CBHC / RCAHMW > Newyddion > O’r Hen I’r Newydd
Adeilad mawr gyda ffrynt gwydr a glas / Large building with a glass and blue frontage

O’r Hen I’r Newydd

Mae newidiadau mawr yn digwydd i’r ystâd addysgol yng Nghymru dan Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. Dr Meilyr Powel o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru sy’n ystyried y datblygiadau hyn a’u heffeithiau ar yr amgylchedd adeiledig.

Prif lun: Cantonian High School, Caerdydd. Clod: Susan Fielding © Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Ad-drefnu

Efallai eich bod wedi sylwi’n barod ond, rhag ofn nad ydych chi, mae newidiadau pellgyrhaeddol wedi bod yn digwydd ym maes addysg yng Nghymru. Efallai mai’r prif ddatblygiad yw cyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru gyda’i chwe Maes Dysgu a Phrofiad a fydd yn hwyluso dull mwy cyfannol o astudio pynciau ac a fydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd i athrawon lunio’r cwricwlwm.

Bydd yn cymryd amser i fesur effaith a llwyddiant y cwricwlwm newydd, ond un peth sydd wedi cael effaith weladwy’n syth yw’r ystâd addysgol ei hun. Yn 2009, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, sef rhaglen hirdymor o fuddsoddi cyfalaf er mwyn gwella amgylcheddau dysgu a chanlyniadau addysgol. Dechreuwyd gweithredu’r rhaglen dan weinyddiaeth 2011–16 Llywodraeth Cymru. Dyma’r buddsoddiad strategol mwyaf yn seilwaith addysgol Cymru ers yr 1960au, sy’n gofyn am gydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach ac esgobaethau er mwyn diwygio ystadau ysgolion a cholegau a chreu amgylcheddau sy’n fwy addas i arferion addysgu modern.

O ganlyniad mae cannoedd o ysgolion ledled Cymru wedi cael eu cau, eu huno, eu hadnewyddu, eu hestyn ac, yn anffodus, eu dymchwel. Mae ysgolion newydd sbon sy’n werth miliynau o bunnoedd wedi’u codi, megis Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, sy’n arwydd o ddechrau newydd i addysg yng Nghymru. Mae ysgolion ‘pob oed’ 3-16 a 3-18 newydd, a oedd unwaith yn gyffredin yn y system ysgolion preifat yn Lloegr ond sy’n dod yn fwyfwy cyffredin yn sector ysgolion gwladol Cymru erbyn hyn, yn adlewyrchu meddylfryd penodol ymhlith addysgwyr.

Mae’r ffigurau moel yn dangos gostyngiad sylweddol yn nifer yr ysgolion a gynhelir yng Nghymru ers troad y mileniwm, sydd wedi’i gyflymu gan y Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif sydd ar waith ar hyn o bryd. Ym mis Mawrth 2022, roedd 1,472 o ysgolion a gynhelir i’w cael yng Nghymru; mae dros 330 yn llai o ysgolion i’w cael yng Nghymru erbyn hyn, o gymharu â 2008, ac amcangyfrifir bod 500 yn llai o ysgolion i’w cael yng Nghymru ers troad y mileniwm. Mae hynny er nad yw niferoedd disgyblion wedi gostwng yn ddifrifol yn gyffredinol; roedd 474,370 o ddisgyblion yng Nghymru yn 2008 o gymharu â 473,066 yn 2021, gan awgrymu fod ysgolion mawr wedi dod yn fwy cyffredin.[1] Ar gyfartaledd, mae tua 23 o ysgolion y flwyddyn wedi cau ers 1999, sef gostyngiad o 25% yn y nifer gyffredinol. Mae rhai o’r ysgolion yn dal i sefyll, fodd bynnag, ac yn cael eu defnyddio at ddiben arall neu’n dirywio wrth iddynt aros i weld beth fydd eu tynged.

