
Ôl-Cnwd 2018
Mae’r cyfnod anarferol o hir o dywydd poeth a sych ar draws Cymru wedi creu amodau perffaith ar gyfer tynnu awyrluniau archaeolegol.
Wrth i’r sychder barhau mae ugeiniau o safleoedd archaeolegol sydd wedi’u hen gladdu yn cael eu datgelu eto fel ‘olion cnydau’, neu batrymau o dyfiant mewn cnydau sy’n aeddfedu ac ar laswelltiroedd cras.
Bu Toby Driver, ymchwilydd o’r awyr y Comisiwn Brenhinol, yn brysur yn hedfan ar draws canolbarth a de Cymru yn ystod yr wythnos ddiwethaf yn cofnodi safleoedd hysbys yn yr amodau sych, ond hefyd yn darganfod henebion a oedd wedi hen ddiflannu.
Gan fod disgwyl i’r sychder bara am bythefnos arall o leiaf, bydd Toby yn hedfan dros ogledd a de Cymru yn gyson i gofnodi’r darganfyddiadau hyn ar gyfer Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, cyn i stormydd mellt a tharanau a glaw trwm olchi’r olion i ffwrdd tan yr haf sych nesaf.
MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU
Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!
Sut Mae Olion Cnydau Yn Ffurfio Yn Yr Haf

Sut mae olion cnydau yn ffurfio yn yr haf, DI2006_1443C
Oriel Ôl-Cnwd

Gaer Fawr, bryngaer o Oes yr Haearn, ger Lledrod, Ceredigion, yn edrych dros dirwedd gras canolbarth Cymru.
http://www.coflein.gov.uk/cy/site/303579/details/gaer-fawrgaer-fawr-hillfort

Dŵr ar lefel isel yng nghronfa Nant y Moch, Ceredigion.

Darganfyddiad newydd: olion cnydau’n datgelu fferm gynhanesyddol neu Rufeinig ger Langstone, Casnewydd, de Cymru.

Darganfyddiad newydd: caer fechan Rufeinig ger Magwyr, de Cymru, i’w gweld mewn cnydau sy’n aeddfedu.

Siâp ‘cerdyn chwarae’ caer Rufeinig Pen-llwyn, Ceredigion yn dod i’r golwg mewn glaswelltir cras.
http://www.coflein.gov.uk/cy/site/92323/details/pen-llwyn-roman-fort

Olion cnydau helaeth fferm neu fila Rufeinig Trewen, Caer-went, de Cymru.
http://www.coflein.gov.uk/cy/site/302142/details/trewen-caerwent-enclosed-settlement

Mae rhagfuriau claddedig bryngaer Cross Oak, Tal-y-bont ar Wysg, i’w gweld fel olion cnydau.
http://www.coflein.gov.uk/cy/site/142947/details/cross-oak-hillfort

Mae tomen castell canoloesol Castell Llwyn Gwinau, Tregaron, sydd bron wedi’i haredig yn wastad, i’w gweld yn glir o dan amodau cras.
http://www.coflein.gov.uk/cy/site/303560/details/castell-llwyn-gwinau
07/06/2018