
Prosiect Enwau Lleoedd 2017
Ymgymerwyd â’r prosiect hwn fel rhan o’r modiwl lleoliad gwaith a oedd yn elfen bwysig o’n cwrs Meistr Hanes a Threftadaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dewisasom y Comisiwn Brenhinol ar gyfer ein lleoliad gan ei fod yn sefydliad treftadaeth genedlaethol o fri, wedi’i leoli yn Aberystwyth, ac felly’n lleoliad gwerthfawr i ni ar ein stepen drws.
Roeddem yn ddiolchgar am y cyfle i gymryd rhan mewn prosiect tymor-hir yn y Comisiwn Brenhinol ac i wneud cyfraniadau a fyddai o werth i’r rheiny fydd yn gwneud ymchwil pellach yn y maes. Ein tasg ni oedd ymchwilio i’r Rhestri Sirol o ddisgrifiadau a mynegeion o safleoedd hanesyddol ac archaeolegol yr oedd y Comisiwn (a sefydlwyd ym 1908) wedi dechrau eu cyhoeddi yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif, ac i blotio’n geo-ofodol yr enwau lleoedd hanesyddol sydd wedi’u rhestru yn yr adrannau ‘safleoedd o ddiddordeb hanesyddol a hynafiaethol’, gan ddefnyddio meddalwedd GIS arbenigol y Comisiwn.
Buom yn gweithio ar rai o’r hen siroedd: Sir Gâr, Sir Drefaldwyn, Sir Feirionnydd, Sir Ddinbych a Sir Benfro. Caeau oedd llawer o’r lleoliadau a gofnodwyd gennym ac roedd nifer o’r enwau hyn yn cyfeirio at nodweddion hynafol, megis carneddau a meini hirion. Yr enwau hyn yn aml oedd yr unig dystiolaeth dros safleoedd archaeolegol sydd wedi hen ddiflannu. Safleoedd eraill a gofnodwyd oedd mannau lle safai capeli ar un adeg, neu lle y tybid eu bod yn sefyll.
Roedd y Rhestri’n cofnodi traddodiadau lleol diddorol mewn perthynas â rhai o’r enwau lleoedd yn y cymunedau y buom yn ymchwilio iddynt. Un enghraifft oedd cae o’r enw Church Park ym mhlwyf Llanbedr Felffre. Yn ôl traddodiad, y man hwn oedd lleoliad arfaethedig eglwys y plwyf ond roedd rhyw rym goruwchnaturiol wedi rhwystro’r gwaith adeiladu. Cofnodwyd lleoliad arall fel man claddu bwgan direidus lleol. Yng Nghonwy yr oedd craig folcanig o’r enw ‘Bwrdd Arthur’, yr oedd cadeiriau wedi’u cerfio o’i hamgylch. Roedd yr hanesion anarferol hyn yn gwneud y gwaith yn dipyn o antur. Un agwedd werthfawr arall ar ein gwaith oedd i ni ddod o hyd i safleoedd nad oeddynt wedi’u cofnodi ar Coflein, cronfa ddata ar-lein y Comisiwn o safleoedd archaeolegol a hanesyddol. Caiff y rhain eu hychwanegu er mwyn sicrhau bod Coflein mor gynhwysfawr ag y bo modd.
Yn ogystal â bod o fudd i’r Comisiwn Brenhinol, mae’r lleoliad wedi bod o fudd mawr i ni. Bydd y profiad yn amhrisiadwy wrth i ni chwilio am waith yn y sector treftadaeth oherwydd bod gennym brofiad bellach o ymchwil dogfennol eilaidd, ymdrin â chronfeydd data ar-lein cymhleth, a gweithio mewn amgylchedd swyddfa agored. Bydd ein gwaith ar gael i ddarpar gyflogwyr ei weld ar y wefan enwau lleoedd https://enwaulleoeddhanesyddol.cbhc.gov.uk/, a bydd hyn yn ein gwneud yn fwy cyflogadwy mewn maes hynod gystadleuol. Teimlem fod hwn yn brofiad a oedd yn werthfawr ac yn bleserus, ac iddo ddod i ben yn llawer rhy sydyn o’n safbwynt ni.
Meddai David Thomas, Pennaeth Gwasanaethau Cyhoeddus y Comisiwn Brenhinol:
‘Mae hyn wedi bod yn gyfle gwych i’r Comisiwn, ac i Alex a Rhys, weithio ar brosiect penodol iawn sy’n rhan o’n rhaglen barhaus o waith ar enwau lleoedd hanesyddol Cymru. Yn ogystal â chryfhau ein rhestr o enwau lleoedd hanesyddol, mae wedi datgelu sut byddai ymchwilwyr cynharaf y Comisiwn yn mynd ati i gofnodi gwybodaeth yn rhan gyntaf yr ugeinfed ganrif.’
Gan Alex Murphy a Rhys Rapado
25/05/2017