Adeilad modern lliwgar
Mae Ysgol Cwm Brombil, Port Talbot, yn ysgol ‘pob oed’ 3-16 a gymerodd le Ysgol Gynradd Groes ac Ysgol Gyfun Dyffryn. Costiodd £31 miliwn a chafodd ei hagor ym mis Tachwedd 2018. Clod: Awdur

Hanes ysgolion yng Nghymru

Mae gosod y datblygiadau hyn yng nghyd-destun ehangach addysg yng Nghymru yn dangos cymaint yw eu harwyddocâd o safbwynt y modd y caiff ein tirwedd hanesyddol ei ffurfio. Wrth olrhain hanes addysg yng Nghymru ers y canol oesoedd, gwelir cymaint o wahanol fathau o ysgolion a gafwyd, o ysgolion gramadeg, ysgolion corawl ac ysgolion mynachaidd y canol oesoedd i’r ysgolion cylchynol a’r ysgolion Sul a ddaeth i’r amlwg yn y ddeunawfed ganrif; ysgolion elfennol cenedlaethol a Brutanaidd, ysgolion un athrawes ac ysgolion diwydiannol y  bedwaredd ganrif ar bymtheg; ac ysgolion canolradd (sirol), ysgolion gramadeg, ysgolion uwchradd, ysgolion technegol ac ysgolion cyfun yr ugeinfed ganrif.

Llun du a gwy o hen adeilad adfeiliedig
Gweddillion hen Ysgol Frutanaidd yn Nefyn ym Mhenrhyn Llŷn, a adeiladwyd ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. © Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Mae’r modd y mae ysgolion wedi cael eu trefnu a’u rhedeg yng Nghymru wedi amrywio’n fawr ar hyd y blynyddoedd. Cafodd grantiau gan y wladwriaeth eu darparu am y tro cyntaf o 1833 ymlaen, ac yn raddol daeth ysgolion dan reolaeth awdurdodau lleol. Yna, yn 1862, gwnaeth y Cod Rheoliadau Diwygiedig hi’n ofynnol i ysgolion a oedd yn gymwys i gael grantiau gan y wladwriaeth gadw llyfrau lòg – sy’n ffynhonnell werthfawr o wybodaeth i haneswyr heddiw. Yna, arweiniodd amryw ddeddfau addysg yn 1870, 1889, 1902 ac 1944 at greu a diddymu byrddau ysgol; cyflwyno pwyllgorau addysg sirol ac awdurdodau addysg lleol; datblygu addysg ganolradd ac uwchradd; ac yn olaf, sefydlu system deiran o ysgolion gramadeg, ysgolion uwchradd modern ac ysgolion technegol a oedd, dan Ddeddf Addysg Butler yn 1944, yn gwarantu addysg uwchradd i bawb. Erbyn canol yr ugeinfed ganrif, roedd addysg gyhoeddus wedi dod yn broses dri cham, sef addysg gynradd, addysg uwchradd ac addysg bellach.

Ailadeiladu ar ôl y rhyfel

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, wrth i’r rhaglen enfawr o ailadeiladu’r wlad ddechrau, cyflwynodd rhai awdurdodau lleol blaengar system ysgolion cyfun ddiwedd yr 1940au a dechrau’r 1950au, a oedd yn adlewyrchu dyheadau ehangach am gydraddoldeb. Roedd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a sefydlwyd yn 1948, yn adlewyrchu cyfnod newydd o ran darpariaeth les a chyfrifoldebau ehangach y wladwriaeth, a chafodd rhaglen i ddarparu tai cyhoeddus gwell ei lansio ar frys, a oedd yn dwyn i gof addewidion David Lloyd George genhedlaeth yn gynharach ynghylch darparu cartrefi a oedd yn addas i arwyr. Un elfen hollbwysig oedd bod mentrau cenedlaethol a lleol wedi dod ag arbenigwyr ynghyd o amryw gefndiroedd – gwleidyddol, gwyddonol, diwydiannol a phensaernïol – a bod sawl cyngor sir a bwrdeistref sirol wedi sefydlu adrannau penseiri er mwyn hwyluso gwaith ailadeiladu.

Dechreuodd addysg gael sylw, ac o ddechrau’r 1950au ymlaen cafodd rhaglen helaeth i adeiladu ysgolion uwchradd ledled Cymru a Lloegr ei rhoi ar waith. Dau ffactor a gyfrannodd i’r rhaglen adeiladu ysgolion oedd prinder cyffredinol ysgolion uwchradd ar draws y wlad ynghyd â’r cynnydd a welwyd yng nghyfradd genedigaethau Prydain o ganol yr 1940au ymlaen. Oherwydd y ddwy broblem hyn, roedd yn rhaid estyn yr ysgolion a oedd yn bodoli eisoes ac adeiladu rhai newydd.

