Yr Athro Nancy Edwards

Penodi Cadeirydd a Chomisiynwyr

Yr Athro Nancy Edwards
Yr Athro Nancy Edwards

Mae’n bleser gan y Comisiwn Brenhinol gyhoeddi penodiad yr Athro Nancy Edwards yn Gadeirydd y Comisiwn yn sgil ymddeoliad Dr Eurwyn Wiliam. Mae Ei Mawrhydi Y Frenhines hefyd wedi penodi Dr Hayley Roberts, arbenigwraig ar dreftadaeth arforol, a Jonathan Vining, arbenigwr ar bensaernïaeth yr 20fed ganrif, yn Gomisiynwyr.

Meddai Christopher Catling, Ysgrifennydd y Comisiwn: ‘Mae gennym fenyw yn Gadeirydd am y tro cyntaf ers sefydlu’r Comisiwn 110 o flynyddoedd yn ôl ac erbyn hyn mae 5 o’n 9 Comisiynydd yn fenywod, gan gywiro’r anghydbwysedd rhyw blaenorol’. Gweler y datganiad i’r wasg am fwy o wybodaeth: https://llyw.cymru/comisiwn-brenhinol-henebion-cymru-yn-penodi-cadeirydd-dau-gomisiynydd

04/02/2019

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x