
Penodi Comisiynwyr (Tair Swydd)
A allwch ein helpu i ddarparu’r gwasanaeth amgylchedd hanesyddol gorau posibl i bobl Cymru?
Gwasanaeth archifo ac archwilio cenedlaethol annibynnol, unigryw Cymru yw Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, sy’n ymroddedig i gofnodi a dehongli’n awdurdodol ein hamgylchedd hanesyddol cyfoethog. Rydym yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth ac yn gweithredu hyd braich o Lywodraeth Cymru, gyda staff medrus sy’n rhoi cyngor proffesiynol a gwybodaeth arbenigol i’r cyhoedd. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i Gymru, gan feithrin dealltwriaeth well o’n hadeiladau a’n tirweddau hanesyddol a chydnabod potensial treftadaeth er mwyn helpu i wella bywydau pobl.
Drwy adeiladu ar ein llwyddiannau a’n cyflawniadau diweddar, rydym bellach yn awyddus i dyfu a datblygu ein sefydliad at y dyfodol. Rydym yn chwilio am bobl i ymuno â’n Bwrdd Comisiynwyr sy’n barod i helpu i gyfarwyddo, herio ac adolygu ein gwaith yn adeiladol. Rydym wedi ymrwymo i atgyfnerthu ein bwrdd a chyflwyno amrywiaeth o ran aelodau, felly rydym yn chwilio am aelodau newydd y mae ganddynt brofiad neu arbenigedd sylweddol ar lefel uwch a/neu strategol mewn un neu fwy o’r meysydd hyn:
- Ymgysylltu â’r gymuned: Rydym yn dymuno recriwtio Comisiynydd â phrofiad ymarferol o weithio yn y maes hwn er mwyn ein helpu i lunio strategaeth briodol a realistig ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned a’n helpu i nodi partneriaid posibl ar gyfer y gwaith hwn.
- Strategaeth ddigidol: Rydym yn dymuno recriwtio unigolyn â hanes da ym maes arweinyddiaeth ddigidol er mwyn ein helpu i weld yn glir yr hyn y mae angen i ni ei wneud i osod sylfeini ar gyfer strategaeth ddichonadwy a fydd o gymorth i’r Comisiwn Brenhinol yn y dyfodol agos a’r tymor hwy.
- Archaeoleg (gan gynnwys archaeoleg ddiwydiannol): Rydym yn dymuno recriwtio archaeolegydd blaenllaw yn Gomisiynydd i helpu gyda’n gwaith i syllu ar y gorwel er mwyn nodi prosiectau addas a’n helpu i fanteisio i’r eithaf ar dechnolegau cofnodi digidol yn y maes, yn enwedig o ran safleoedd mawr a chymhleth.
Am ragor o fanylion ac i wneud cais, ewch i http://llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus ne u, ar gyfer ymholiadau, cysylltwch â’r Ddesg Gymorth Cydwasanaethau drwy ffonio 029 2082 5454 neu e-bostio SharedServiceHelpdesk@wales.gsi.gov.uk.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 18 Ebrill 2017. Ni chaiff ffurflenni cais a gyflwynir ar ôl y dyddiad hwn eu hystyried. Disgwylir cynnal y cyfweliadau ym mis Mai 2017.
Mae fersiynau print mawr, Braille neu sain o’r hysbyseb hon ar gael ar gais drwy ffonio 029 2082 5454.
02/27/2017