
Mynd am Aur…
Fel rhan o’n sesiwn Data Agored, bydd Gorffennol Digidol yn croesawu Dr Dinusha Mendis, Athro mewn Cyfraith Eiddo Deallusol a Chyd-Gyfarwyddwr y Ganolfan Polisi a Rheoli Eiddo Deallusol (CIPPM) ym Mhrifysgol Bournemouth a Nikolaos Maniatis, Rheolwr Gyfarwyddwr, Museotechniki Ltd.
Bydd Dinusha a Nikolaos yn siarad am effaith technolegau 3D ac argraffu 3D ar gyfraith eiddo deallusol a’r materion sy’n codi mewn perthynas â hawlfraint, dylunio a thrwyddedu.
Gan ddefnyddio astudiaeth achos y prosiect ‘Mynd am Aur’ a gyllidir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, sydd wedi astudio effaith mas-gwsmereiddio a gwneud copïau 3D o emwaith hen a modern, byddant yn gosod Canllawiau Arfer sy’n amlinellu’r arferion diweddaraf a chyffredin mewn perthynas â’r materion hawlfraint, trwyddedu a chytundebol sy’n codi wrth gynhyrchu archifau digidol 3D.
Archebwch eich tocyn Gorffennol Digidol yn awr
Cynhadledd Gorffennol Digidol | Lleoliad | Cofrestru | Sylwadau | Blogs | Arddangosfeydd | Ein Noddwyr
01/27/2017