Po Fwyaf A Roddwch, Mwyaf A Gewch…

Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Jill Cousins, Cyfarwyddwr Gweithredol Europeana, yn un o’n prif siaradwyr yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2017. Bydd Jill yn cyflwyno Fframwaith Cyhoeddi newydd Europeana, Po Fwyaf A Roddwch, Mwyaf A Gewch (The More You Give, The More You Get).

Yn y ddogfen hon eglurir prosesau a manteision agor data i fyny, a nodir yn glir y gwahanol ddewisiadau sydd ar gael i sefydliadau sy’n cymryd rhan yn Europeana. Defnyddir cynllun pedair haen i ddangos sut y gall Europeana eich helpu i weithredu eich strategaeth ddigidol ar gyfer ehangu mynediad i’ch casgliadau; mae hefyd yn cynnig astudiaethau achos defnyddiol a chyngor ymarferol gwerthfawr ar amrywiaeth o bynciau o ddisgwyliadau defnyddwyr i drwyddedu a fformatau ffeil.

Bydd Jill yn esbonio’r fframwaith ac yn defnyddio nifer o astudiaethau achos i fanylu ar brofiadau gwahanol sectorau, gan drafod manteision ac anfanteision mabwysiadu ymagwedd agored.

Archebwch eich tocyn Gorffennol Digidol yn awr

 

 

Cynhadledd Gorffennol Digidol | Lleoliad | Cofrestru | Sylwadau Blogs | Arddangosfeydd | Ein Noddwyr 

12/05/2016

Leave a Reply

avatar

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets