View of Paviland cliff face at low tide. Goat’s Hole is just right of centre

Ogof Pen-y-fai, Gŵyr

Mae clogwyni calchfaen garw Pen-y-fai ar arfordir deheuol Penrhyn Gŵyr, sy’n serth mewn mannau ac yn llawn holltau a cheudodau, yn gartref i un o’r safleoedd archaeolegol cynhanesyddol pwysicaf ym Mhrydain.

Mae nifer o ogofeydd yn agos at ei gilydd o dan y clogwyn 30m o uchder, ac Ogof Pen-y-fai (a elwid gynt yn Dwll yr Afr) yw’r amlycaf ohonynt. Mae’n ymestyn 23m i mewn i’r clogwyn a byddai pobl yn ei defnyddio’n ysbeidiol drwy gydol y cyfnod cynhanesyddol, ond mae’n fwyaf adnabyddus am y defnydd o wneid ohoni yn ystod y cyfnod Palaeolithig Uchaf Cynnar, tua diwedd yr Oes Iâ ddiwethaf. Yn fwyaf arbennig, dyma leoliad claddiad y ‘Fenyw Goch’ (er mai dyn ydyw mewn gwirionedd) a ddarganfuywd ym 1823, y cafodd amser ei farwolaeth ei ail-ddyddio’n ddiweddar i ryw 33-34,000 o flynyddoedd yn ôl. Dyma’r ysgerbwd anatomegol fodern hynaf i’w ddarganfod ym Mhrydain.

Wyneb y clogwyn ym Mhen-y-fai ar lanw isel. Mae Twll yr Afr ychydig i’r dde o’r canol.
Wyneb y clogwyn ym Mhen-y-fai ar lanw isel. Mae Twll yr Afr ychydig i’r dde o’r canol.

Arolwg y Comisiwn Brenhinol

Fe wnaeth y Comisiwn Brenhinol arolwg o’r safle ym 1997 er mwyn cynhyrchu’r lluniadau mesuredig modern cyntaf o’r ogof fel rhan o ail-werthusiad amlddisgyblaethol cynhwysfawr o’r holl ddarganfyddiadau. Manteisiwyd ar arbenigedd partneriaid o bob rhan o’r byd. Erbyn hynny, roedd hanes cloddio a chasglu hir a chymhleth dros gyfnod o bron 200 mlynedd yn gysylltiedig â’r ogof. Yn ogystal â’r claddiad, roedd oddeutu 5000 o arteffactau callestr ac eitemau niferus o asgwrn ac ifori wedi’u casglu. Gan fod ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y safle’n cynyddu, ac erydiad arfordirol yn dwysáu, penderfynwyd gwneud adolygiad i asesu’r defnyddiau a oedd ar ôl yn yr ogof. Gwelwyd yn fuan iawn fod yr holl haenau archaeolegol – a fuasai ar un adeg yn llenwi’r ogof bron – wedi’u tynnu ymaith. Ond cafwyd canlyniadau pwysig o’r ail-werthusiad er gwaethaf y ffaith nad oedd cyd-destun stratigraffig ar gyfer y darganfyddiadau cynnar, ac mae’r ymchwil yn parhau heddiw.

Safle arfordirol y gellir ei gyrraedd ar lanw isel yn unig yw’r ogof bellach, ond pan fyddai helwyr Oes yr Iâ yn dod yma roedd yr amgylchfyd yn hollol wahanol. Roedd Prydain bryd hynny’n benrhyn yng nghongl ogledd-orllewinol Ewrop. Roedd lefel y môr tua 80m yn is nag y mae heddiw ac roedd yr ogof rhyw 100km o’r môr. Roedd ar dir uchel gyda golygfeydd eang dros wastadedd helaeth o laswelltir cras – sef yr ardal sydd bellach yn Fôr Hafren – a thros fryniau de-orllewin Lloegr ymhellach draw. Mae esgyrn anifeiliaid a ddarganfuwyd yn yr ogof yn dangos bod y borfa o gwmpas yn cynnal llysysyddion mawr fel ceffylau gwylltion, mamothiaid, rhinoserosiaid gwlanog, ychen gwylltion a cheirw.

Arfordir de Gŵyr yn edrych tua’r dwyrain o Ben-y-fai. Yn ystod Oes yr Iâ roedd arwyneb y tir yn y fan hyn yn codi’n fwy graddol, os yn anwastad, i dir uwch. Ers hynny, mae lefel y môr wedi codi ac wedi torri i mewn i’r arwyneb gan greu clogwyni arfordirol heddiw. Wrth i hyn ddigwydd, cafodd mynedfeydd yr ogofeydd eu torri’n ôl a’r olion meddiannu y tu allan iddynt eu dinistrio.
Arfordir de Gŵyr yn edrych tua’r dwyrain o Ben-y-fai. Yn ystod Oes yr Iâ roedd arwyneb y tir yn y fan hyn yn codi’n fwy graddol, os yn anwastad, i dir uwch. Ers hynny, mae lefel y môr wedi codi ac wedi torri i mewn i’r arwyneb gan greu clogwyni arfordirol heddiw. Wrth i hyn ddigwydd, cafodd mynedfeydd yr ogofeydd eu torri’n ôl a’r olion meddiannu y tu allan iddynt eu dinistrio.