Adeilad mawr hanner gwyn hanner carreg
Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch, a adeiladwyd rhwng 1948 ac 1950 ac a ddyluniwyd gan y Pensaer Sirol, N. Squire Johnson, yw’r unig ysgol gyfun yng Nghymru o’r cyfnod ar ôl y rhyfel sydd wedi’i rhestru. © Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru 

Mewn datblygiad a oedd yn mynd yn groes braidd i’r hyn a arferai ddigwydd, dechreuodd penseiri ac addysgwyr gydweithio’n fwyfwy â’i gilydd i ddylunio’r ysgolion newydd; roedd hon yn nodwedd a ddaeth i’r amlwg yn dilyn y rhyfel, lle’r oedd perthynas rhwng defnyddwyr a dylunwyr wedi gwella ymchwil weithredol i ddeunydd rhyfel, ac yna’n ddiweddarach yn ystod rhaglen adeiladu ysgolion Swydd Hertford ddiwedd yr 1940au a dechrau’r 1950au pan oedd y dylunwyr, y gwneuthurwyr a’r defnyddwyr i gyd yn rhan o’r broses adeiladu. Fel y dywedodd Andrew Saint (1987):

Buildings were to be the embodiment of a continuous, developing process between architect, client, user and maker, whereby the architect would regularly scrutinise every detail of the others’ means, habits, hopes and requirements […].[2]

Ysgolion ar ôl y rhyfel yng Nghymru

O ganlyniad i ddulliau adeiladu a deunyddiau adeiladu newydd, llwyddwyd i greu pensaernïaeth newydd, a oedd yn ffafrio dyluniadau newydd ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd. Mewn ysgolion uwchradd, daeth blociau addysgu modernaidd aml-lawr yn bethau cyffredin. Cafodd cynlluniau hierarchaidd traddodiadol eu disodli gan ardaloedd agored ac ystafelloedd dosbarth penodol i bynciau. Roedd labordai gwyddoniaeth, ystafelloedd dosbarth economeg y tŷ, campfeydd a gweithdai crefft ymhlith nodweddion yr ysgolion newydd hyn. Meddai M. P. K. Keath wrth sôn am y rhaglen adeiladu ysgolion uwchradd yn Swydd Hertford, er enghraifft:

New concepts of space, interdepartmental planning relationships, scale, ranges of specialised furniture and equipment combined with a new attitude to robustness, were among the essential aspects of [secondary school] design.[3]

Daeth y syniadau hyn yn boblogaidd yn sydyn a daethant yn amlwg yn adeiladau ysgolion Cymru ar ôl y rhyfel, fel yn Ysgol Esgob Gore yn Abertawe, a ddyluniwyd gan Ernest Morgan a H. T. Wykes ac agorwyd yn 1952.

Cynllun adeilad cymhleth gyda labeli yn nodi gwahanol feysydd
Cynllun Ysgol Esgob Gore, Abertawe, a agorodd yn 1952. Clod: Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

Roedd enghreifftiau Cymreig o ysgolion o’r cyfnod hwn yn cynnwys, ymhlith eraill, Ysgol Syr Thomas Jones (1948–50) yn Amlwch, sef yr ysgol gyfun bwrpasol gyntaf yng Nghymru ac sydd yn Rhestredig Gradd II*;  Ysgol Syr Thomas Picton (1954) yn Hwlffordd; Ysgol Uwchradd Sirol Abergwaun (sef Ysgol Bro Gwaun erbyn hyn, 1954); Ysgol Uwchradd Sirol Penlan i Fechgyn, Abertawe (1956); Ysgol y Preseli (1959); Ysgol Uwchradd Cantonian, Caerdydd (1961–63); ac Ysgol Uwchradd Fodern Sirol Caerllion (1960au). Roedd dulliau newydd o ddylunio ysgolion uwchradd wedi’i sefydlu ac roedd enghreifftiau ohono’n ymddangos ledled Cymru. Erbyn y 1960au, roedd y dull adeiladu cysylltfur (curtain-walling) wedi dod yn boblogaidd, fel a welwyd yn Cantonian High School, Caerdydd, a ddangosodd nodwedd trawiadol o bensaernïaeth fodernaidd.

