
Pobl Ceredigion yn Adrodd Eu Hanesion
Yn ystod ein digwyddiadau sganio yn yr haf roedd pobl yn ddigon caredig i ddod â’u ffotograffau a deunyddiau archifol eraill atom i gael eu sganio a’u llwytho i fyny i wefan Casgliad y Werin. O ganlyniad i’r cyfraniadau hynod ddiddorol hyn rydym wedi gallu ychwanegu sawl casgliad at y wefan, sy’n cynnwys hanesion ysgrifenedig a llafar yn ogystal â ffotograffau a dogfennau hanesyddol. Mae’r casgliadau’n ymwneud â phobl a lleoedd yn Aberystwyth yn bennaf, gan gynnwys:
- Seremoni agor y Neuadd Goffa, Penparcau ym 1933 – ffotograffau drwy law Gwilym Thomas
- Meysydd chwarae Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth: ffotograffau o gemau criced a rygbi a digwyddiadau athletau o’r 1930au i’r 1950au – drwy law Meirion Morgan, prif dirmon 1947-2002
- Evan Thomas – saer cerbydau, gof a theulu dosbarthu llaeth o Southgate – ffotograffau a deunydd archifol drwy law Gwilym Thomas
- Amrywiaeth o ffotograffau a deunyddiau archifol, gan gynnwys posteri ar gyfer y Theatr Fach a Phafiliwn y Pier Brenhinol – drwy law Charlie Downes
- Arteffactau gan gynnwys hen bistol, pedolau gwartheg ac ocarina – drwy law Beti Gwenfron Evans a Gwenllian Jones
- Disgrifiad o symudiad teulu Cymreig i Lundain yn y 1920au-1930au, gan gynnwys recordiadau hanes Llafar wedi’u hadrodd gan Beti Gwenfron Evans
Mae’r amrywiaeth anhygoel hon o gyfraniadau gan bobl leol yn helpu i ddod â’n hanes lleol yn fyw. Gobeithir y bydd yr eitemau sydd wedi’u casglu hyd yn hyn yn annog llawer mwy o bobl i adrodd eu hanes drwy lwytho eu heitemau hanesyddol eu hunain i fyny i Gasgliad y Werin Cymru: http://www.casgliadywerincymru.co.uk
09/02/2012