Gerddi Dyffryn, Bro Morgannwg (NPRN 307771)

Parciau a Gerddi

Fel rhannau eraill o Ynysoedd Prydain, mae gan Gymru amrywiaeth gyfoethog o barciau a gerddi hanesyddol. Maen nhw’n rhan o hunaniaeth genedlaethol Cymru, maen nhw’n cyfoethogi gwead a phatrwm ein tirweddau, ac maen nhw’n gofnod gwerthfawr o newid cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd. Mae gan barcdiroedd nifer o wahanol nodweddion, gan gynnwys patrwm y coetiroedd a’r coed, rhodfeydd, prif lonydd, nodweddion dŵr, adeiladau, ac adeiladweithiau eraill. Cafodd y rhan fwyaf o barciau eu creu o amgylch plastai neu gestyll ac roedd gan lawer o’r rhain erddi – lleoedd caeedig ar gyfer tyfu ffrwythau a llysiau neu wedi’u cynllunio ar gyfer pleser. Mae’r berthynas rhwng y gwahanol nodweddion yn cyfrannu at gymeriad unigryw parciau a gerddi unigol.

Adnodd bregus yw’r tirweddau hyn. Mae’n hawdd gwneud niwed iddynt neu eu dinistrio’n llwyr. Mewn ymateb i esgeulustod yr ugeinfed ganrif, sefydlodd Cadw y Gofrestr o Barciau a Gerddi Hanesyddol (CBGH/RHPG) ym 1994. Catalog cynhwysfawr o barciau a gerddi yng Nghymru sydd o ddiddordeb hanesyddol arbennig yw’r Gofrestr. Cafodd ei chyhoeddi ar ffurf cyfres o gyfrolau rhanbarthol rhwng 1993 a 2002, ac ar y dechrau roedd yn cynnwys disgrifiadau o 375 o safleoedd. Ychwanegwyd mwy yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae’r cyfanswm yn agos at 400 erbyn hyn. Mae’r Gofrestr yn rhoi sylw i sawl math o dirwedd, yn amrywio o barciau ceirw canoloesol a gerddi Tuduraidd i ysbytai, mynwentydd, parciau cyhoeddus, a safleoedd diwydiannol hyd yn oed o’r ugeinfed ganrif. Disgrifir nifer o erddi maestrefol preifat hefyd. Gellir gweld y disgrifiadau hyn o barciau a gerddi hanesyddol drwy fynd i Coflein, cronfa ddata’r Comisiwn Brenhinol o safleoedd a henebion, a phori yn y cofrestri printiedig a gedwir yn llyfrgell Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Asedau hanesyddol gwerthfawr yw parciau a gerddi cofrestredig. Mae pob un yn ffynhonnell unigryw o wybodaeth am y gorffennol, mae gan bob un hanes arbennig i’w adrodd. Drwy eu hastudio, gellir cael tystiolaeth bwysig ynghylch sut a phryd y cawsant eu creu, sut y caent eu defnyddio, a sut maen nhw wedi newid dros amser – tystiolaeth a fydd yn cyfrannu at yr hyn a wyddom am ddatblygiad parcdiroedd a gerddi. Ystyrir eu bod yn werthfawr hefyd am y ffordd maen nhw’n cyfoethogi’r amgylchedd naturiol drwy ymgorffori nodweddion dŵr, llynnoedd, pyllau, afonydd a nentydd, planhigfeydd brodorol ac egsotig, a choed hynafol. Mae llawer ohonynt yn cynnig cynefinoedd pwysig i fywyd gwyllt a chyfleoedd i’r cyhoedd fwynhau’r awyr agored, gan gyfrannu at iechyd a lles pobl leol ac at yr economi drwy ddenu ymwelwyr. Yn y modd hwn, maen nhw o gymorth i gyrraedd y nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Fel adnodd sy’n gallu darparu mwynhad a chyfleoedd addysgol, ac fel rhwydwaith gwerthfawr o leoedd gwyrdd, mae ein parciau a gerddi hanesyddol yn chwarae rhan bwysig yn yr ymgyrch i greu Cymru iachach a gwyrddach.

Un o ddibenion allweddol y Gofrestr yw codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y tirweddau cynlluniedig hyn ac annog y rheiny sy’n eu rheoli i’w trin fel lleoedd gwerthfawr a nodedig. Mae’r gyfundrefn gynllunio yn eu gwarchod, a darperir data at

ddefnydd awdurdodau lleol er mwyn sicrhau y cânt eu cynnwys mewn Cynlluniau Datblygu Lleol.