Adeilad mawr gyda llawer o ffenestri
Ysgol Uwchradd Cantonian. Adeiladwyd 1961–63. Clod: Susan Fielding © Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

 Ym Mhowys, fodd bynnag, cafodd sawl ysgol megis yr ysgolion uwchradd yn Llanidloes, y Trallwng a Machynlleth a’r ysgolion cynradd ardal yn Aber-miwl, Dolfor a Threwern eu dylunio gan y Pensaer Sirol, Herbert Carr (a fu farw yn 1965). Roedd pensaernïaeth Carr yn wahanol i bensaernïaeth ei gymheiriaid yng Nghymru, oherwydd roedd ei ysgolion e’n cymysgu arddull Fodernaidd ag arddull Neo-Sioraidd a oedd yn adlewyrchu perthynas fwy cytûn rhwng yr hen a’r newydd mewn lleoliadau gwledig. Roedd dylanwadau clasurol, llinellau cymesur glân, a defnydd mynych o frics o’r un lliw yn nodweddu ysgolion Carr ar draws y sir.

Adeilad wedi'i adeiladu allan o frics brown
Cafodd Ysgol Efyrnwy, Abertridwr, a adeiladwyd o frics ac sydd â thoeau teils serth, ei hagor yn 1950 a’i dylunio gan Herbert Carr fel ysgol a chanolfan gymunedol ar y cyd. Roedd Efyrnwy yn gynllun arbrofol y bwriedid iddo fod yn fodel ar gyfer darparu addysg mewn ardaloedd gwledig. © Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru 

Yr 1970au

Parhaodd y rhaglen adeiladu ysgolion ar ôl y rhyfel hyd at yr 1970au yng Nghymru. Daeth blociau modernaidd ymarferol â phanelau o gladin ac ystafelloedd dosbarth arbenigol yn bethau cyffredin, er enghraifft yn Ysgol Gyfun Treforys ar gyrion Abertawe, a agorodd yn 1971 ac a ddyluniwyd gan y Pensaer Dinesig, J. G. Gwilliam; ac yn Ysgol Gyfun Bryn Hafren i Ferched yn y Barri, a adeiladwyd rhwng 1969 ac 1973 yn unol â dyluniadau Partneriaeth Percy Thomas, a oedd yn cyfuno brics â phanelau o gladin i greu ffasâd trawiadol.

Llun du a gwyn o adeilad mawr sgwar
Ysgol Gyfun Treforys fel yr oedd pan gafodd ei hagor yn 1971. Clod: Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

Adeilad gyda llawer o ffenestri
Ysgol Gyfun Bryn Hafren (sef Pencoedtre erbyn hyn) gyda’i grisiau yn estyn allan o’r adeilad ar hyd y wal ddeheuol. © Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

 Ac erbyn yr 1970au, roedd pensaernïaeth newydd wedi dod i’r amlwg yn y parth dinesig, sef Brwtaliaeth. Cafodd dwy ysgol Gymreig nodedig eu hadeiladu yn ystod y cyfnod dan sylw’n unol â’r dyluniad penodol a thrawiadol hwn. Yr ysgol gyntaf oedd Ysgol Uwchradd Betws (1969–72) yng Nghasnewydd, a ddyluniwyd gan Eldred Evans a David Shalev, ac a ddisgrifiwyd fel a ganlyn gan John Newman: ‘a brilliant exposition of concrete construction, modular design and orderly planning’.[4] Yn 2009, cafodd yr ysgol ei dymchwel.

Adeilad mawr modern yn edrych dros bwll
Ysgol Uwchradd Casnewydd, Betws. © Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru 

Yr ail ysgol Frwtalaidd oedd Ysgol Uwchradd Argoed ym Mynyddisa ger yr Wyddgrug (1977–81), a adeiladwyd yn unol â dyluniadau Penseiri Cyngor Sir Clwyd, K. J. Denley a J. Brian Davies. Mae’r ysgol mewn tirwedd wledig ac mae wedi ei hadeiladau’n gyfres o flociau addysgu cysylltiedig sydd â waliau a thoeau onglog. Argoed oedd yr ysgol gyntaf yng Nghlwyd i’w hadeiladu i’r pwrpas ar ôl i lywodraeth leol gael ei diwygio yn 1974. Nid yw pensaernïaeth Brwtalaidd at ddant pawb, ond serch hyn, mae gwerth cymunedol yr adeiladau yma, ynghyd â holl adeiladau ysgolion y cyfnod ar ôl yr Ail Rhyfel Byd, yn haeddu cydnabyddiaeth hyd yn oed os nad yw eu trosiad i harddwch pensaernïol yn cyrraedd disgwyliadau cyfeiliornus.

