
Penodi Comisiynwyr (Tair Swydd)
Allwch chi ein helpu i gyflawni’r gwasanaeth amgylchedd hanesyddol gorau posibl i bobl Cymru?
Archif a gwasanaeth ymchwilio cenedlaethol annibynnol, unigryw i Gymru yw Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, sy’n ymroddedig i’r gwaith o gofnodi a dehongli’n awdurdodol ein hamgylchedd hanesyddol cyfoethog. Rydym yn gweithredu hyd braich oddi wrth Llywodraeth Cymru, gyda staff medrus sy’n darparu cyngor proffesiynol a gwybodaeth arbenigol i’r cyhoedd. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth amgylchedd hanesyddol gorau posibl i Gymru, gan feithrin gwell dealltwriaeth o’n hadeiladau a’n tirweddau hanesyddol, a sicrhau eu bod yn cael gwell gofal, a chydnabod potensial treftadaeth er mwyn helpu i wella bywydau pobl.
Sefydlwyd y Comisiwn drwy Warant Frenhinol ym 1908 ac erbyn hyn, fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, ein prif ffynhonnell o gyllid yw Llywodraeth Cymru. Drwy ein gwaith rydym yn:
- Ymchwilio i archaeoleg, adeiladau, tirweddau ac olion morol o’r cyfnod cynhanes hyd heddiw a’u cofnodi;
- Gofalu’n barhaol am archif cyfoethog Cymru o’r amgylchedd hanesyddol yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru;
- Cefnogi pobl i ddysgu am ein treftadaeth gyfoethog drwy adnoddau ar-lein, gweithgarwch allgymorth cymunedol a chyhoeddiadau;
- Rhoi cyngor a gwybodaeth ddiduedd er mwyn helpu pobl i reoli’r amgylchedd hanesyddol mewn modd cynaliadwy a moesegol.
Gan adeiladu ar ein llwyddiannau diweddar, rydym yn awr yn dymuno tyfu a datblygu ein sefydliad at y dyfodol. Rydym yn chwilio am bobl i ymuno â’n Bwrdd Comisiynwyr sy’n barod i helpu i gyfarwyddo, herio ac adolygu ein gwaith mewn modd adeiladol. Rydym wedi ymrwymo i atgyfnerthu ein bwrdd a chyflwyno amrywiaeth o ran aelodau, felly rydym yn chwilio am dri aelod newydd fydd â phrofiad neu arbenigedd uniongyrchol ar lefel uwch a/neu strategol mewn un neu fwy o’r meysydd hyn:
- Datblygu strategaethau TG;
- Archaeoleg, yn arbennig archaeoleg ddiwydiannol;
- Gweithio gyda chymunedau, yn arbennig grwpiau anodd eu cyrraedd.
I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i http://llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus neu os oes gennych gwestiynau cysylltwch â Llinell Gymorth Gwasanaethau a Rennir ar 029 2082 5454 neu anfonwch e-bost i SharedServiceHelpdesk@wales.gsi.gov.uk.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 12 Hydref 2016. Ni chaiff ffurflenni cais a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn eu hystyried. Bwriedir cynnal y cyfweliadau ym mis Rhagfyr 2016.
Mae fersiynau print mawr, Braille neu sain o’r hysbyseb hon ar gael ar gais drwy ffonio 029 2082 5454.
15/09/2016