Olrhain y Gorffennol: Dadansoddiad Digidol o Dransept y Gogledd a Fowtiau’r Gangell yn Eglwys y Santes Fair, Nantwich

Prosiect rhyngddisgyblaethol ym Mhrifysgol Lerpwl yw’r prosiect Olrhain y Gorffennol. Ei nod yw hybu dealltwriaeth o ddyluniad ac adeiladwaith fowtiau canoloesol yn Ynysoedd Prydain gan ddefnyddio technegau digidol cyfoes. Un o brif amcanion y prosiect yw mesur a phwyso’r amrywiaeth o dechnegau arolygu a monitro sydd bellach ar gael, a gwerthuso sut mae modd iddynt wella ein dealltwriaeth o sut y cafodd adeiladau hanesyddol cymhleth eu hadeiladu.

Yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2017, bydd Dr Nick Webb, pensaer a darlithydd yn Ysgol Pensaernïaeth Lerpwl, yn trafod y prosiect mewn perthynas ag astudiaeth achos benodol, sef Eglwys y Santes Fair, Nantwich. Yma, mae cyfuniad o fowtiau wedi a heb eu cwblhau yn darparu lefelau amrywiol o dystiolaeth i dreialu dulliau peirianneg wrthdro cymharol, gan roi prawf ar ddamcaniaethau ynghylch y broses ddylunio ac adeiladu.

Archebwch eich tocyn Gorffennol Digidol yn awr

 

 

 

Cynhadledd Gorffennol Digidol | Lleoliad | Cofrestru | Sylwadau | Blogs | Arddangosfeydd | Ein Noddwyr 

02/03/2017

Leave a Reply

avatar

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets