnod byw, pryfed fel y ‘froghoppers’, gwenyn bach prysur, y fadfall gyffredin, neidr ddefaid a llawer mwy! Mae anifeiliaid mwy o faint fel y llwynog, y ffwlbart, y wenci a’r gwningen hefyd creu eu cartrefi bacha r hyd a lled yr heneb. Mae Pendinas hefyd wedi ei orchuddio gan blanhigion anhygoel fel y bysedd cŵn, neu ‘clatsh y cŵn’ fel y baswn i’n dweud, a botwm crys sy’n ymylu’r llwybrau cerdded. Mae’r eithin melyn o hyd yn ei flodau sydd yn golygu, yn ôl yr hen ddywediad bod cusanu yn dal i fod mewn ffasiwn!
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar brosiect Pendinas, sef prosiect cymunedol sydd yn canolbwyntio ar y gymuned leol sydd wrth droed y Fryngaer. Ein prif amcan yw gweithio gyda’r gymuned leol fel y gallwn ni gyd archwilio a mwynhau’r heneb hanesyddol wych yma sydd ar garreg ein drws! Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Cadw, ac rydym ni mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Archaeoleg Dyfed ar gyfer y cloddiadau archeolegol y byddwn yn trefnu. Mae gennym rhai digwyddiadau ar y gweill yn ystod yr haf megis teithiau cerdded ecolegol, a gweithdai celf y byddwn yn hysbysebu yn fuan. Rydym yn trefnu gŵyl i ddathlu Pendinas yn yr Hwb ym Mhenparcau ar y 16eg o Fedi, lle byddwn yn darparu teithiau tywys i fyny’r fryngaer yn ogystal â darparu gweithgareddau eraill i lawr yn yr Hwb. Bydd stondinau gan sefydliadau lleol fel Cynllun Hynafiaethau Cludadwy Cymru (PAS), Trysor, a llyfrgell CBHC yn yr Hwb i arddangos eu hadnoddau ar hanes lleol yr ardal ac ar y fryngaer ei hun. Yn ystod Mis Medi byddwn hefyd yn cychwyn ein hail gloddiad archeolegol o’r fryngaer i gryfhau ein gwybodaeth am yr heneb hynafol hon! Os hoffwch drefnu daith tywys o amgylch Pendinas, neu os hoffwch wirfoddoli ar gyfer y cloddiad archeolegol ym mis Medi, cysylltwch â mi drwy fy e-bost beca.davies@cbhc.gov.uk .Dewch yn llu i ymweld â safle hanesyddol Pendinas, a mwynhewch yr awyr agored!



Beca Davies, Swyddog Allgymorth Cymunedol Prosiect Pendinas
26/06/2023