Partneriaid Treftadaeth Yn Datrys Dirgelwch Y Dyddiad!

Mae un o ddirgelion pensaernïol mwyaf Cymru wedi’i ddatrys o’r diwedd o ganlyniad i bartneriaeth rhwng yr Ymddiriedolaeth GenedlaetholComisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Labordy Dendrocronoleg Rhydychen.
Y gred oedd i Dŷ Tredegyr, ger Casnewydd, gael ei adeiladu gan Syr William Morgan rywbryd rhwng 1664 (pan etifeddodd yr ystad) a’i farwolaeth ym 1680, ond hyd yn hyn ni chafwyd hyd i unrhyw ddogfennau i brofi pryd yn union y codwyd y tŷ.
Yn awr, yn sgil y gwaith arloesol a gafodd ei gomisiynu gan y partneriaid treftadaeth a’i gwblhau gan Labordy Dendrocronoleg Rhydychen, gellir datgelu bod y tŷ yn agos at gael ei orffen yn ystod gaeaf 1670-71.

Darganfyddiadau annisgwyl eraill a ddeilliodd o’r ymchwil oedd:

  • Mae adain Duduraidd y tŷ yn dyddio o 1544-74 ond cafodd ei hailadeiladu yn dilyn tân yn hanner cyntaf yr 17eg ganrif.
  • Cafodd y rhes wych o stablau – yr oedd llawer yn credu ei bod yn dyddio o ddechrau’r 18fed ganrif pan oedd y tŷ yn eiddo i Syr William Morgan KB – ei chodi’r un pryd â’r tŷ.

 

Gwyddom bellach fod y stablau yn Nhŷ Tredegyr yn dyddio o’r un cyfnod yn union â’r plasty ysblennydd wrth ymyl.

Gwyddom bellach fod y stablau yn Nhŷ Tredegyr yn dyddio o’r un cyfnod yn union â’r plasty ysblennydd wrth ymyl.

 

Stablau Tŷ Tredegyr, wedi’u dyddio’n 1670/71 bellach.

Stablau Tŷ Tredegyr, wedi’u dyddio’n 1670/71 bellach.

 

Y tu mewn i Stablau Tŷ Tredegyr.

Y tu mewn i Stablau Tŷ Tredegyr.

 

Arwyddocâd Pensaernïol

Tŷ Tredegyr yw un o dai mwyaf godidog cyfnod yr Adferiad drwy Brydain gyfan. Mae ganddo statws rhestredig gradd I (hynny yw, mae o bwys cenedlaethol) ac felly mae’n perthyn i’r 2.5% o adeiladau rhestredig mwyaf nodedig.
Dyma ganolfan hanesyddol un o’r ystadau Cymreig mawr, a ddatblygwyd gan deulu enwog y Morganiaid o’r 15fed hyd yr 20fed ganrif.
Cafodd y tŷ a’r demen eu gwerthu ym 1951 gan John Morgan, yr Arglwydd Tredegar olaf. Cawsant eu prynu yn y diwedd gan Gyngor Bwrdeistref Casnewydd ym 1974 a buont ar agor i’r cyhoedd ers hynny. Yn sgil cytundeb â Chyngor Dinas Casnewydd, daeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gyfrifol am reoli Tŷ Tredegar, ei erddi a’i barcdir ar 16 Mawrth 2012, ar sail prydles o 50 mlynedd.
Mae’r tŷ a’r tiroedd yn gyrchfannau poblogaidd gan ymwelwyr ond mae peth o’i hanes yn ddirgelwch llwyr. A bu’n amhosibl rhoi ateb sicr i’r cwestiwn mwyaf amlwg: ‘Pryd y cafodd Tŷ Tredegyr ei adeiladu?’ – tan nawr.

Datrys y dirgelwch

I ddatrys dirgelwch y dyddiad, cafodd Labordy Dendrocronoleg Rhydychen ei gomisiynu’n gynharach eleni gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru i ddyddio’r coed yn nho y tŷ, gan ddefnyddio blwyddgylchau.
Dendrocronoleg neu ddyddio blwyddgylch yw’r dull gwyddonol a ddefnyddir i ddyddio coed. Mae wedi’i seilio ar ddadansoddi twf blwyddgylchau a gall ddyddio coed yn fanwl iawn, gan roi’r flwyddyn ac weithiau’r tymor y cafodd y goeden ei thorri i lawr.
Darganfu Labordy Dendrocronoleg Rhydychen i’r coed a ddefnyddiwyd i wneud y to gael ei dorri yn ystod gaeaf 1670/1 ac ym 1671. Gan fod coed heb ei sychu’n cael ei ddefnyddio fel rheol, mae hyn yn dangos bod y tŷ bron wedi’i orffen ddeng mlynedd wedi i Siarl II gael ei adfer i’r orsedd, a blwyddyn cyn y dyddiad sydd i’w weld ar y deial haul paentiedig yn yr Ystafell Gedrwydd enwog.
Dangosodd Labordy Dendrocronoleg Rhydychen hefyd fod adain Duduraidd y tŷ yn dyddio o 1544-74, ond iddi gael ei hailadeiladu ar ôl tân yn hanner cyntaf yr 17eg ganrif. Mae’n bosibl mai dyma’r tŷ a ddisgrifiwyd gan John Leland, hynafiaethydd y Brenin, fel “a very fair place of stone” ar ganol yr 16eg ganrif.
Sut bynnag, y darganfyddiad mwyaf annisgwyl oedd bod y rhes wych o stablau – yr oedd llawer yn credu ei bod yn dyddio o ddechrau’r 18fed ganrif pan oedd y tŷ yn eiddo i Syr William Morgan KB a oedd yn berchen ar 75 o geffylau (gan gynnwys ceffyl rasio llwyddiannus iawn o’r enw ‘Lamprey’) – wedi’i chodi’r un pryd â’r tŷ mewn gwirionedd.
Cafodd y coed ar gyfer to’r stablau ei dorri yn ystod gaeaf 1670/71 ac felly mae’r stablau yr un oed yn union â’r tŷ. Gyda’u toeon talcennog, ffenestri croeslathog, pafiliynau ystlysol a phyrth canolog addurnol, mae’r tŷ a’r stablau’n cydweddu’n berffaith â’i gilydd.

Grym a dylanwad yn Nhŷ Tredegyr

Tŷ Tredegyr oedd y prosiect adeiladu mwyaf yn ystod cyfnod yr Adferiad yng Nghymru. Gwyddom bellach fod y stablau a’r tŷ yn cyfoesi ac yn rhan o un cynllun pensaernïol a roddodd fynegiant i rym a dylanwad teulu’r Morganiaid, a barhaodd am 300 mlynedd. Dywedid bod William Morgan, a gododd Dŷ Tredegyr ym 1671, yn werth £4,000 y flwyddyn a’i fod yn cael ei ystyried yn dywysog yn ei wlad ei hun.
Heddiw gallwn i gyd edmygu’r bensaernïaeth a’r grefftwriaeth yn Nhŷ Tredegyr, y talodd amdani o’i gyfoeth enfawr, gan wybod ei bod yn dyddio o 1671.
Yn wir, blwyddyn bwysig oedd honno i deulu’r Morganiaid. Roedd Henry Morgan, y môr-leidr enwog a hwyliai’r Môr Sbaenaidd, yn berthynas bell, a gwnaeth ffortiwn iddo’i hun drwy gipio Panama ym 1671.

Darllen mwy: Tŷ Tredegyr

10/11/2013

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x