
Ogof Pen-y-fai (Paviland) a Helwyr Oes yr lâ

Ogof Pen-y-fai (Paviland), neu Dwll yr Afr, adeg llanw isel. Mae hollt hir yr ogof yn y canol ar y de. Byddai’r clogwyni wedi edrych allan dros wastadeddau isel, ffrwythlon.
Mae ogofâu yn ganolbwynt i weithgarwch y ddynoliaeth ers cyfnodau cynharaf cynhanes, ac ogof Pen-y-fai neu Dwll yr Afr ar arfordir Gŵyr yw’r safle archaeolegol pwysicaf ym Mhrydain o’r cyfnod Uwch-Balaeolithig Cynnar. Yno y bu’r cloddio systematig cyntaf ar sgerbwd dynol a’r achos cyntaf o adfer ffosil dynol: yr un a gamenwyd yn ‘Fenyw Goch’. Darganfuwyd y sgerbwd ym 1823, ac er y credid i ddechrau ei fod yn sgerbwd diweddar ac yn fenyw, mae’n hysbys bellach mai gŵr ifanc a gladdwyd yn seremonïol sydd yma – un o’r bodau dynol cynnar a ddaeth i Ewrop ryw 40,000 o flynyddoedd yn ôl yn ystod yr Oes lâ ddiwethaf.
Nid oes modd cyrraedd yr hollt yn y garreg galch ac eithrio pan fo’r llanw’n isel. Mae hanes yr ymchwilio iddi’n rhychwantu bron i ddwy ganrif ac yn dechrau pan oedd archaeoleg yn dal i fod yn faes difyrrwch i hynafiaethwyr a phan nad oedd fawr o amgyffred o darddiad hynafol y ddynoliaeth. Yn yr ogof cafwyd hyd i filoedd ar filoedd o fflintiau, esgyrn anifeiliaid, cregyn ac ifori triniedig, ymhlith pethau eraill. Yn ystod y 1990au, arweiniodd pryderon ynghylch erydu’r glannau, ynghyd â chanfyddiad cynyddol o bwysigrwydd y safle, at ymchwilio’n drylwyr i’r ogof, ei chyd-destun daearegol, yr arteffactau a’u dyddiadau, a’r gweddillion ynddi. Cafwyd partneriaid arbenigol o bedwar ban y byd i weithio ar y prosiect ymchwil, a rhan hanfodol o’r gwaith oedd gwneud arolwg diffiniol o’r ogof: fe’i cwblhawyd gan y Comisiwn Brenhinol ym 1997. Er i’r cyfan o’r holl haenau archaeolegol gael eu tynnu oddi yno cynt, esgorodd yr ail-werthuso gwyddonol ar ganlyniadau pwysig.
Er bod yr ogof ar yr arfordir erbyn hyn, yr oedd hi, adeg claddu’r Fenyw Goch, ryw 100 cilometr o’r môr am fod lefel y môr bryd hynny ryw 80 metr yn is nag yw hi heddiw. Yr oedd hi’n arfer bod yn ogof ar graig uwchlaw gwastadedd amrywiol ei ddaearyddiaeth, a cheid golygfeydd eang ohoni draw i fryniau Exmoor. Cafwyd hyd i esgyrn amryw byd o anifeiliaid am i’r amgylchedd o dir glas cyfoethog a chras yno gynnal mamothiaid, rheinoserosod gwlanog, ceirw anferth, ychen gwyllt, ceirw a cheffylau. Efallai i helwyr Palaeolithig yrru anifeiliaid dros y clogwyni i’w lladd. Ymhlith yr ysglyfaethwyr byddai bleiddiaid, igfleiddiaid ac eirth a fyddai’n ymgiprys â’r bodau dynol am gael meddiannu’r ogof; nid yw’n glir a fyddai pobl wedi byw yn yr ogof yn gyson.
Yn ôl y dyddiad a gafwyd drwy radiocarbon, claddwyd y Fenyw Goch ryw 29,000 o flynyddoedd yn ôl pan oedd yr hinsawdd yn fwyn a chyn i’r oerfel mawr
ddychwelyd a chyrraedd ei anterth. Gosodwyd y gladdedigaeth ar hyd ochr yr ogof, ei chysylltu â phenglog mamoth a’i staenio ag ocr coch. Yn ei hymyl hefyd gosodwyd esgyrn ac ifori, dannedd tyllog a darnau o gregyn tyllog, a’r rheiny hefyd i gyd wedi’u staenio’n
goch. Mae dilyniant y DNA o’r sgerbwd yn dangos tras Ewropeaidd fodern, ac o’u hystyried o fewn y sampl ehangach sydd ar gael o olion cyfoes mae cyfraneddau’r corff, a addaswyd ychydig i’r gwres, yn tystio iddynt darddu o Affrica. Dangosodd tystiolaeth arteffactau hefyd i Neanderthaliaid brodorol, rhywogaeth ddynol a ddisodlwyd yn y pen draw gan y newydd-ddyfodiaid, fod yno dros 30,000 o flynyddoedd yn ôl.
Er i’r ogof ddal i fod, efallai, yn fan cysegredig, yr oedd hi, yn ystod y milenia ar ôl y gladdedigaeth, mewn rhanbarth anghysbell y ciliodd y trigolion ohono wrth i’r hinsawdd ddirywio ymhellach. Ond er i’r iâ ymledu, ni chyrhaeddodd mor bell â hyn ac fe ddiogelwyd yr ogof i genedlaethau’r dyfodol allu ymchwilio iddi.
Manylion y Safle:
Tanysgrifiwch i borthiant newyddion y Comisiwn Brenhinol
Gan David Leighton
11/30/2018