
O Longau Drylliedig i Dirweddau sydd Dan y Dŵr: Archaeoleg Arforol Cymru
Darlith yr Ŵyl Archaeoleg: Dydd Iau 28 Gorffennaf, 5pm
Mae moroedd Cymru yn ased mawr a phwysig. Mae arwynebedd moroedd Cymru, sef 32,000km2 yn fwy nag arwynebedd tir Cymru, sef 20,375km2. Eto i gyd, o’u cymharu â’i gilydd, nid ydym yn gwybod fawr ddim am archaeoleg y môr. Mae llawer iawn o ddarganfyddiadau wedi’u gwneud yn ddiweddar, ond mae cymaint mwy i’w ddarganfod! Ymunwch â ni yr wythnos nesaf – ddydd Iau 28 Gorffennaf am 5pm – i archwilio 10,000 o flynyddoedd o archaeoleg arforol, yn anerchiad poblogaidd y Comisiwn Brenhinol ar-lein ar gyfer yr Ŵyl Archaeoleg. Yn ystod yr anerchiad bydd Dr Julian Whitewright, ein harchaeolegydd arforol, yn cyflwyno trosolwg darluniadol o “Archaeoleg Arforol Cymru: O Longau Drylliedig i Dirweddau sydd Dan y Dŵr”. Mae gan Gymru amrywiaeth cyfoethog, ond cudd i raddau helaeth, o safleoedd archaeolegol arforol sy’n amrywio o dirweddau cynhanesyddol sydd bellach dan y dŵr i longau drylliedig o’r 20fed ganrif – a phopeth rhyngddynt, bron iawn. Bydd yr anerchiad hwn yn cyflwyno gwaith y Comisiwn Brenhinol wrth iddo arolygu a chofnodi archaeoleg arforol Cymru, a bydd yn esbonio’r mathau o safleoedd yr ydym yn gweithio arnynt a’r dulliau yr ydym yn eu defnyddio.
Bydd y sgwrs hon yn cael ei thraddodi yn Saesneg.
Mae’r tocynnau am ddim. I gadw lle a chael rhagor o fanylion, ewch i: https://ti.to/digital-past/o-longau-drylliedig-i-dirweddau-sydd-dan-y-dwr

Bydd y sawl a fydd yn mynychu’r anerchiad yn cael cyfle i brynu ein llyfr arobryn Cymru a’r Môr: 10,000 o flynyddoedd o hanes y môr am bris rhatach, sef £22.50 yn unig, sy’n cynnwys costau lapio a phostio.
Mae Cymru a’r Môr, sy’n llawn darluniau, yn adrodd hanes y môr yn ystod y cyfnod cynhanesyddol, cyfnod y Rhufeiniaid, yr oesoedd canol a chyfnodau mwy diweddar. Mae’r llyfr yn cynnwys dros gant o draethodau a ysgrifennwyd gan hanner cant o arbenigwyr, yn ogystal â thros 250 o ddarluniau. Yn 2020 enillodd wobr y Sefydliad Arforol, sy’n sefydliad o fri, i Lyfr Arforol Darluniadol Gorau’r Flwyddyn.

07/22/2022