Cyfnod Palaeolithig

Mae’r arteffactau callestr hynaf o’r ogof yn dyddio’n ôl i ddiwedd y cyfnod Palaeolithig Canol Diweddarach. Maen nhw ar ffurf ‘blaenau deilen’, blaenau arfau mae’n debyg, o fath a ddyddiwyd i ryw 40-43,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae’n bosibl iddynt gael eu gwneud gan y Neanderthaliaid brodorol olaf, rhywogaeth arall o fodau dynol, a feddiannai’r rhan hon o Ewrop. Ond mae nifer llawer mwy o ddarganfyddiadau’n perthyn i’r gorwel diwylliannol ‘Aurignacaidd’ dilynol, sy’n cael ei gysylltu â’r bobl fodern gyntaf i ddod i mewn i orllewin Ewrop, gan ddisodli’r Neanderthaliaid yn y pen draw. Credir bod y claddiad yn perthyn i’r gorwel diwylliannol hwn. Pen-y-fai yw’r safle Aurignacaidd cyfoethocaf ym Mhrydain. Mae’n un o nifer bach sydd wedi goroesi symudiad y rhewlifoedd a lefelau môr uwch. Mae’n bosibl i’r helwyr Aurignacaidd gael eu denu gyntaf i benrhyn Prydain wrth ddilyn y ceirw yr oeddynt yn eu hela. Byddai’r llwybrau mudo tymhorol ar hyd y Sianel (a oedd yn dir sych bryd hynny) wedi denu’r ceirw, a bodau dynol, i dir uwch y gorllewin a’r gogledd-orllewin. Mae’n debyg i’r ogof gael ei meddiannu’n ysbeidiol gan bobl dros filoedd lawer o ganrifoedd, a chan eirth, bleiddiaid ac udfilod yn ogystal. Fel yn y gweddill o Brydain, byddai ogof Pen-y-fai wedi bod yn lle amhosibl i bobl fyw ynddo am gyfnodau hir o amser; yn hytrach, byddent wedi bod yn ymwelwyr achlysurol yn ystod y ‘rhyng-gyfnodau’, sef cyfnodau pan oedd hinsawdd rewllyd Oes yr Iâ yn llai oer.

Y Claddedigaeth

Dyn ifanc tua 25 oed a gladdwyd yn yr ogof. Cafodd ei roi mewn cilfach fach yn erbyn y wal. Cafodd nwyddau eu claddu gydag ef: rhodenni o ifori mamoth, wedi’u torri’n fwriadol cyn eu gosod ar ei gorff, a phenglog mamoth wedi’i osod ym mhen y bedd ond sydd wedi diflannu. Daethpwyd o hyd i gregyn wedi’u tyllu a modrwyau ifori hefyd, a oedd efallai wedi’u gwnïo yn ei ddillad neu’n crogi oddi arnynt. Ar ôl cael ei gladdu, fe gafodd yr esgyrn eu staenio gan bigment ocr coch. Mae’n bosibl i’r ocr ddod o’r dillad a oedd amdano, neu iddo gael ei ddefnyddio fel rhan o’r defodau claddu. Os felly, byddai’r ‘Fenyw Goch’ yn un o’r claddedigaethau defodol hynaf yn Ewrop. Mae dadansoddiad diweddar o’r protein yn ei esgyrn yn dangos bod ganddo ddeiet amrywiol o bysgod (20%), cig ceffyl a charw, gwreiddiau, mes ac aeron.

Ni wyddom beth a achosodd ei farwolaeth, er ei bod hi’n bosibl iddo gael damwain wrth hela. Roedd bywyd yn galed iawn ar ymylon anghysbell gogledd Ewrop yn ystod Oes yr Iâ. Roedd cymharol ychydig o bobl yn byw yno ac ar adegau roeddynt yn rhywogaeth mewn perygl. Roedd eu hamgylchfyd yn arw dros ben, roedd y cyflenwad bwyd yn ansicr, ac roedd ysglyfaethwyr o’u cwmpas ym mhob man. Ni wyddom pa mor aml y daeth pobl yn ôl i’r ogof wedi’r gladdedigaeth, os o gwbl, ond wrth i’r hinsawdd waethygu ymhellach a llen iâ yr ‘uchafbwynt rhewlifol’ agosáu, byddai’r rhanbarth cyfan wedi mynd yn gynyddol annhrigiadwy a byddai wedi bod yn amhosibl byw yn yr ogof yn y diwedd. Serch hynny, daeth taith y llen iâ i ben ychydig cyn cyrraedd Pen-y-fan a chadwyd yr ogof yn gyfan i ymchwilwyr y dyfodol.

David Leighton, Uwch Ymchwilydd (Archaeoleg)

09/30/2020

guest
0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x