
Olion Cnydau Cymru – Archwiliwch Ar-lein!
Yn ystod yr wythnos ddiwethaf mae’r Comisiwn Brenhinol wedi derbyn llu o ymholiadau gan y cyfryngau am y darganfyddiadau newydd sydd wedi dod i’r golwg yn sgil y tywydd anarferol o boeth. Mae Toby Driver, ein hawyrluniwr, wedi treulio oriau yn yr awyr yn cofnodi’r henebion hynafol ac anghofiedig hyn yn nhirwedd Cymru. Bydd y canlyniadau, a fydd yn cymryd misoedd lawer i’w dadansoddi, yn cael eu hychwanegu at ein cronfa ddata, Coflein.
Bu’r Comisiwn Brenhinol wrthi am ddegawdau’n dogfennu a chofnodi olion cnydau ar hyd a lled Cymru. Bydd yn bosibl gweld y rhain i gyd yn awr drwy gyrchu map rhyngweithiol ar Coflein. Caiff canlyniadau eleni eu hychwanegu at y cofnod yn ystod y misoedd i ddod fel y gall archaeolegwyr, haneswyr, ymchwilwyr a’r cyhoedd eu harchwilio ar-lein.
MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU
Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!
>> Archwiliwch fap olion cnydau rhyngweithiol Cymru
07/17/2018