Sgan laser o adeilad cymleth
Sgan laser o Ysgol Uwchradd Argoed a wnaethpwyd gan Terra Measurement. Dyma rhan o’r gwaith cofnodi mae’r Comisiwn Brenhinol yn ei wneud. © Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Roedd y cyfnod rhwng diwedd y rhyfel a diwedd yr 1970au yn un o newid mawr yn y system addysg – yn ‘fŵm addysg’, os mynnwch chi – wrth i’r Cyngor Ymgynghorol Canolog ar gyfer Addysg gomisiynu cyfres o adroddiadau a oedd yn ymdrin â phob agwedd ar y system ysgolion, ac wrth i’r ethos adeg y rhyfel o idealaeth gymdeithasol dreiddio drwy bolisïau llywodraethau er mwyn sicrhau cydraddoldeb a chyfleoedd mewn addysg, er gwaethaf cyfnodau o wthio’n ôl a gwrthwynebu gan yr adain dde. Roedd pensaernïaeth adeiladau ysgolion yn adlewyrchu anghenion cymdeithasol poblogaeth a oedd yn tyfu, ac roedd y cyfnod rhwng canol yr 1960au a dechrau’r 1970au yn adlewyrchu aeddfedrwydd gwaith datblygu ysgolion ar ôl y rhyfel, a esgorodd ar dueddiadau newydd megis y syniad o gael ysgolion cymunedol.[5]

Colli treftadaeth

Fodd bynnag, dan y Rhaglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif – sydd wedi cyrraedd cam Band B erbyn hyn, a elwir yn swyddogol yn Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – mae llawer o ysgolion dan fygythiad y gallent gael eu cau, eu hailddatblygu neu’u dymchwel. Dechreuodd cam Band B ym mis Ebrill 2019 ac mae’n golygu buddsoddiad pellach gwerth £2.3 biliwn yn seilwaith ysgolion a cholegau Cymru. Mae ysgolion yr ugeinfed ganrif yn benodol, a adeiladwyd ar ôl y rhyfel, wedi gweld newidiadau mawr: cafodd Ysgol Gyfun Treforys ei dymchwel a’i hailadeiladu rhwng 2012 a 2014, gan gostio tua £22 miliwn; bydd Ysgol Pencoedtre (Ysgol Bryn Hafren gynt) yn cael ei dymchwel yn fuan ar ôl i adeilad newydd a gostiodd £34 miliwn agor ei ddrysau ym mis Ionawr 2022; ac mae Ysgol Uwchradd Argoed hefyd yn wynebu cael ei dymchwel yn sgil cynlluniau sydd ar waith i greu campws ar gyfer ysgol gynradd ac ysgol uwchradd ar y cyd ar y safle.

Mae’r Rhaglen yn golygu bod cannoedd o ysgolion wedi cael eu haddasu mewn rhyw ffordd neu’i gilydd; amcangyfrifir bod 30% o’r holl ysgolion a gynhelir wedi cael eu effeithio, boed hynny wrth iddynt gael eu hadnewyddu, eu hestyn, eu cau, eu huno neu’u dymchwel. Mae sawl un wedi’i defnyddio yn llwyddiannus at ddiben arall, ond maent yn aml yn ysgolion a adeiladwyd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg neu ddechrau’r ugeinfed ganrif. Er enghraifft, cafodd Ysgol Gynradd Llangynfelyn yng Ngheredigion ei hadeiladu yn 1876, ond ar ôl iddi gael ei chau yn 2016 mae erbyn hyn yn siop hen bethau. Mae Ysgol Bron-y-foel ger Caernarfon, a adeiladwyd ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, wedi’i throi yn ganolfan gymunedol ac yn fyncws ac mae’r hen Ysgol Ganolradd Sirol yn Arberth, a adeiladwyd yn 1895–96, yn cael ei defnyddio gan fusnesau lleol.

