The Commissioner for Public Appointments

Penodi Comisiynwyr (Dwy swydd)

Logo Llywodraeth Cymru
Logo Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Cydnabyddiaeth ariannol: £198 y diwrnod (a chostau Teithio a Chynhaliaeth) am  ymrwymiad amser o ryw 10 diwrnod y flwyddyn.

Allwch chi’n helpu i ddarparu’r gwasanaeth amgylchedd hanesyddol gorau posibl ar gyfer pobl Cymru?

Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn wasanaeth archifo ac archwilio cenedlaethol annibynnol unigryw i Gymru, ac mae’n ymroi i gofnodi a dehongli’n hamgylchedd hanesyddol cyfoethog mewn ffordd awdurdodol. Mae’n gweithio o adeilad Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth ac yn gweithredu hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru, ac mae ganddo staff medrus sy’n rhoi cyngor proffesiynol a gwybodaeth arbenigol i’r cyhoedd. Rydym yn ymrwymedig i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i Gymru, gan feithrin gwell gofal a dealltwriaeth o’n hadeiladau a’n tirweddau hanesyddol, a meithrin a chydnabod y potensial sydd gan dreftadaeth i helpu i wella bywydau pobl.

Gan adeiladu ar ein llwyddiannau ac ar yr hyn a gyflawnwyd yn ddiweddar, rydym yn chwilio am bobl i ymuno â’n Bwrdd Comisiynwyr a fydd yn barod i helpu i gyfarwyddo’n gwaith ac i’w herio a’i adolygu mewn ffordd adeiladol. Rydym wedi ymrwymo i atgyfnerthu’n bwrdd ac i gyflwyno amrywiaeth o ran yr aelodau, felly rydym yn chwilio am ddau Gomisiynydd newydd sydd â chryn brofiad neu arbenigedd ar lefel uwch a/neu ar lefel strategol mewn un neu fwy o’r meysydd a ganlyn:

  1. Hanesydd pensaernïol: Rydym yn dymuno recriwtio hanesydd pensaernïol neu archaeolegydd i’r Comisiwn Brenhinol er mwyn ein helpu i flaenoriaethu ein gwaith ar leoedd addoli a chynghori’r Comisiwn ar y ffyrdd mwyaf effeithiol o gyflawni ein hamcanion yn ogystal â gweithredu fel eiriolwr ar gyfer yr elfennau allweddol hyn o dirwedd hanesyddol Cymru.
  2. Polisi cyhoeddus: Rydym yn dymuno recriwtio Comisiynydd â phrofiad o bolisi cyhoeddus a’r dreftadaeth. Byddwch yn chwarae rhan hollbwysig mewn cynghori’r Comisiwn ar weithgareddau priodol a’r mathau o fenter y gall corff treftadaeth ymgymryd â nhw i gefnogi nodau cymdeithasol, economaidd a lles. Byddwch hefyd yn ein helpu i feithrin cysylltiadau â rhanddeiliaid gwleidyddol a phenderfynwyr ac yn gweithredu fel hyrwyddwr cyflawniadau’r Comisiwn, er mwyn i bobl ein gwerthfawrogi a’n parchu fel sefydliad sy’n arwain ym maes polisïau treftadaeth blaengar.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 17 Ionawr 2020. Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwnnw. Disgwylir i’r cyfweliadau gael eu cynnal ar 25 a 27 Mawrth 2020.

I gael rhagor o fanylion ac i wneud cais, ewch i http://llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

12/05/2019

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x