Plas Tan yr Allt – tŷ a’i gyfrinachau

Y mis hwn, mwy na dau gan mlynedd yn ôl, bu digwyddiad dramatig a thrawmatig ym Mhlas Tan yr Allt, Tremadog, Gwynedd. Ar 26 Chwefror 1813, ar noson wyllt a stormus, fe geisiodd rhywun lofruddio Percy Bysshe Shelley a’i deulu, yn ôl honiad y bardd rhamantaidd. Cododd hyn gymaint o fraw arno fel y gadawodd y teulu am Iwerddon y diwrnod wedyn heb bacio eu bagiau. Ni fyddent byth yn dychwelyd. Ar yr olwg gyntaf, yr oedd Plas Tan yr Allt, fila yn null y Rhaglawiaeth, yn lle delfrydol i Shelley ddianc rhag ei ddyledwyr yn Lloegr ac osgoi’r Swyddfa Gartref a oedd yn ddrwgdybus iawn o’i syniadau gwleidyddol radicalaidd.

This image has an empty alt attribute; its file name is FHA02_35-1024x360.jpg
Plas Tan yr Allt : braslun gan Falcon D. Hildred
Cyfeirnod Ffeil: FHA02/35

Cawsai ei hadeiladu ychydig ar ôl 1800 gan yr entrepreneur William Madocks, a oedd wedi codi’r Cob neu forglawdd ar draws moryd Glaslyn ac wedi datblygu’r tir y tu ôl iddo. Arweiniodd hyn at dwf Porthmadog fel porthladd ar gyfer allforio llechi o gloddfeydd a chwareli Blaenau Ffestiniog ac at greu tref fodel Tremadog.

This image has an empty alt attribute; its file name is FHA02_36-1-1024x669.jpg
Ochrolwg o Blas Tan yr Allt: braslun gan Falcon D. Hildred
Cyfeirnod Ffeil: FHA02_36

Prynodd William Madocks ystâd Tan yr Allt ym 1798 ac ehangodd y tŷ a oedd yno’n barod gan ychwanegu feranda eang ar dair ochr i gynnig golygfeydd gwych dros y foryd. Gosodwyd ffenestri mawr i greu ystafelloedd llawn golau, a datblygwyd y gerddi drwy ddod â phridd a oedd yn cael ei godi wrth adeiladu’r Cob a phlannu coetir gyda llwybrau cerdded drwyddo.

Sut bynnag, oherwydd problemau ariannol, gwerthodd Plas Tan yr Allt ym 1812 i un o’i gredydwyr, Samuel Girdlestone. Roedd hwn yn amharod i osod Plas Tan yr Allt i Shelley ar y dechrau. Er ei fod yn dod o deulu cyfoethog a bod ganddo ragolygon da, ystyriai llawer o bobl fod Percy Bysshe Shelley yn ddyn anghonfensiynol a feddai ar syniadau gwleidyddol, cymdeithasol a gwrth-grefyddol peryglus.

Roedd yn 20 oed ym 1812 ac roedd eisoes wedi’i ddiarddel o Rydychen am gyhoeddi pamffledi radicalaidd. Roedd wedi dianc i briodi merch un ar bymtheg oed o’r enw Harriet Westbrook ym 1811 a chollasai’r ddau ohonynt gefnogaeth ariannol eu teuluoedd o ganlyniad. Pan ddaliwyd ei was yn gosod posteri radicalaidd ar goed yn Lynmouth, ffodd Shelley a’i wraig i ogledd Cymru.

