
O ‘Dde Cymru Newydd’ i hen Ogledd Cymru: I’m a Celebrity yn symud i Gastell Gwrych
Enghraifft odidog o gastell Gothig pictiwrésg o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a gynlluniwyd i edrych fel cadarnle canoloesol enfawr yw Castell Gwrych.
Y ‘set theatrig’ fwriadol ffug hon, gyda’i muriau, tyrau a rhagfuriau crenelog, yw’r lleoliad perffaith ar gyfer I‘m a Celebrity Get Me Out of Here, y sioe realiti fythol boblogaidd a dramatig a gynhelir fel rheol ar arfordir New South Wales yn Awstralia.
Mae’n bleser gan y Comisiwn Brenhinol fod yn gysylltiedig ag Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych sydd wrthi’n adfer y tiroedd a’r castell. Mae casgliad unigryw y Comisiwn o luniau hanesyddol o gymorth mawr i’r Ymddiriedolaeth wrth iddi fynd i’r afael â’r prosiect adfer cymunedol arloesol hwn.
Dechreuwyd codi’r castell tua 1812 ac roedd wedi’i gwblhau fwy neu lai erbyn 1825. Cafodd ysgythriad ei wneud o’r castell gorffenedig (os cafodd ei orffen hefyd!) ar gyfer Wales Illustrated Gastineau ym 1831.

Golygfa o Gastell Gwrych ym 1831 yn dangos y castell gorffenedig. Ysgythriad o Wales Illustrated Gastineau.
Ffotograffau hanesyddol o Gastell Gwrych
Gellir gwerthfawrogi maint llawn Castell Gwrych yn ei holl ogoniant drwy astudio awyrluniau hanesyddol y Comisiwn Brenhinol. Cafodd yr awyrlun hwn o’n Casgliad Aerofilms ei dynnu ym 1932.
Archif unigryw o 1.26 miliwn o negatifau’n dyddio o 1919 i 2006 sy’n rhoi darlun heb ei debyg o’r newidiadau yng ngwledydd Prydain yn ystod yr ugeinfed ganrif yw Casgliad Aerofilms.


Y llun hudolus hwn yw un o ddau ffotograff cynnar o Gastell Gwrych sydd yn archif y Comisiwn Brenhinol. Nid yw wedi’i ddyddio. Mae steil hetiau’r dynion yn awgrymu i’r ffotograff gael ei dynnu tua 1900.

Cafodd y ddelwedd hanesyddol hon (sydd efallai’n dangos yr un dyn ag sydd yn y llun uchod – edrychwch ar yr het!) ei chynhyrchu o sleid stereosgopig a oedd yn gyfrwng poblogaidd tua diwedd oes Victoria.

Mae gan y Comisiwn gasgliad gwych o ffotograffau o Gastell Gwrych a dynnwyd ym 1953, blwyddyn y coroni. Yn y ffotograff hwn, dangosir baneri ar breswylfa’r castell sy’n dathlu’r digwyddiad. Tynnwyd y llun gan G. B. Mason, un o ffotograffwyr pensaernïol blaenllaw’r dydd. Mae nifer fawr o ffotograffau G. B. Mason yng nghasgliadau’r Comisiwn Brenhinol.

Ffenestr hen yr olwg, ond mae’r manylion Gothig wedi’u gwneud o haearn bwrw a’r gwydr wedi hen fynd. Efallai y bydd y gwesteion enwog yn ei chael hi’n ddrafftiog braidd!

Awyrlun a dynnwyd fel rhan o raglen hediadau archaeolegol y Comisiwn yn 2015 sy’n dangos y castell di-do.
I‘m a Celebrity Get Me Out of Here!
Pwy fydd ‘Brenin’ neu ‘Frenhines’ y castell hanesyddol hwn eleni, tybed? Pob lwc i’r holl gystadleuwyr!
Bydd I’m a Celebrity, sy’n cael ei ffilmio yng Nghastell Gwrych, yn dechrau ar ITV ar Ddydd Sul (Tachwedd 15) am 9pm.
Dewch o hyd i luniau eraill o Gastell Gwrych a safleoedd eraill yng Nghymru ar ein cronfa ddata ar-lein Coflein.
11/13/2020