Sefydlwyd y Gofrestr fel offeryn anstatudol i ddechrau. Yn Neddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 fe gafodd y Gofrestr ei chydnabod yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth ar gyfer diogelu tirweddau hanesyddol. Gosododd y ddeddf gyfrifoldeb statudol ar Weinidogion Cymru i lunio a chynnal y Gofrestr, gwaith a gâi ei wneud yn ymarferol gan Cadw, Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru. Cyn gosod y Gofrestr ar sail statudol yn ystod 2020, bu’n rhaid adolygu ffiniau’r holl barciau a gerddi a chynnal rhaglen o ymgynghoriadau gyda pherchnogion a rheolwyr. Ymgymerwyd â’r ymgynghoriad mewn partneriaeth â’r Comisiwn Brenhinol. Cysylltwyd â pherchnogion tir a throsglwyddwyd gwybodaeth, er mwyn codi ymwybyddiaeth a lleddfu pryderon. Ymwelwyd â llawer o’r safleoedd. Mewn rhai achosion, arweiniodd hyn at ddileu rhannau o barcdir o’r Gofrestr lle roedd nodweddion neilltuol wedi’u colli o ganlyniad i ddatblygiadau diweddar. Mewn achosion eraill, mae ffiniau parcdir wedi’u helaethu o ganlyniad i adnabod nodweddion nad oeddynt yn hysbys gynt.

Er mai pwrpas cofrestru yw diogelu a chadw nodweddion hanfodol parciau a gerddi hanesyddol, nid rhwystro newid yw’r bwriad. Mae tirweddau hanesyddol yn parhau i ddatblygu fel erioed, ac mae newid yn angenrheidiol yn aml er mwyn sicrhau eu bod yn gynaliadwy yn y tymor hir. Gall y newidiadau hyn gynnwys llawer gwahanol fath o weithgaredd, yn amrywio o waith cynnal a chadw rheolaidd i waith newydd. Mae’n bosibl y bydd newidiadau sy’n effeithio ar barciau a gerddi hanesyddol neu eu lleoliadau yn newid eu pwysigrwydd a’u cymeriad hanesyddol, felly parheir i’w gwarchod drwy gyfrwng y gyfundrefn gynllunio.

Y prif fygythiadau a symbylodd y penderfyniad i greu’r Gofrestr yn y lle cyntaf oedd troi parciau a gerddi yn dir amaethyddol a datblygu ac ehangu trefol/diwydiannol. Mae’r bygythiadau hyn yn parhau, a rhaid ychwanegu newid hinsawdd atynt erbyn hyn.

Bydd newid hinsawdd yn cael llawer o effeithiau gwahanol ac rydym yn gweld rhai ohonynt eisoes. Bydd natur parciau a gerddi hanesyddol yn newid. Bydd y cynnydd mewn stormydd, gwyntoedd cryfion, glawiad, sychderau a chyfnodau oer yn peri cryn ddifrod. Mae posibilrwydd y bydd llifogydd yn effeithio ar fwy na hanner ohonynt. Efallai y bydd y tywydd cynhesach a’r tymor tyfu hirach o fudd i rai planhigion egsotig sy’n hoffi gwres. Ond mae tymereddau uwch hefyd yn debygol o ddwysáu’r bygythiad oddi wrth rywogaethau ymledol, plâu ac afiechydon. Mae’n ddigon posibl y collir rhywogaethau bregus. Bydd hafau poethach a sychach yn cynyddu pwysau ymwelwyr ar ardaloedd cyhoeddus.

Beth bynnag y bo’r bygythiad, bydd angen addasu er mwyn lleddfu’r effeithiau. Wrth addasu i newid, pa un a yw’n ddymunol neu’n angenrheidiol, bydd rheolaeth dda yn hanfodol. Bydd hyn yn sicrhau y cedwir yr hyn sy’n arbennig am ein parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig er lles a mwynhad pawb heddiw ac yn y dyfodol.

Gerddi Dyffryn, Bro Morgannwg (NPRN 307771)
Gerddi Dyffryn, Bro Morgannwg (NPRN 307771)

Er bod parc a gerddi o gwmpas Tŷ Dyffryn ers y ddeunawfed ganrif neu gynt, mae’r safle’n fwyaf adnabyddus am ei erddi Edwardaidd crand a sefydlwyd o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen ar y parcdir, nad yw mor helaeth ag y bu. Mae’r gerddi rhestredig Gradd 1 yn gyfuniad o ardaloedd ffurfiol eang ac elfennau clyd mwy cywrain, ac yn ffrwyth gwaith Thomas Mawson, pensaer tirwedd mwyaf blaenllaw y dydd, a Reginald Cory, y perchennog a chasglwr planhigion enwog. Daeth â llawer o blanhigion newydd o wledydd fel China i’w tyfu yn Nyffryn.

Prifysgol Aberystwyth: campws Penglais (NPRN 309001)
Prifysgol Aberystwyth: campws Penglais (NPRN 309001)

Oherwydd ei safle ar godiad tir yn agos at y môr, yn wynebu’r prifwyntoedd de-orllewinol, hwn yw un o’r campysau mwyaf agored yng ngwledydd Prydain, ac roedd angen amddiffyn ei adeiladau rhag y gwyntoedd hallt. Dechreuwyd plannu cyn dechrau ar y gwaith adeiladu hyd yn oed, a gosodwyd yr adeiladau yn y bylchau rhwng y clystyrau dwys o lwyni a choed uchel ac isel, yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn fytholwyrdd. Bellach mae lleiniau cysgodi’n gwarchod y safle. Mae’r campws yn edrych fel gardd goetir fawr ac fe’i rhestrir fel safle Gradd 1 yn y Gofrestr gan ei fod yn un o’r cynlluniau tirlunio modern pwysicaf yng Nghymru.

24/03/2020

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x