This image has an empty alt attribute; its file name is tan-yr-allt3.jpg
Cerdyn post o Blas Tan yr Allt
Cyfeirnod Ffeil: tan yr allt3

Roedd Shelley yn gynhyrchiol iawn yn ystod ei amser ym Mhlas Tan yr Allt, gan ysgrifennu nifer o gerddi. Hefyd fe gwblhaodd ei gerdd epig ‘Queen Mab’. Ar ôl cyrraedd Tremadog ym mis Medi 1812, bu’n rhaid i’r teulu wynebu cymdogion drwgdybus ac anghyfeillgar. Roedd y rhain yn cynnwys John Evans, cyfreithiwr lleol, a Robert Lesson, perchennog chwarel. Roedd chwarel Robert Lesson yn darparu’r cerrig ar gyfer y prosiect adennill tir ac roedd Shelley yn wrthwynebus i’r ffordd yr oedd Lesson yn trin ei weithwyr. 

This image has an empty alt attribute; its file name is FHA02_39-1024x459.jpg
Noslun Plas Tan yr Allt: braslun gan Falcon D. Hildred
Cyfeirnod Ffeil: FHA02_39

Ar 26 Chwefror, yn ôl Harriet, fe glywodd Shelley sŵn i lawr y grisiau tua 11 y nos. Aeth i lawr, gan gario pistolau’n barod i’w tanio, a gwelodd ddyn yn gadael y tŷ. Taniodd y dyn at Shelley ond methodd pistol Shelley wrth iddo geisio tanio’n ôl. Ymladdodd Shelley â’r dyn a thaniodd ato eto, gan ei daro yn ei ysgwydd. Cafodd Shelley ei fygwth gan y dyn yn Saesneg cyn iddo redeg i ffwrdd. Arhosodd Shelley i lawr y grisiau i warchod y tŷ a honnodd i’r dyn ddychwelyd a saethu ato eto gan adael tyllau bwledi yn ei grys nos ac yn y wal.

Nid oedd unrhyw dystion i’r ymosodiadau hyn a daethpwyd i alw’r digwyddiad yn ‘ysbryd Shelley’. Ni chafwyd hyd i ddyn wedi’i glwyfo ac, os oedd yn rhywun lleol, pam yr oedd ef wedi bygwth Shelley yn Saesneg? Ond roedd y tyllau bwledi yn rhai go iawn a buont yno nes i’r tŷ gael ei adfer mewn cyfnod diweddarach. Roedd Shelley o dan gryn bwysau ar y pryd ac mae’n bosibl bod hyn wedi dylanwadu ar ei ymateb i’r digwyddiadau brawychus ar 26 Chwefror 1813. Gwadodd Lesson fod ganddo unrhyw ran yn yr ymosodiad, ac mae’n debyg na fyddwn byth yn gwybod y gwir.

This image has an empty alt attribute; its file name is FHA02_38-1024x614.jpg
Llidiart i’r Ardd Furiog: braslun gan Falcon D. Hildred
Cyfeirnod Ffeil: FHA02_38

Wedi i Shelley adael, daeth James Spooner, y cyfrannodd ei deulu at ddatblygu rheilffordd Ffestiniog, i fyw i’r tŷ. Ar y dechrau fe ddefnyddiai’r rheilffordd hon ddisgyrchiant yn unig i anfon pedwar ugain o wagenni llechi gyda’i gilydd i lawr o Flaenau Ffestiniog i orsaf Tanybwlch. Preswyliwr arall yr oedd ganddo gysylltiad â’r chwareli llechi oedd John Greaves a ddatblygodd chwarel Llechwedd. Bu’r teulu Greaves yn byw ym Mhlas Tan yr Allt am flynyddoedd lawer. Un o’r teulu oedd Miss Hilda Greaves a gomisiynodd ei nai, Syr Clough Williams-Ellis, i adfer y murlun yn y tŷ. Ar ôl bod yn ysgol am gyfnod, mae Plas Tan yr Allt bellach yn westy. 

I gael mwy o wybodaeth am Falcon Hildred ac i weld enghreifftiau eraill o’i waith porwch yn ein Casgliad Falcon Hildred ar Coflein Newydd neu ewch i’n siop lyfrau ac edrychwch ar Worktown: The Drawings of Falcon Hildred.

Dr Ywain Tomos, Cynorthwyydd Ymholiadau a Llyfrgell

02/23/2021

guest
0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x