
Parhâd Traddodiadau Adeiladu Gwerinol

Wig-wen-fach: golwg o’r tu mewn a’r nenfforch sgarff. Llun: DS2010_116_003 / NPRN: 35396
Wig-wen-fach, Llanerchaeron, Ceredigion
Cyfeiriai teithwyr yn y ddeunawfed ganrif a’r ganrif ddilynol yn aml at gyflwr ffiaidd bythynnod a ffermdai bach Cymru, adeiladau a fyddai, yn fynych, â muriau o fwd, toeon gwellt, simneiau go fregus a thu mewn tywyll a brwnt. Ond mae modd gorliwio’r darlun hwnnw: yn aml, mae’r bythynnod sydd wedi goroesi (a detholiad ohonynt yn unig sydd wedi gwneud hynny, wrth gwrs) yn adeiladau cadarn a’u nodweddion wedi’u saernïo’n gelfydd.
Enghraifft brin o’r traddodiad adeiladu brodorol hwnnw yw bwthyn Wig-wen-fach ar ystâd Llanerchaeron, Sir Aberteifi. Tan yn ddiweddar, bu’n llety i weithwyr fferm yr ystâd ond yr oedd yn wag pan waddolwyd ef i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1989. Penderfyniad goleuedig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol oedd cadw’r bwthyn fel y mae yn hytrach na’i foderneiddio a’i ddatblygu. Cyferbyniad difyr i ymwelwyr â’r ystâd yw’r un rhwng y plasty gwych a godwyd gan John Nash yn y G18fed ganrif a’r bwthyn ystâd unllawr o’r un cyfnod.
Yn Wig-wen-fach cadwyd nodweddion crefft sydd wedi diflannu i raddau helaeth mewn mannau eraill. Mae cryn dipyn o glai yn y waliau. Ar y tu mewn, cadwyd y plastr gwreiddiol, fflagiau’r llawr, y paredau o fasgedwaith, mantell y lle tân, y nenffyrch sgarff a’r defnydd o dan y to. Tu mewn o ran gynnar y G19eg sydd i Wig-wen-fach. Yng ngeiriau craff Eurwyn Wiliam, ‘cartrefi o waith cartref’ oedd y bythynnod: yn aml, y bobl a’u codai a fyddai’n byw ynddynt, a defnyddient sgiliau’r crefftau traddodiadol at y gwaith. Fel y cyfryw, maent yn enghreifftiau cynnar o adeiladu cynaladwy sy’n cynnig gwersi i ni yn y G21ain. Drwy’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn unig y ceir gwneud apwyntiad i ymweld â Wig-wen-fach.
▶️ Y Tŷ Hynaf yng Nghymru

Wig-wen-fach: golwg o’r tu allan. Llun: DS2010_116_002 / NPRN: 35396
Cysylltau:
- Cofnod Wig-wen-fach yn Coflein: NPRN 35396
- Cofnod Llanerchaeron yn Coflein: NPRN 3024
- Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron
▶️ Crefftwaith a Chynllunio’r Hen Dŷ
02/02/2011