Graffiti ar risiau’r Hen Goleg. Aberystwyth

Pobl Ifanc a Threftadaeth

Byddaf yn clywed yn aml ei bod hi’n anodd cael pobl ifanc i gymryd rhan mewn gwaith treftadaeth ac nad oes ganddynt ddiddordeb mewn helpu i ddiogelu agweddau ar ein treftadaeth fel y mae cenedlaethau’r gorffennol wedi’i wneud. Dydw i ddim yn credu bod hyn yn wir, ac ni chawsom unrhyw drafferth denu pobl ifanc i weithio ar brosiect ymgysylltu ag ieuenctid arloesol y Comisiwn Brenhinol, ‘Treftadaeth Ddisylw?’ (mae’r gofynnod yn fwriadol).

Buom yn cynnal y prosiect hwn am dair blynedd erbyn hyn ac mae’n un o nifer o brosiectau o dan y faner ‘Treftadaeth Ddisylw?’ sy’n cael eu hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, eu cydlynu gan Polly Groom o Cadw, a’u cynnal gan y Comisiwn Brenhinol, Cadw ac Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru. Mae ysgubo o’r neilltu ragdybiaethau am ‘dreftadaeth’ yn allweddol i brosiect y Comisiwn. Y diffiniad cyffredinol o dreftadaeth yw’r pethau o’r gorffennol a’r presennol y mae gennych ddigon o feddwl ohonynt i fod eisiau eu trosglwyddo i’r cenedlaethau a ddaw. Mae hyn yn golygu bod gan bawb ddiffiniad ychydig yn wahanol o dreftadaeth. Mae’r syniadau hyn weithiau’n gorgyffwrdd, weithiau ddim. Felly’r gyfrinach wrth geisio denu pobl ifanc i ymddiddori mewn treftadaeth yw peidio â disgwyl iddynt rannu’ch gwerthoedd chi – efallai mai capel, mwynglawdd, camlas neu reilffordd hanesyddol sy’n bwysig i chi – ond gofyn iddynt beth sy’n werthfawr iddyn nhw a sut yr hoffent ei ddiogelu at y dyfodol.

Mae ein grŵp ni wedi rhoi enw iddyn nhw eu hunain – Panel Ieuenctid Treftadaeth Ceredigion / Ceredigion Heritage Youth Panel (CHYPS) – ac, fel y byddech chi’n disgwyl, maen nhw’n gartrefol iawn yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol, yn blogio, yn dylunio gwefannau ac yn tynnu lluniau. Gellir gweld canlyniadau eu gwaith yn: https://ceredigionofflimits.home.blog/about/. Yr enw maen nhw wedi’i roi ar eu prosiect yw ‘Ceredigion Gyfyngedig’ oherwydd bod ganddynt ddiddordeb mawr mewn agweddau anghonfensiynol ac wedi’u hesgeuluso ar dreftadaeth – felly, fel y gwelwch ar eu blog, mae hen geir a adawyd mewn mwynglawdd plwm segur yr un mor bwysig iddynt â’r archaeoleg ddiwydiannol y buont yn ei chofnodi drwy ffotograffiaeth.

Ffotograffiaeth arbrofol ym Mwthyn Llan-non, Ceredigion
Ffotograffiaeth arbrofol ym Mwthyn Llan-non, Ceredigion

Flwyddyn yn ôl, fe berswadiais y Llyfrgell Genedlaethol i roi caniatâd i aelodau CHYPS fynd i mewn i geudwll dirgel â mynedfa gadarn sydd wrth ymyl y llwybr serth sy’n arwain i fyny at y llyfrgell o’r briffordd ar ochr ddwyreiniol Aberystwyth. Yn ôl chwedl leol roedd archifydd hirgolledig yn byw ym mhellafion yr ogof yng nghanol pryfed cop enfawr, a gallech ddod o hyd i wrthrychau amhrisiadwy a oedd wedi eu gadael neu eu colli yn y dyfnderoedd tywyll: gan mai hwn oedd un o’r ogofâu a ddefnyddiwyd i storio llawysgrifau mwyaf gwerthfawr y Llyfrgell Brydeinig yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Graffiti ar risiau’r Hen Goleg. Aberystwyth
Graffiti ar risiau’r Hen Goleg. Aberystwyth

