Prentis Sylfaen: Gweinyddiaeth Swyddfa

Dyddiad Ago: 14 Mawrth 2016
Dyddiad Cau: 28 Mawrth 2016
Lleoliad: Aberystwyth

Disgrifiad o’r Swydd: Cynllun Prentisiaeth 2016

Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru yw’r Comisiwn Brenhinol. Byddwn yn gwneud gwaith ymchwil a chofnodi ym meysydd archaeoleg, adeiladau, tirweddau ac olion arforol o’r cyfnod cynhanesyddol hyd heddiw. Gofalwn am y Cofnod Henebion Cenedlaethol, sef archif amgylchedd hanesyddol parhaol Cymru sy’n cynnwys mwy na 2 filiwn o ffotograffau, lluniadau, a dogfennau a data digidol eraill. Byddwn hefyd yn helpu pobl i ddysgu am ein treftadaeth gyfoethog drwy gyhoeddi llyfrau a dogfennau eraill a thrwy fynd i sioeau a digwyddiadau. Byddwn yn rhoi sgyrsiau a darlithiau a byddwn hefyd yn rhoi cyngor a gwybodaeth ddiduedd i helpu pobl i reoli’r amgylchedd hanesyddol mewn ffordd gynaliadwy a moesegol. Mae ein swyddfeydd yn Aberystwyth a chyflogwn tua 30 o staff. Mae ein gwaith yn cwmpasu Cymru gyfan.
Mae’r Comisiwn Brenhinol wedi ymrwymo i fuddsoddi yng ngweithlu Cymru at y dyfodol. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn rydym ni’n cynnig cyfle i berson ifanc rhwng 16 a 24 oed i feithrin sgiliau a gwybodaeth ym meysydd cyllid a gweinyddiaeth swyddfa gyffredinol mewn sefydliad treftadaeth cenedlaethol. Bydd y cynllun hwn yn rhoi cyfle i berson ifanc ennill cymhwyster cydnabyddedig a sgiliau marchnadwy tra’n ennill cyflog.
Bydd prentis yn y Comisiwn Brenhinol yn derbyn cyflog o £12,000 y flwyddyn.

Pa hyfforddiant fydd yn cael ei ddarparu?
Byddwch chi’n cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweinyddu Busnes sy’n cynnwys cymhwyster NVQ lefel 2, ynghyd â chymwysterau cysylltiedig eraill. Cewch bob cymorth yn y gweithle i feithrin y sgiliau allweddol, cymhelliant a phrofiad a fydd yn eich rhoi chi mewn sefyllfa well i gael swydd yn y farchnad swyddi gystadleuol.

Am faint y bydd y brentisiaeth yn para?
Bydd y brentisiaeth yn para am gyfnod o 15 mis.

Sut mae gwneud cais?
Mae’r cynllun ar agor i geisiadau o 14 Mawrth hyd 28 Mawrth 2016.  Gallwch wneud cais drwy lawrlwytho ffurflen gais o’n gwefan: www.cbhc.gov.uk
Ar ôl llenwi’r ffurflen gais, bydd angen ei dychwelyd i’n Rheolwr Adnoddau Dynol cyn y dyddiad cau drwy e-bost at sue.billingsley@cbhc.gov.uk neu drwy’r post i CBHC, Adeilad y Goron, Plas Crug, Aberystwyth, Ceredigion.  SY23 1NJ.  Nid ydym ni’n derbyn CVs.
Os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch, byddwch cystal â chysylltu â’n Rheolwr Adnoddau Dynol drwy e-bostio neu ffonio 01970 621228

Graddfa Cyflog: WG Pay Scale
Cyflog: £12,000 per annum
Hyd y cytundeb: 15 month

Dogfennau sy’n ymwneud â swydd benodol:
http://www.cbhc.gov.uk/HI/CYM/Amdanom+Ni/Gweithio+yn+CBHC/Swyddi+sy%27n+Wag+ar+hyn+o+bryd/?vaca=43

03/14/2016

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x