Llun du a gwyn o adeilad hanner carreg hanner gwyn
Caiff hen Ysgol Ganolradd Sirol Arberth, a adeiladwyd yn 1895–96, ei defnyddio erbyn hyn gan fusnesau lleol. Clod: Awdur

Ond ceir digon o enghreifftiau hefyd lle mae hen adeiladau ysgolion wedi’u dymchwel neu wedi’u clustnodi i gael eu dymchwel, sy’n bygwth ein treftadaeth. Yn anad dim mae nifer sylweddol o ysgolion a adeiladwyd ar ôl y rhyfel – ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd – wedi’u dymchwel dan y Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Mae diogelu’r adeiladau hyn rhag cael eu dymchwel yn dibynnu gan amlaf ar sicrhau eu bod yn adeiladau rhestredig. Ym mis Mawrth 2022, roedd 1,472 o ysgolion a gynhelir i’w cael yng Nghymru; 1,219 o ysgolion cynradd a 182 o ysgolion uwchradd.[6] Eto i gyd, dim ond chwe ysgol o’r cyfnod ar ôl y rhyfel sy’n adeiladau rhestredig yng Nghymru, a chafodd pob un ohonynt eu hadeiladu’n syth ar ôl y rhyfel.

Mae bod yn ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf sy’n digwydd dan y Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn un o dasgau parhaus y Comisiwn Brenhinol. Mae gwaith cofnodi wedi bod yn digwydd mewn ysgolion y bwriedir eu dymchwel, megis Ysgol Bro Hyddgen (Bro Ddyfi) ym Machynlleth, Ysgolion Uwchradd Cantonian a Cathays yng Nghaerdydd, ac Ysgol Pencoedtre (Bryn Hafren) yn y Barri, ac mae ysgolion eraill wedi’u clustnodi ar gyfer gwaith cofnodi yn y dyfodol. Rhaid parhau i gofnodi a dehongli’r ysgolion o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif sy’n dal i sefyll, yn enwedig wrth i’r bygythiad godi y gallent gael eu cau ac efallai eu dymchwel. Mae llawer o’n treftadaeth yn gysylltiedig â’n perthynas â’r amgylchedd adeiledig, felly mae’n bwysig ein bod yn ceisio cydnabod gwerth – diwylliannol, cymdeithasol a phensaernïol – yr adeiladau sydd ar hyn o bryd, ac sydd wedi bod, yn fannau dysgu cyhoeddus ac yn ganolfannau cymunedol ledled y wlad ers cyhyd. Wrth i’r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif lunio dyfodol newydd ar gyfer addysg yng Nghymru, rhaid hefyd i ni ofalu nad yw ein gorffennol yn cael ei ddymchwel yn gyfan gwbl ac nad yw’n mynd yn angof wrth i hynny ddigwydd.


[1] Ffigurau o astudiaethau Statista a chronfa ddata Llywodraeth Cymru o ysgolion: D. Clark, ‘Number of schools in Wales from 2008 to 2022’, Statista (https://www.statista.com/statistics/1249423/number-of-schools-in-wales/#statisticContainer): D. Clark, ‘Number of pupils attending schools in Wales 2008-2022’, Statista (https://www.statista.com/statistics/715845/number-of-pupils-in-wales/); ‘Rhestr gyfredol o ysgolion’ (https://llyw.cymru/rhestr-gyfredol-o-ysgolion)

[2] Andrew Saint, Towards a Social Architecture: The Role of School-Building in Post-War England (London: Yale University Press, 1987), t. 225.

[3] M. P. K. Keath, ‘The Development of School Construction Systems in Hertfordshire 1946–64, Unpublished PhD thesis, Thames Polytechnic (London: March 1983), t. 200.

[4] John Newman, The Buildings of Wales: Gwent/Monmouthshire (Penguin, 2000), t. 119. 

[5] Colin Ward (Gol.), British School Buildings: Designs and Appraisals 1964–74 (London: The Architectural Press, 1976), t. vii

[6] https://llyw.cymru/rhestr-gyfredol-o-ysgolion

04/11/2022

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x