Er gwaethaf y graffiti yn y fynedfa sy’n rhybuddio ‘Death waits around the corner’, darganfuom furiau sych da wedi’u leinio â brics Stafford glas caled, a llenni rhydlyd o fetel a oedd yn ffurfio daeargell ddiogel rhag tân. Aethom ati i ddefnyddio ein sgiliau archaeolegol i adnabod y rhigolau yn y muriau lle bu systemau aerdymheru yn hongian, a’r bracedi metel a fu’n dal pwysau’r silffoedd a gawsai eu defnyddio i storio’r llawysgrifau canoloesol ond a oedd wedi hen ddiflannu.  Ar sail y cyfeiriadau at ‘punk’ yn y graffiti ar y muriau daethom i’r casgliad bod modd i bobl fynd i mewn i’r ceudwll hyd at ddiwedd y 1970au mae’n debyg. Roedd un darn swreal o graffiti’n ymffrostio ‘I just got 98 per cent in my maths O level’; ac roedd nodyn coeglyd odano’n dweud: ‘You liar; you only got 58 per cent’. Pa fath o arlunwyr graffiti heddiw fyddai’n meddwl am ffraeo dros ganlyniadau arholiadau tybed?

Er bod yr argyfwng coronafeirws yn ein rhwystro ni rhag gwneud ein gwaith maes gyda CHYPS, maen nhw’n awyddus iawn i ddal ati, ac rydym yn gobeithio bwrw ymlaen â’r rhaglen ar ffurf wahanol – er enghraifft, mae’r aelodau’n creu blog newydd i gofnodi bywyd yn ystod y pandemig – ac wedi’i alw’n Dreftadaeth Ansicr / Uncertain Heritage. Maen nhw’n parhau i baratoi arddangosfa a ohiriwyd o’r enw ‘Stori Tŷ ar Fryn’ (ynghyd â llyfryn/dogfennaeth ar-lein i gyd-fynd â hi), a gaiff ei chynnal maes o law yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Mae’n seiliedig ar y gwaith cofnodi a wnaethant at bwrpas adrodd hanes ffermdy ucheldirol Cymreig (a adeiladwyd yn wreiddiol fel tŷ rheolwr mwynglawdd plwm), a’i gynnwys, ger Bont-goch. Maen nhw hefyd yn ymchwilio i safleoedd hamdden ac adloniant Aberystwyth, ddoe a heddiw, gyda’r nod o greu taith newydd a thra gwahanol: ‘Llwybr Treftadaeth y Dref: Ysblander, Sioeau a Chân’.

Siafft mwynglawdd yng Nghwmystwyth gyda char wedi’i wthio i mewn iddi
Siafft mwynglawdd yng Nghwmystwyth gyda char wedi’i wthio i mewn iddi

Felly, gadewch i ni beidio â gwrando ar bobl sy’n dweud nad oes gan bobl ifanc ddiddordeb mewn treftadaeth. Ac os oes gennych bobl ifanc gartref sy’n chwilio am syniadau i drechu’r diflastod o orfod aros i mewn, gallai fod yn werth cael sgwrs am yr hyn sydd o werth iddynt ac yr hoffent ei ddiogelu at y dyfodol – a’u hannog efallai i ymgymryd â phrosiect neu waith ymchwil gan ddefnyddio adnoddau ar-lein y Comisiwn Brenhinol a Chasgliad y Werin Cymru. Efallai y bydden nhw hefyd yn hoffi cadw dyddiadur o’r amserau rydyn ni’n byw drwyddynt – fel y gwnaeth Samuel Pepys yn ystod Tân Mawr Llundain a blynyddoedd y Pla Du.

Christopher Catling, Ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol

04/03/2020

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x